Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 14 Mai 2019.
Diolch am yr ateb yna. Prif Weinidog, rydym ni'n dathlu 20 mlynedd o'r sefydliad hwn ar hyn o bryd gyda galwad eglur am fwy o Aelodau Cynulliad. Gwelaf fod gan yr Alban, â'i phoblogaeth o bron i 5.5 miliwn, lai o gynghorwyr na Chymru, gyda'n poblogaeth ni o ychydig dros 3 miliwn. Yn fy marn i, rydym ni wedi ein gorgynrychioli yng Nghymru. Prif Weinidog, sut gallwch chi gysoni'r alwad am ragor o ACau gyda'r cyhoedd sy'n talu trethi pan fo dim yn llythrennol—[Torri ar draws.]