Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 14 Mai 2019.
Diolch yn fawr i'r Aelod am dynnu sylw at y ffaith bod y cyngor lleol, a ni fel Llywodraeth hefyd, newydd gefnogi'r bid sydd wedi mynd i mewn i dynnu'r gemau i Ynys Môn yn 2025. Mae'r gemau wedi tyfu dros y blynyddoedd, a nawr mae'n rhywbeth mawr yn y calendr blynyddol. So, dŷn ni'n edrych ymlaen at gydweithio gyda phobl leol i dynnu'r gemau i Ynys Môn a defnyddio'r gemau, fel roedd Rhun ap Iorwerth yn ei ddweud, i helpu'r economi ar yr ynys, i wneud pethau yn y maes iechyd, a jest i ddathlu'r ffaith bod y gemau wedi dod i Ynys Môn ac i Gymru.