3. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am y Cynllun Gweithredu ar gyfer Dementia

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:20 pm ar 14 Mai 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 3:20, 14 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

Yn rhan o'r gwaith yma rydym ni'n gweld enghreifftiau o gymorth seibiant hyblyg a galluogol, fel allgymorth hyblyg, ac yn cynnig dewisiadau o ran seibiant y tu hwnt i'r arhosiad traddodiadol am ysbaid mewn cartref gofal. Ar yr un pryd, rydym ni'n gweld cynnydd yn y gefnogaeth i'r rhai sydd mewn cartrefi gofal neu mewn ysbyty fel bod pobl y mae dementia'n effeithio arnyn nhw yn cael gofal a chymorth personol waeth ble maen nhw. Mae gennym ni enghreifftiau o waith yn mynd rhagddo mewn cartrefi gofal, sy'n cryfhau'r dull hwnnw o weithio sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, a phrosiectau sy'n cefnogi rhyddhau cleifion o ysbytai mewn modd cynlluniedig.  

Yn ogystal â'r arian sy'n cael ei gyfeirio drwy'r gronfa gofal integredig, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cymorth i Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru. Mae hyn yn cynnwys sefydlu tîm dementia, hyfforddiant ac ymwybyddiaeth i hyrwyddwyr, a darparu hyfforddiant i'r rhai sy'n ateb galwadau'r gwasanaethau brys. Mae Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru hefyd wedi bod yn rhan o'r gwaith o sefydlu gweithgor dementia golau glas Cymru gyfan, a fydd yn gweithio gyda'i gilydd i rannu'r arferion gorau. Y nod yw sicrhau bod holl staff Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru sy'n dod i gysylltiad â phobl y mae dementia'n effeithio arnyn nhw yn cael eu hyfforddi i ddeall eu hanghenion a sut i ddarparu cymorth.

Un o'r ffyrdd y mae'r cynllun wedi helpu i ddatblygu'r ddadl ynglŷn â dementia yw'r gydnabyddiaeth i anghenion amrywiol grwpiau penodol, er enghraifft, pobl â nodweddion gwarchodedig a allai fod yn byw gyda dementia a phobl a allai ddeall eu hiaith gyntaf yn unig wrth i'w cyflwr waethygu. Mae adroddiad diweddar Comisiynydd y Gymraeg a Chymdeithas Alzheimer Cymru ar yr iaith Gymraeg a dementia wedi gwneud nifer o argymhellion ac wedi sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen i oruchwylio'r gwelliannau hyn. Bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn aelodau o'r grŵp hwnnw er mwyn i ni allu ystyried unrhyw waith pellach sydd ei angen yn y maes hwn.  

Mae rhaglen Mil o Fywydau Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd yn gweithio gyda gwasanaethau asesu'r cof i gytuno ar safonau ac egwyddorion y bydd pob gwasanaeth yn gweithio tuag atyn nhw yn rhan o'r llwybr dementia. Mae hynny'n cynnwys cyn cael diagnosis, y cyfnod asesu a chymorth ac ymyrraeth ar ôl cael diagnosis.

Mae cymell yr ystod o welliannau yr ydym ni eisiau eu gweld o ganlyniad i'r cynllun gweithredu ar ddementia a'r buddsoddiad ychwanegol cysylltiedig yn allweddol. I'r perwyl hwnnw, rydym ni wedi sefydlu grŵp ar oruchwylio gweithrediad ac effaith ym maes dementia, sy'n sail i, yn goruchwylio ac yn monitro cynnydd yn erbyn y camau gweithredu a nodir yn y cynllun. Rwy'n ddiolchgar iawn i holl Aelodau'r grŵp hwn, sy'n cynnwys defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr, pobl sydd â phrofiad bywyd o fyw a gweithio gyda dementia, am eu hymroddiad a'u her barhaus.  

Mae cael y math priodol o weithlu, wrth gwrs, yn hollbwysig yn y maes hwn ac rydym ni wedi sefydlu is-grŵp dysgu a datblygu, dan arweiniad Gofal Cymdeithasol Cymru, i sefydlu dull galluogi ar gyfer y gweithlu o ran gofal dementia yma yng Nghymru. Bydd y dull hwn o ddysgu a datblygu yn canolbwyntio ar egwyddorion y fframwaith 'Gwaith Da' y cefais y pleser o'i lansio yn Ysbyty Ystrad Fawr. Mae'n rhoi unigolion wrth wraidd dysgu a datblygu ac yn canolbwyntio ar arferion tosturiol. Nod hyn i gyd yw gwella gofal i bobl sy'n byw gyda dementia, eu teuluoedd a'u gofalwyr.

Mae'r cynllun gweithredu ar ddementia yn arwydd o'r ffaith y byddem yn creu swydd Ymarferydd Ymgynghorol Dementia Perthynol i Iechyd Cymru Gyfan er mwyn helpu i hybu gwelliannau pellach ac i sicrhau bod cymorth a chyngor ar gael i fyrddau iechyd ac awdurdodau lleol ynglŷn â'u prosesau gwella. Rydym ni bellach wedi cwblhau'r holl waith paratoi angenrheidiol, ac rwy'n falch o gadarnhau y byddwn yn dechrau ar y broses recriwtio ar gyfer y swydd yn fuan, ac rwy'n disgwyl y bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ei swydd erbyn diwedd yr haf.

Yn olaf, rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i fod yn sefydliad sy'n deall dementia. Mae dros 200 o'n staff eisoes yn cael hyfforddiant. Mae'n bwysig bod y Llywodraeth yn helpu i arwain drwy esiampl, wrth gydnabod ein swyddogaeth fel cyflogwr mawr a'r effaith gadarnhaol y gall hynny ei chael ar gefnogi cydweithwyr, ffrindiau a'n cymunedau lleol sy'n byw gyda dementia.

O ystyried y trefniadau partneriaeth cryf sydd gennym ni yng Nghymru rwy'n credu ein bod ni mewn sefyllfa dda i barhau i greu cymdeithas sy'n rhoi cefnogaeth gadarnhaol i'r rhai sydd wedi cael diagnosis o ddementia. Mae cymdeithas sy'n heneiddio yn golygu y bydd yr heriau yn y maes hwn yn cynyddu ond mae blwyddyn gyntaf y cynllun gweithredu ar ddementia wedi sefydlu llawer o'r pethau y credwn ni y bydd eu hangen arnom ni i ymateb yn effeithiol i'r heriau cydnabyddedig hynny. Dim ond drwy gydweithio y gallwn ni wireddu'r weledigaeth ar y cyd fel y gall Cymru mewn gwirionedd fod yn genedl sy'n deall dementia.