Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip – Senedd Cymru ar 14 Mai 2019.
3. Pa ddadansoddiad diweddar y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith llymder ar gydraddoldeb yng Nghymru? OAQ53851
Mae adroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru yn cyfeirio at ddadansoddiad a gomisiynwyd gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. Mae hwn yn dangos bod effaith negyddol anghymesur yn sgil diwygiadau treth a lles Llywodraeth y DU ers 2010 ar incymau nifer o grwpiau gwarchodedig, gan gynnwys pobl anabl, grwpiau ethnig penodol, a menywod.
Diolch am yr ateb hwnnw, Gweinidog. Mae ymweliadau wythnosol â'm swyddfa etholaeth gan bobl sy'n gweld bod eu bywydau'n mynd yn anoddach a'u bod yn wynebu cymdeithas sy'n fwyfwy anghyfartal, yn bennaf oherwydd effeithiau cyni, yn dal i beri syndod a thristwch i mi. Ac er gwaethaf yr hyn y mae Theresa May wedi'i ddweud, mae'r Torïaid yn parhau i wthio cyni ar ein cymunedau. Gweinidog, a ydych chi'n cytuno, gan fod cyni'n parhau i erydu cyfansoddiad cymdeithasol ein cymunedau, gan ddinistrio bywydau gymaint o bobl, ei bod yn hen bryd nawr i Lywodraeth y DU roi'r gorau i'r difrod a chael gwared ar eu polisi cyni?
Yn sicr, rwy'n cytuno â'r Aelod dros Ferthyr Tudful a Rhymni. A heddiw rydym ni wedi gweld cyhoeddi'r ymchwiliad hwn—ymchwiliad y Sefydliad Astudiaethau Cyllid yn cael ei gyhoeddi—i anghydraddoldebau yn yr unfed ganrif ar hugain. Mae eisoes wedi dweud yn y cyhoeddiad cyntaf fod gan y DU lefel uwch o anghydraddoldeb na llawer o wledydd datblygedig eraill. Mae hynny'n frawychus i ni yma yn y DU, yng Nghymru, yn yr unfed ganrif ar hugain. Mae lefelau tlodi ledled Cymru a gweddill y DU yn rhy uchel. Mae cyni ac effaith polisïau diwygio treth a lles Llywodraeth y DU wedi effeithio'n anghymesur ar ein grwpiau mwyaf agored i niwed. Rydym yn parhau i bryderu'n ddirfawr am ddiffygion sylfaenol credyd cynhwysol. Ac yn wir, mae Ymddiriedolaeth Trussell newydd adrodd, pan fydd credyd cynhwysol yn cael ei roi ar waith mewn ardal, bod cynnydd amlwg yn y galw am fanciau bwyd lleol Ymddiriedolaeth Trussell. Ar gyfartaledd, 12 mis ar ôl cyflwyno'r rhaglen, mae banciau bwyd yn gweld cynnydd o 52 y cant yn y galw, o'i gymharu â 13 y cant mewn ardaloedd lle mae credyd cynhwysol wedi bodoli am dri mis neu lai. Felly, gwyddom ni, ac yn wir, gwyddom ni oherwydd effaith y toriadau ar ein cyllideb, yr hyn y mae cyni yn ei wneud, nid yn unig i'n gwasanaethau cyhoeddus, ond i bobl Cymru sydd fwyaf agored i niwed.
Mae'n rhaid sicrhau bod pawb yn cael y cyfle i gael swyddi sy'n talu'n dda neu gyfleoedd hyfforddi, ac mae hynny'n sicr yn wir am bobl sy'n anabl, ac rwy'n credu bod angen rhoi blaenoriaeth i hynny pan fyddwn yn chwilio am Gymru sy'n fwy cyfartal. Byddai o ddiddordeb imi gael gwybod barn y Dirprwy Weinidog am ymgyrch Hyderus o ran Anabledd Llywodraeth y DU, sy'n helpu cyflogwyr i ddeall y gallent fod yn colli allan ar y bobl orau ar gyfer eu sefydliad, os mai'r cyfan y mae nhw'n ei weld yw'r anabledd. Ac mae gennym hyrwyddwr rhagorol ar gyfer y cynllun hwn yn Abertawe—gwn y bydd rhai o'ch cyd-Aelodau ar y fainc flaen yn ymwybodol o Julian John. A byddwch yn gwybod, wrth gwrs, bod Abertawe'n ddinas Hyderus o ran Anabledd. Mae dros 11,000 o gyflogwyr yn rhan o'r cynllun ar hyn o bryd, ond mae Cymru'n dal heb gynrychiolaeth ddigonol ar hwnnw. Felly tybed a wnewch chi rannu rhai syniadau ynghylch sut yr ydych chi'n credu y gallai Llywodraeth Cymru helpu cyflogwyr i ddeall hyn yn well, a hyd yn oed ymrwymo i wneud Llywodraeth Cymru yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Diolch.
Suzy Davies, mae hwnnw'n gynllun pwysig iawn. Ac rydym ni'n gweithio gyda Llywodraeth y DU, a'r adran gyflogaeth yn arbennig, i ystyried ffyrdd y gallwn ni annog mwy o ymwybyddiaeth a defnydd o'r cynllun hwnnw gan gyflogwyr. Mae'n sicr yn bwynt allweddol yr wyf i'n ei drafod â Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth. Oherwydd mae hyn yn ymwneud â chyflogadwyedd, ac mae'n mynd i'r afael yn enwedig ag anghenion pobl anabl yng Nghymru o ran cyfleoedd cyflogaeth. Ac mae hynny'n rhywbeth sydd, wrth gwrs, yn rhan o'n strategaeth genedlaethol, 'Ffyniant i Bawb', oherwydd y mae'n ymwneud hefyd nid yn unig â fframwaith ar gyfer ymagwedd Llywodraeth gyfan, sy'n mynd i'r afael ag achosion sylfaenol tlodi, sydd wrth gwrs yn cynnwys pobl anabl.
Mae'n rhaid imi ddweud, unwaith eto, gan fynd yn ôl at rai o'r problemau y mae pobl anabl yn eu hwynebu ar hyn o bryd, eu bod ar eu colled o ganlyniad i ddiwygiadau lles Llywodraeth y DU. Ac mae angen inni wneud yn siŵr eu bod yn gallu cael cyflogaeth, ond ein bod hefyd yn cydnabod bod rhwystrau y mae'n rhaid inni fynd i'r afael â nhw. Ac wrth gwrs, rydym ni'n chwilio am ffyrdd y gallwn ni ddatblygu ateb, sy'n tarddu o Gymru, i'r problemau hynny ond yn sicr gan ystyried y cynllun Hyderus o ran Anabledd hwnnw.
Mae adroddiad y Sefydliad Astudiaethau Cyllid ar anghydraddoldebau cyfoeth yn y DU wedi dangos y bwlch enfawr rhwng y cyfoethog a'r tlawd. Ymhlith gwledydd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, y DU yw'r ail wlad fwyaf anghyfartal, ar ôl yr Unol Daleithiau. Mae hon yn sefyllfa warthus, ac mae awduron yr adroddiad bellach yn ei ddisgrifio fel bygythiad i ddemocratiaeth. Mae hefyd yn feirniadaeth lem ar amryw Lywodraethau San Steffan sydd wedi bod yn gyfrifol am anghydraddoldeb cynyddol, ac mae hynny'n cynnwys Llafur. Mae'n werth cofio bod cyni wedi dechrau dan y Blaid Lafur, a daeth y banciau bwyd cyntaf i fodolaeth pan oedd Llywodraeth Lafur yn y Deyrnas Unedig. Yma yng Nghymru, mae'n dwylo wedi'u clymu mewn sawl ffordd, gan nad oes gennym ni lawer o'r sbardunau economaidd y mae eu hangen arnom ni i sicrhau newid sylfaenol. Fodd bynnag, prin fod Llafur tra iddynt fod mewn grym wedi gosod esiampl dda drwy gau'r cynllun Cymunedau'n Gyntaf a methu â sefydlu cynllun newydd i'w ddisodli. Felly, yn absenoldeb rhaglen wrth-dlodi benodol, beth yw strategaeth eich Llywodraeth i leihau tlodi?
Yn amlwg, rydym ni'n lliniaru effeithiau tlodi a rhaglen diwygiadau lles niweidiol Llywodraeth y DU. Rwyf wedi cyhoeddi'n ddiweddar, ac mae'n berthnasol iawn i ymchwiliad yr IFS, ein bod yn mynd i gychwyn Rhan 1 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010—y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol—erbyn diwedd y flwyddyn galendr hon, a phan fydd honno wedi'i gweithredu, bydd y ddyletswydd hon yn golygu y bydd yn rhaid i gyrff cyhoeddus ystyried yr hyn y gallant ei wneud i leihau tlodi ac anghydraddoldeb pryd bynnag y byddant yn gwneud penderfyniadau mawr.
Ond hefyd, er gwaethaf y ffaith ein bod wedi cael cyllideb o 5 y cant yn is mewn termau real o ganlyniad i gyni, sy'n bwynt allweddol yn y cwestiwn hwn, yn cyfateb i £800 miliwn yn llai o ganlyniad i gyni gan y Llywodraeth Dorïaidd hon, rydym ni wedi gweithredu'r gronfa cymorth dewisol, gan gefnogi 214,326 o ddyfarniadau i'r bobl fwyaf agored i niwed yng Nghymru. Cefnogir cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor â £244 miliwn o gyllid gan Lywodraeth Cymru. A'r hyn sy'n hollbwysig am y polisïau hyn y mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi'u datblygu yw bod bron i 300,000 o aelwydydd agored i niwed ac incwm isel yng Nghymru, o ganlyniad i gynllun gostyngiadau'r dreth gyngor, yn parhau i gael eu diogelu rhag unrhyw gynnydd ym maint y dreth gyngor y mae angen iddynt ei thalu. Rydym yn buddsoddi £104 miliwn yn y rhaglen Cartrefi Cynnes i wella hyd at 25,000 o gartrefi eraill ar gyfer bobl ar incwm isel. Nawr, yr hyn sy'n hollbwysig yw bod pobl yn gallu gweld ein bod ni, fel Llywodraeth Cymru yma, yn gweithio ac yn defnyddio adnoddau prin gyda'r toriadau hynny gan Lywodraeth y DU i flaenoriaethu ffyrdd y gallwn ni liniaru effaith y diwygiadau lles a'r cyni.