Gwasanaethau Cynghori

Part of Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 14 Mai 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 2:29, 14 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau â'i hymrwymiad hirsefydlog i ariannu gwasanaethau cynghori er mwyn sicrhau bod cyngor di-dâl, diduedd a sicr o ran ansawdd ar gael i'r rhai sydd ei angen. Mae hyn yn cydnabod y swyddogaeth hanfodol y mae gwasanaethau cynghori yn ei chyflawni o ran gwella iechyd a lles pobl o bob rhan o'n cymunedau.