Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015

Part of Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 14 Mai 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 2:50, 14 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

Mae'n rhaid i awdurdodau lleol ystyried amcanion Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol Cymru ac ystyried effaith hirdymor y penderfyniadau maen nhw'n eu gwneud, ac, wrth gwrs, mae hynny'n cynnwys pob datblygiad. Rwy'n credu mai'r hyn sy'n hynod bwysig, Janet Finch-Saunders, yw fy mod i wedi sôn am y ffaith bod y polisi cynllunio cenedlaethol, sy'n hanfodol i'r materion hyn, wedi ei ail-lunio gan ddefnyddio'r Ddeddf.