Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 14 Mai 2019.
Diolchaf i John Griffiths am hynna. Rydym ni wedi ymrwymo i adeiladu ar lwyddiant diweddar Cymru o ran cynnal digwyddiadau mawr. Rydym ni'n gweithio gyda phartneriaid yng Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol i nodi digwyddiadau sydd â'r potensial i dyfu, ac i fynd ar drywydd cyfleoedd newydd i ddenu digwyddiadau chwaraeon a diwylliannol mawr i bob rhan o Gymru.