Part of Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:34 pm ar 14 Mai 2019.
Mae adroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru yn cyfeirio at ddadansoddiad a gomisiynwyd gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. Mae hwn yn dangos bod effaith negyddol anghymesur yn sgil diwygiadau treth a lles Llywodraeth y DU ers 2010 ar incymau nifer o grwpiau gwarchodedig, gan gynnwys pobl anabl, grwpiau ethnig penodol, a menywod.