3. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am y Cynllun Gweithredu ar gyfer Dementia

– Senedd Cymru am 3:16 pm ar 14 Mai 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 3:16, 14 Mai 2019

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun gweithredu ar gyfer dementia. Ac dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud ei ddatganiad—Vaughan Gething.

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Mae'r wythnos nesaf yn Wythnos Ymwybyddiaeth o Ddementia. Ym mis Chwefror y llynedd, lansiais gynllun gweithredu Cymru ar gyfer dementia. Mae'r cynllun yn amlinellu ein gweledigaeth i Gymru fod yn genedl sy'n deall dementia ac sy'n cydnabod hawliau pobl â dementia i deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac i fyw mor annibynnol â phosib yn eu cymunedau. Roedd y cynllun yn seiliedig i raddau helaeth ar brofiad pobl sy'n byw gyda dementia a'r rheini sy'n gofalu am bobl â diagnosis o ddementia. Rwy'n benderfynol y bydd profiad byw pobl sy'n byw gyda dementia yn parhau i arwain y gwaith o gyflawni ein cynllun wrth i ni ei ddatblygu gyda rhanddeiliaid allweddol ym maes iechyd, llywodraeth leol a'r trydydd sector.

Wrth ddechrau arni, rwy'n cydnabod y pwysau ar wasanaethau rheng flaen a'r angen i wireddu'r uchelgais a nodir yn y cynllun gweithredu. Dyna pam y cyhoeddais £10 miliwn y flwyddyn o'r flwyddyn ariannol ddiwethaf i gefnogi'r gwaith o gyflawni'r camau allweddol yn ein cynllun. Rwy'n glir bod yn rhaid i'r buddsoddiad o adnoddau ychwanegol arwain at newid sylweddol yn y gwasanaethau dementia. Mae'n rhaid i hynny olygu bod y bobl yr effeithir arnyn nhw fwyaf yn teimlo'r gwelliant hwnnw yn rhan o'u bywydau bob dydd. Rwyf hefyd yn glir, yn unol â'n hymrwymiad yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015, y bydd yr adnoddau ychwanegol yn canolbwyntio ar atal.

Er mwyn sicrhau bod y gwelliannau'n cael eu cymell yn lleol ac mewn ffordd gydgysylltiedig, dosbarthwyd £9 miliwn o'r arian ychwanegol i fyrddau partneriaethau rhanbarthol drwy'r gronfa gofal integredig. O ganlyniad i'r cyllid hwn a'n dull integredig o weithio, rydym ni nawr yn gweld newid cadarnhaol a phendant. Er enghraifft, erbyn hyn mae cymorth ychwanegol ar gael i glinigau dan arweiniad meddygon teulu i gynyddu cyfraddau diagnosis, a oedd, fel y gŵyr yr Aelodau, yn flaenoriaeth ac yn bryder allweddol yn y cynllun. Rydym ni hefyd wedi gweld cynnydd yn nifer y gweithwyr cymorth ymroddedig sy'n chwarae rhan allweddol yn y gwaith o sicrhau bod gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn cael ei ddarparu.

Ers cyhoeddi'r cynllun, mae nifer y cyfeillion dementia a'r cymunedau sy'n deall dementia wedi cynyddu hefyd. Erbyn hyn mae gennym ni 19 o gymunedau ychwanegol sy'n deall dementia, sy'n golygu bod 72 o gymunedau sy'n deall dementia yma yng Nghymru, ac mae 38,000 o gyfeillion dementia ychwanegol wedi'u hyfforddi yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn rhan o fenter y Gymdeithas Alzheimer. Ac mae Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, yn parhau i ddarparu cyllid er mwyn helpu i gefnogi'r fenter cyfeillion dementia. Mae hynny'n chwarae rhan allweddol yn y gwaith o fynd i'r afael â stigma, gwella cymorth yn y gymuned a chynyddu ymwybyddiaeth a'n dealltwriaeth o ddementia.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydym ni wedi gweld ein hysbyty acíwt cyntaf yng Nghymru yn cael statws deall dementia gan y Gymdeithas Alzheimer. Ysbyty Gwynedd yw'r ail ysbyty yn unig yn y DU i dderbyn y statws yma. Mae'n cydnabod gweithredu cadarnhaol ein staff i ymateb i anghenion y gymuned leol.

Cam gweithredu allweddol arall yn y cynllun oedd datblygu timau o amgylch yr unigolyn sy'n darparu gofal a chymorth integredig sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae'r cynllun yn ei gwneud hi'n glir na fydd cael un ateb cyffredinol i bopeth yn gweithio, ac mae angen i feysydd ystyried pa newid sy'n angenrheidiol er mwyn gallu creu gwasanaethau sy'n addasu i'r hyn sy'n ofynnol wrth i anghenion unigolyn newid. Mae pob maes bellach yn dangos sut mae hyn yn cael ei wireddu, er enghraifft, drwy ddatblygu timau amlddisgyblaethol, gyda phwyslais ar gynnwys gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd er mwyn darparu dull o ailalluogi. Yn hollbwysig, mae'r timau hyn yn gallu darparu gofal mwy integredig drwy weithgareddau sy'n cael eu llywio gan y sectorau statudol a gwirfoddol.  

Daeth Joyce Watson i’r Gadair.

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 3:20, 14 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

Yn rhan o'r gwaith yma rydym ni'n gweld enghreifftiau o gymorth seibiant hyblyg a galluogol, fel allgymorth hyblyg, ac yn cynnig dewisiadau o ran seibiant y tu hwnt i'r arhosiad traddodiadol am ysbaid mewn cartref gofal. Ar yr un pryd, rydym ni'n gweld cynnydd yn y gefnogaeth i'r rhai sydd mewn cartrefi gofal neu mewn ysbyty fel bod pobl y mae dementia'n effeithio arnyn nhw yn cael gofal a chymorth personol waeth ble maen nhw. Mae gennym ni enghreifftiau o waith yn mynd rhagddo mewn cartrefi gofal, sy'n cryfhau'r dull hwnnw o weithio sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, a phrosiectau sy'n cefnogi rhyddhau cleifion o ysbytai mewn modd cynlluniedig.  

Yn ogystal â'r arian sy'n cael ei gyfeirio drwy'r gronfa gofal integredig, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cymorth i Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru. Mae hyn yn cynnwys sefydlu tîm dementia, hyfforddiant ac ymwybyddiaeth i hyrwyddwyr, a darparu hyfforddiant i'r rhai sy'n ateb galwadau'r gwasanaethau brys. Mae Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru hefyd wedi bod yn rhan o'r gwaith o sefydlu gweithgor dementia golau glas Cymru gyfan, a fydd yn gweithio gyda'i gilydd i rannu'r arferion gorau. Y nod yw sicrhau bod holl staff Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru sy'n dod i gysylltiad â phobl y mae dementia'n effeithio arnyn nhw yn cael eu hyfforddi i ddeall eu hanghenion a sut i ddarparu cymorth.

Un o'r ffyrdd y mae'r cynllun wedi helpu i ddatblygu'r ddadl ynglŷn â dementia yw'r gydnabyddiaeth i anghenion amrywiol grwpiau penodol, er enghraifft, pobl â nodweddion gwarchodedig a allai fod yn byw gyda dementia a phobl a allai ddeall eu hiaith gyntaf yn unig wrth i'w cyflwr waethygu. Mae adroddiad diweddar Comisiynydd y Gymraeg a Chymdeithas Alzheimer Cymru ar yr iaith Gymraeg a dementia wedi gwneud nifer o argymhellion ac wedi sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen i oruchwylio'r gwelliannau hyn. Bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn aelodau o'r grŵp hwnnw er mwyn i ni allu ystyried unrhyw waith pellach sydd ei angen yn y maes hwn.  

Mae rhaglen Mil o Fywydau Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd yn gweithio gyda gwasanaethau asesu'r cof i gytuno ar safonau ac egwyddorion y bydd pob gwasanaeth yn gweithio tuag atyn nhw yn rhan o'r llwybr dementia. Mae hynny'n cynnwys cyn cael diagnosis, y cyfnod asesu a chymorth ac ymyrraeth ar ôl cael diagnosis.

Mae cymell yr ystod o welliannau yr ydym ni eisiau eu gweld o ganlyniad i'r cynllun gweithredu ar ddementia a'r buddsoddiad ychwanegol cysylltiedig yn allweddol. I'r perwyl hwnnw, rydym ni wedi sefydlu grŵp ar oruchwylio gweithrediad ac effaith ym maes dementia, sy'n sail i, yn goruchwylio ac yn monitro cynnydd yn erbyn y camau gweithredu a nodir yn y cynllun. Rwy'n ddiolchgar iawn i holl Aelodau'r grŵp hwn, sy'n cynnwys defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr, pobl sydd â phrofiad bywyd o fyw a gweithio gyda dementia, am eu hymroddiad a'u her barhaus.  

Mae cael y math priodol o weithlu, wrth gwrs, yn hollbwysig yn y maes hwn ac rydym ni wedi sefydlu is-grŵp dysgu a datblygu, dan arweiniad Gofal Cymdeithasol Cymru, i sefydlu dull galluogi ar gyfer y gweithlu o ran gofal dementia yma yng Nghymru. Bydd y dull hwn o ddysgu a datblygu yn canolbwyntio ar egwyddorion y fframwaith 'Gwaith Da' y cefais y pleser o'i lansio yn Ysbyty Ystrad Fawr. Mae'n rhoi unigolion wrth wraidd dysgu a datblygu ac yn canolbwyntio ar arferion tosturiol. Nod hyn i gyd yw gwella gofal i bobl sy'n byw gyda dementia, eu teuluoedd a'u gofalwyr.

Mae'r cynllun gweithredu ar ddementia yn arwydd o'r ffaith y byddem yn creu swydd Ymarferydd Ymgynghorol Dementia Perthynol i Iechyd Cymru Gyfan er mwyn helpu i hybu gwelliannau pellach ac i sicrhau bod cymorth a chyngor ar gael i fyrddau iechyd ac awdurdodau lleol ynglŷn â'u prosesau gwella. Rydym ni bellach wedi cwblhau'r holl waith paratoi angenrheidiol, ac rwy'n falch o gadarnhau y byddwn yn dechrau ar y broses recriwtio ar gyfer y swydd yn fuan, ac rwy'n disgwyl y bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ei swydd erbyn diwedd yr haf.

Yn olaf, rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i fod yn sefydliad sy'n deall dementia. Mae dros 200 o'n staff eisoes yn cael hyfforddiant. Mae'n bwysig bod y Llywodraeth yn helpu i arwain drwy esiampl, wrth gydnabod ein swyddogaeth fel cyflogwr mawr a'r effaith gadarnhaol y gall hynny ei chael ar gefnogi cydweithwyr, ffrindiau a'n cymunedau lleol sy'n byw gyda dementia.

O ystyried y trefniadau partneriaeth cryf sydd gennym ni yng Nghymru rwy'n credu ein bod ni mewn sefyllfa dda i barhau i greu cymdeithas sy'n rhoi cefnogaeth gadarnhaol i'r rhai sydd wedi cael diagnosis o ddementia. Mae cymdeithas sy'n heneiddio yn golygu y bydd yr heriau yn y maes hwn yn cynyddu ond mae blwyddyn gyntaf y cynllun gweithredu ar ddementia wedi sefydlu llawer o'r pethau y credwn ni y bydd eu hangen arnom ni i ymateb yn effeithiol i'r heriau cydnabyddedig hynny. Dim ond drwy gydweithio y gallwn ni wireddu'r weledigaeth ar y cyd fel y gall Cymru mewn gwirionedd fod yn genedl sy'n deall dementia.

Photo of Joyce Watson Joyce Watson Labour 3:24, 14 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

Fe hoffwn i alw ar Janet Finch-Saunders.

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative

(Cyfieithwyd)

Diolch. Diolch, Gweinidog, am eich datganiad. Mae'r cynllun gweithredu ar ddementia, wrth gwrs, yn addo gwella gwasanaethau dementia sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac mae'n seiliedig ar nifer o egwyddorion mewn datganiadau ynglŷn â dementia, gan gynnwys yr hawl i gael diagnosis cynnar a chywir. Mae diagnosis, wrth gwrs, yn rhan bwysig o'ch cynllun, yn enwedig gan eich bod hyd yn oed yn cydnabod mai dim ond tua 53 y cant o unigolion yng Nghymru y mae dementia arnyn nhw sydd wedi cael diagnosis. Yn wir, canfuwyd nad yw bron i 19,000 o bobl sydd â dementia wedi cael diagnosis o hyd yn 2017-18.

Felly, o ran cyflawniadau realistig yn y maes hwn, a allech chi gadarnhau eich bod wedi cyflawni'ch ymrwymiad yn y cynllun i osod targedau ar gyfer byrddau iechyd i gynyddu cyfraddau diagnosis o 3 y cant o leiaf y flwyddyn a bod hynny'n cael sylw? Ac, ar ôl cael diagnosis, mae'n hanfodol cael system gymorth hyblyg. Felly, ymrwymodd Llywodraeth Cymru i ddatblygu'r timau amlddisgyblaethol o amgylch yr unigolyn.

Felly, os yw hynny'n wir, a bod hynny wedi'i gyflawni, a allech chi gadarnhau i'r Siambr heddiw fod pob unigolyn sy'n byw gyda dementia sydd wedi'i amlygu a'i ganfod mewn gwirionedd wedi derbyn cynllun gofal sylfaenol? Diolch.

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 3:26, 14 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch am y cwestiynau. Fe wnes i nodi yn fy natganiad ac ailadrodd pwysigrwydd diagnosis. Roedd hi'n fater o bryder penodol, gan y gymuned ehangach sy'n byw gyda dementia, yn ogystal ag Aelodau'r Cynulliad, yn y cyfnod cyn y cynllun. Mae'r ymrwymiadau yn y cynllun yn dal i fod, ynghylch ein disgwyliad i weld cynnydd o flwyddyn i flwyddyn drwy'r cynllun. Mae gennym ni hefyd adolygiad canol cyfnod i ddeall pa mor llwyddiannus y buom ni. Nesaf, bydd ffigurau ar gael am y cynnydd yng nghyfraddau diagnosis ym mis Medi eleni. Ond, fel y dywedais yn fy natganiad, rydym ni'n gwneud sawl peth ymarferol i geisio cynorthwyo hynny. O ran cymorth hyblyg, unwaith eto, soniais yn fy natganiad am y pethau amrywiol yr ydym ni'n eu gwneud i ddarparu'r cymorth hyblyg hwnnw ac mewn gwirionedd y sylw ynghylch cael timau o amgylch yr unigolyn i ddeall anghenion y person hwnnw, beth sydd o bwys i'r person hwnnw, a sut y gall hynny newid dros amser wrth i'r cyflwr waethygu.

Ac, o ran cael sicrwydd bod popeth yn ei le nawr, rwy'n credu y byddai'n ffôl i mi geisio awgrymu bod hynny yn ei le. Mae hon yn daith barhaus. Ac ar y daith wella honno, dylai pob un ohonom ni gydnabod na fydd pob ymyriad unigol yn cael ei gyflawni'n llwyddiannus. Bydd mwy i ni ddysgu am yr hyn nad ydym ni'n ei wneud yn gywir yn ogystal â'r hyn yr ydym ni wedi ei wneud yn gywir. Felly, rwyf eisiau bod yn realistig ac yn onest gyda phobl ynghylch lle'r ydym ni arni. Mae'n daith o wella. Ceir ymrwymiad enfawr gan ein staff yn yr awdurdodau lleol a'r gwasanaeth iechyd yn arbennig, a'r trydydd sector. Ond yn allweddol i hynny mae ymrwymiad pobl sy'n byw gyda dementia i helpu i lywio'r gwaith yr ydym ni'n ei wneud ac i fod yn bartneriaid gonest gan ein herio a'n cefnogi ni o ran gwelliant yr ydym ni i gyd yn cydnabod sydd ei angen.

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 3:27, 14 Mai 2019

Rwy'n falch o allu ymateb i'r datganiad yma gan y Gweinidog—y diweddariad yma ar y cynllun dementia. Gaf i ddechrau drwy gydnabod fy mod i wedi bod yn is-lywydd Cymdeithas Clefyd Alzheimer ers dros ryw 20 mlynyddoedd, ac yn y blynyddoedd diwethaf yma wedi bod yn is-lywydd Forget Me Not dementia clubs yn Abertawe? A hefyd mae gyda fi brofiad personol yn y ddwy flynedd ddiwethaf o ddementia wedi i fy nhad farw yn ddiweddar, wedi misoedd o gystudd trwm efo dementia.

Wedyn, fy mhwyslais i yn ymateb i hyn ydy'r gwahaniaeth angenrheidiol sydd ei angen mewn gwasanaethau yn ein cymuned ni, wedi olrhain fy nghysylltiadau efo nghymdeithas efo Cymdeithas Clefyd Alzheimer a Forget Me Not clubs ac ati, ac mae yna lu o bobl eraill yn gweithio'n wirfoddol yn ein cymunedau ni. Ac, wrth gwrs, mae'r rhan fwyaf o'r gofalu am bobl efo dementia hefyd yn cael ei wneud yn wirfoddol gan deuluoedd ac ati. Mae eu cyfraniad nhw yn hollol, hollol allweddol yn hyn o beth. Pe buasai fo i gyd yn disgyn ar ysgwyddau gofal cymdeithasol a'r gwasanaeth iechyd, fuasem ni ddim yn gallu ymdopi â'r sefyllfa enbydus o gwbl. Felly mae'n bwysig i ni gydnabod a thalu teyrnged i gyfraniad ac ymroddiad gofalwyr gwirfoddol ledled Cymru yn hyn o beth.

Ac, wrth gwrs, fel y mae'r Gweinidog eisoes wedi ei ddweud, mae yna dal stigma. Mae pobl ofn trafod dementia, ofn bod mewn cysylltiad â phobl efo dementia. Mae hynna'n rhan o'r pwysigrwydd o gael yr hyfforddiant yna i ddod yn ddementia gyfeillgar, fel y mae'r Gweinidog eisoes wedi sôn. A'r angen am amynedd. Pan ŷch chi yn y ciw, yn talu am rywbeth, neu'n disgwyl i dalu am rywbeth, y tu ôl i rywun sydd efo dementia, mae angen amynedd, ac nid pwyso a thrio prysuro pobl. Mae angen amynedd i roi digon o amser i bobl. Achos, ar ddiwedd y dydd, mae lot o hyn i ymwneud ag atal y rhagfarn yna sydd yn erbyn dementia a gofal dementia, achos mae pobl yn credu nad yw e'n ddim byd corfforol, taw rhywbeth i wneud efo iechyd meddwl yw e. Ond, wrth gwrs, mae dementia yn glefyd corfforol achos mae'r ymennydd yn crebachu; mae'r ymennydd yn mynd yn llai o faint. Mae hwnna yn glefyd corfforol, felly mae dementia yn haeddu triniaeth gyfartal efo cyflyrau corfforol eraill, a dyna beth sydd ddim yn digwydd ar hyn o bryd. A phetai e'n cael ei ymdrin fel yna, byddem ni'n cael yr un faint o barch tuag at ddioddefwyr dementia ag sydd i bobl sydd yn dioddef, dywedwch, o ganser neu glefyd y galon.

Felly, mae yna swmp o waith i'w wneud yn nhermau atal y rhagfarn yna yn ein cymdeithas ni yn erbyn y sawl sydd efo dementia, a byddwn yn licio gweld beth mae'r Gweinidog yn ei wneud i symud ymlaen efo'i gynllun sy'n mynd i wneud rhywbeth ynglŷn â hynny. Yn y pen draw, rydym ni yn sôn am ofal ar y llawr ac angen am fwy o wasanaethau penodol ar y llawr.

Gofal cymdeithasol: mae'r Gweinidog yn gwybod fy syniadau i am gael gwasanaeth gofal cenedlaethol, achos mae safon y gofal rŵan yn aml yn ddiffygiol, yn beryglus, neu ddim ar gael o gwbl, ac mae'r cwbl yn cwympo ar deuluoedd. Mae angen mwy o ofal seibiant; pan fo teuluoedd o dan bwysau enbydus, mae angen mwy o ofal seibiant. Ac felly, oes gyda'r Gweinidog gynlluniau yn benodol i gynyddu faint o ofal seibiant sydd ar gael?

Dwi yn croesawu beth ddywedodd e ynglŷn â phobl, yn enwedig yma yng Nghymru, sydd yn siarad Cymraeg iaith gyntaf. Wrth gwrs, fel mae dementia yn datblygu, dŷch chi'n colli'r gallu i siarad eich ail iaith yn weddol fuan, felly mae angen darpariaethau, mae angen gwasanaethau yn yr iaith Gymraeg er mwyn gallu delio efo pobl sy'n dioddef o dementia, sydd yn siarad Cymraeg fel eu hiaith gyntaf, achos mae nhw'n colli eu hail iaith. Mae hynny yn digwydd ym mhob gwlad sydd efo mwy nag un iaith. Ond mae angen strategaeth ar fyrder i fynd i'r afael efo hynny, achos, wrth gwrs, ein pobl ni sydd yn heneiddio sydd yn tueddu i gael dementia. Nid yw wastad ynghlwm â henaint, ond mae yna ganran sylweddol o'r rheiny sydd yn siaradwyr Cymraeg naturiol, a dyna'r unig iaith sydd gyda nhw pan mae'r dementia yn cydio, fel roedd profiad fy nhad fy hun yn ei brofi. 

Felly, ar ddiwedd y dydd, dwi'n croesawu'r datganiad, dwi'n croesawu'r gwaith sydd yn mynd ymlaen. Ond ar ddiwedd y dydd, fel rydych chi wedi crybwyll eisoes—step change rydych chi'n ei ddweud—mae eisiau trawsnewid maint a sylwedd ac ansawdd y gwasanaethau sydd ar lawr gwlad er mwyn i ni fynd i'r afael â hyn a rhoi tegwch a chwarae teg i'n pobl ni efo dementia a'u teuluoedd. Diolch yn fawr. 

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 3:33, 14 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Aelod am ei sylwadau a'i gwestiynau. Byddaf yn ymdrin ag amrywiaeth o'r pethau penodol y gwnaethoch chi sôn amdanyn nhw. Ond o ran eich sylw olaf am y ddarpariaeth Gymraeg, yn y datganiad, rwyf wedi nodi'r gwaith sydd wedi'i wneud ar y cyd, yn gyntaf gyda Chomisiynydd y Gymraeg a'r Gymdeithas Alzheimer, a bydd y grŵp gorchwyl a gorffen hwnnw yn helpu i roi mwy o wybodaeth i ni am yr hyn sydd angen inni ei wneud. A chan fod Lywodraeth Cymru yn cymryd rhan yn y grŵp gorchwyl a gorffen, byddwn yn dysgu yn ystod hynny, nid dim ond pan gawn ni'r adroddiad terfynol. Yn amlwg, byddwn ni wedyn yn disgwyl ymateb i hynny a deall sut y byddwn ni'n diwygio gwasanaethau—nid dim ond cyfarwyddeb ganolog gan y Llywodraeth, ond, mewn gwirionedd, sut y bydd angen i bob un o'r grwpiau partneriaeth rhanbarthol hynny ailfeddwl ynghylch y modd y maen nhw'n darparu gwasanaethau. Nid yw hyn yn ddewis gofal, ond yn angen gofal, ac mae angen i ni adlewyrchu hynny.  

O ran eich pwyntiau ehangach ynghylch cydnabod cyfraniad y sector gwirfoddol, mae'r sefydliadau eu hunain yn ymwneud â threfnu gweithgareddau, cymorth a gwasanaethau, yn ogystal ag eiriolaeth, gan ein cefnogi a'n herio, unwaith eto, i gydnabod swyddogaeth gofalwyr unigol—yn aml, aelodau o deuluoedd sy'n mynd yr ail filltir ac yn cysegru llawer o'u bywyd i ofalu am anwyliaid. A heb hynny, ni fyddem yn darparu dim ond gwasanaeth, ond y math o dosturi ac urddas yr ydym ni eisiau ei weld. Sy'n arwain at y sylw yr ydych chi'n ei wneud am yr her o ran stigma. Felly, ar gyfer popeth y mae gennym ni gyfrifoldeb i'w wneud yn y Llywodraeth, yn y gwasanaeth iechyd, mewn awdurdodau lleol, mae llawer o'r hyn a drafodwn yn ymwneud â'r rhan sydd gennym ni fel aelodau o gymdeithas a'r wlad yr ydym ni'n byw ynddi, a dyna pam ein bod ni'n anelu at fod yn wlad sy'n deall dementia. Mae'n ymwneud â'r ffordd yr ydym ni'n ymddwyn gydag a thuag at bobl eraill, nid yn unig y rhai yr ydym ni'n eu hadnabod, ond yn benodol, sut yr ydym ni'n ymddwyn tuag at y bobl hynny nad ydym ni'n eu hadnabod, a'r pwynt hwnnw am fwy o oddefgarwch a dealltwriaeth, byddai hynny nid yn unig yn gwneud gwahaniaeth yma yn y maes dementia, ond yn fwy cyffredinol. Rwy'n meddwl am y ffordd yr ydym ni'n barod i drin pobl eraill, ac yn disgwyl cael ein trin ein hunain.

Dyna pam fy mod i'n arbennig o falch o weld cynifer o bobl, dros un flwyddyn yn unig, sydd wedi bod yn ymgysylltu ac wedi dod yn gyfeillion dementia—38,000 o bobl ychwanegol mewn un flwyddyn, sef 158,000 o gyfeillion dementia bellach ledled Cymru. Mae hynny'n gam cadarnhaol iawn ymlaen. A gallaf ddweud, o'm safbwynt i fy hun, fy swyddfa etholaeth a minnau, rydym ni yn gyfeillion dementia—rwyf innau'n gyfaill dementia—ac wedi gwneud yr hyfforddiant. Oherwydd rwy'n cydnabod nad oedd a wnelo hynny dim ond â'r gwaith yr wyf yn ei wneud yn y fan yma, ond mewn gwirionedd, fel Aelodau etholaeth, rydym ni eisoes yn gweithio gyda phobl sy'n byw gyda dementia, a bydd pobl sy'n byw gyda dementia yn cysylltu â ni nawr ac yn y dyfodol hefyd. Mae'n rhan fawr o'n hetholaeth yn barod, ac i Aelodau eraill yma hefyd sy'n cynrychioli etholaeth neu ranbarth. Ac rwy'n gwybod bod Jayne Bryant ac eraill yn ceisio annog pobl fel y gallai'r fan yma fod y Senedd gyntaf sy'n deall dementia hefyd, os yw pob aelod wedi gwneud yr hyfforddiant hwnnw, ynghyd â'u staff, a byddwn yn annog pobl i wneud hynny.

Ynglŷn â'ch pwyntiau ehangach ynghylch sut y mae hynny'n helpu, mewn gwirionedd, rydym ni'n gweld mwy a mwy o bobl yn cymryd rhan ar draws y sector manwerthu, er enghraifft, nid dim ond y gefnogaeth o ran yr arian elusennol y mae pobl yn ei roi, ond mewn gwirionedd, unwaith eto, yn annog eu staff i ddod yn gyfeillion dementia. Ac mae Boots yn enghraifft dda; mae fferyllfeydd cymunedol a lluosog eraill ar gael. Ond yn yr un arbennig yma, rhan Cymru o'r cwmni hwnnw a arweiniodd yr ymgyrch yn y cwmni hwnnw, drwy gael cyfeillion dementia ym mhob un o siopau Boots. Roedd rhaglen fawr o weithgarwch ac ymgysylltu, ac roeddwn yn falch iawn o gydnabod, pan ddaethant yma, eu bod mewn gwirionedd yn herio gweddill grŵp Boots yn y DU i wneud yr un fath. Felly, unwaith eto, bydd ymgyrch sy'n codi stêm yma yng Nghymru, gyda'r fenter honno, yn mynd i wneud gwahaniaeth yma a thu hwnt.

Fe hoffwn i orffen gyda'ch sylw am brofiad personol a fydd gan lawer o Aelodau yn y fan yma. Rydym ni'n cydnabod bod angen newid. Ac nid dim ond am ein bod yn gallu siarad am ein profiadau ein hunain yn aml, ond mae anghenion ein poblogaeth yn newid. Nid yw'n ymwneud ag oedran yn unig—mae'n fwy na hynny—ond mewn gwirionedd mae ein proffil heneiddio'n golygu y bydd yn gynyddol fwy cyffredin yn y wlad yr ydym ni ac y byddwn ni yn y dyfodol. Ac os nad oeddem ni'n cydnabod bod angen newid er mwyn sicrhau'r urddas a'r tosturi yr ydych chi'n sôn amdanyn nhw, yna ni fyddai gennym ni gynllun, ni fyddai gennym ni fesurau, ac ni fyddem ni'n cael yr un sylw difrifol ag y cawn ni. Yr her fydd gwireddu'r uchelgais yr ydym ni wedi'i osod yn y cynllun, er mwyn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, ymarferol.

Photo of Lynne Neagle Lynne Neagle Labour 3:37, 14 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch ichi am eich datganiad, Gweinidog. Mae'n dda cael diweddariad heddiw, ac rwy'n croesawu llawer o'r sylw cadarnhaol sydd yn eich datganiad, yn enwedig am y cynnydd yn nifer y cyfeillion dementia. Mae gen i rai cwestiynau penodol am y cynllun gweithredu. Roeddwn yn ddiolchgar am eich atebion i mi yn rhinwedd fy swyddogaeth fel Cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar ddementia ynghylch tryloywder y cyllid ar gyfer y cynllun, sy'n cael ei ddarparu i raddau helaeth drwy'r gronfa gofal integredig, ac mae pryderon ynghylch hynny wedi'u crybwyll yn y Pwyllgor Iechyd hefyd. Roeddwn yn falch o gael eich ateb a'r sicrwydd a roesoch chi. Ond a gaf i ofyn a oes unrhyw gynlluniau i gael unrhyw fath o werthusiad annibynnol o effaith y cynllun, i gydnabod rhai o'r pryderon sydd wedi parhau i gael eu mynegi ynghylch tryloywder?

Yn gysylltiedig â hynny, rydych chi wedi sôn am waith y Grŵp Goruchwylio Gweithrediad ac Effaith ym maes Dementia, ond rwy'n gwybod fod rhai cyrff yn y trydydd sector yn awyddus iawn i gael strwythur arweinyddiaeth gwahanol, un sy'n golygu bod rhywun yn hyrwyddo'r achos hwn yn benodol yn y Llywodraeth. A ydych chi wedi rhoi unrhyw ystyriaeth i sut y caiff y gwaith hwn ei hyrwyddo gan arweinwyr penodol yn Llywodraeth Cymru? Fe wnaethoch chi sôn yn eich datganiad am fewnbwn y rhai sy'n byw gyda dementia, ac mae hynny'n nodwedd gadarnhaol iawn o waith Llywodraeth Cymru yn y maes hwn. Ac, yn arbennig, fe hoffwn i gydnabod effaith barhaol DEEP yn y maes hwn. Ond fe gafodd y rhai sy'n byw gyda dementia ran ryfeddol yn y gwaith o ffurfio'r cynllun. Felly, a gaf i ofyn i chi am ragor o fanylion? Roedd tua 1,000 o bobl wedi cyflwyno sylwadau ynglŷn â'r cynllun gweithredu, felly a gaf i ofyn am ragor o fanylion ynghylch sut y byddwch chi'n parhau i sicrhau y bydd y rhai sy'n byw gyda dementia yn chwarae rhan lawn yn y gwaith yn y dyfodol?

Ac, yn olaf, roeddwn yn falch o weld y cyfeiriad at adroddiad Comisiynydd y Gymraeg a Chymdeithas Alzheimer's Cymru yn eich datganiad. Mae'n adroddiad gwirioneddol bwysig, ac roeddwn yn falch iawn o fod yn bresennol pan gafodd ei lansio. Dydw i ddim yn credu y gallwn ni orbwysleisio pwysigrwydd y gallu i gyfathrebu yn eich iaith gyntaf i rywun sydd â dementia, o ystyried yr heriau cyfathrebu enfawr sy'n bodoli. Rwy'n falch y bydd Llywodraeth Cymru yn rhan o'r grŵp y mae'r Comisiynydd a'r Gymdeithas Alzheimer's wedi ei sefydlu, ond a allwch chi fanteisio ar y cyfle hwn i ailddatgan eich ymrwymiad yn wleidyddol i sicrhau bod yr argymhellion rhagorol yn yr adroddiad hwnnw yn cael eu gweithredu?

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 3:40, 14 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

Ydw, rwy'n fodlon rhoi'r ymrwymiad y gwnaethoch chi ofyn amdano ar y diwedd i sicrhau ein bod yn parhau i fwrw ymlaen â'r ymrwymiadau a wnaethpwyd, ac yn arbennig y pwynt am ddarpariaeth iaith gyntaf, oherwydd fel y dywedais yn fy ateb i Dai Lloyd, nid yw hyn yn ddewis, mae'n angen gofal, oherwydd mewn gwirionedd ni allwch chi gael y gofal sydd ei angen arnoch chi os nad oes gennych chi'r gallu i gyfathrebu yn yr hyn yw'r unig iaith sydd ar gael i chi weithiau. Felly, rwy'n fwy na pharod i ailddatgan yr ymrwymiad hwnnw.

O ran eich pwynt ynglŷn â DEEP, roedden nhw'n bendant yn ymwneud â'r mater ac yn rhan bwysig iawn ohonom ni'n cael cynllun gweithredu dementia yn y lle cyntaf, ac o ran cael un wedi'i gymeradwyo mewn gwirionedd lle'r oedd cytundeb mai dyna oedd y peth cywir i'w wneud ar gyfer y dyfodol. Fe wnaethom ni wrando o ran sicrhau bod pobl yn cymryd rhan yn y grŵp goruchwylio, gweithredu ac effaith. Ac mae'n bwysig nad ydym ni'n dweud bod hynny'n golygu bod popeth yn iawn. Caiff pobl sy'n byw gyda dementia eu cynrychioli gan lond dwrn o bobl mewn un grŵp. Daw hynny'n ôl at y sylw am gael timau o amgylch yr unigolion yn gyffredinol fel bod ein gwasanaethau'n ymateb o ddifrif i anghenion pobl ac yn mynd ati'n rhagweithiol i geisio barn y bobl hynny wrth inni ddatblygu a darparu gwasanaethau. Mae hynny'n ganolog i'n huchelgeisiau yn y cynllun.

A dyna'n rhannol pam—a dof yn ôl at eich sylw cyntaf nawr am werthusiadau, bod angen deall a yw hynny'n digwydd mewn gwirionedd. Felly, gallaf, gallaf gadarnhau y bydd gwerthusiad annibynnol, bydd yn dechrau drwy gydol y flwyddyn hon a bydd yn parhau tan ddiwedd y cynllun. Cynhelir asesiad cychwynnol o'r dystiolaeth a'r data sydd ar gael er mwyn amlygu unrhyw fylchau allweddol a all fod gennym ni a bydd adroddiad drafft terfynol ar elfennau canolog yn cael ei gyflwyno erbyn diwedd 2021, gydag adroddiad gwerthuso terfynol sydd i fod i gael ei ddarparu yng ngwanwyn 2022 ar hyn o bryd. Felly, rydym ni'n bendant yn gwneud yn siŵr bod y gwerthusiad annibynnol yn deall effaith yr hyn yr ydym ni'n ei wneud.

O ran yr ail bwynt a wnaethoch chi am arweinyddiaeth yn y Llywodraeth a'r tu allan iddi, mae gennyf feddwl agored ynghylch a ddylid cael hyrwyddwr dementia penodol ai peidio. Oherwydd mewn gwirionedd mae hon yn her fawr o ran gwasanaeth sydd mewn mwy nag un maes. Rwy'n cydnabod y ddadl ynghylch cael hyrwyddwr ac rwy'n cydnabod, mewn gwirionedd, nad yw hynny efallai'n cyflawni'r cwbl y byddem ni eisiau ei wneud. Felly, mae gennyf feddwl gwirioneddol agored. Dydw i ddim yn credu y byddai'n deg dweud mai'r ymarferwyr ymgynghorol perthynol i iechyd fyddai'r eiriolwr i bob pwrpas. Bydd gan y person hwnnw swyddogaeth, wrth gwrs, wrth hyrwyddo anghenion y gwasanaeth a deall a gwrando ar bobl, ond mae gennyf feddwl agored ynghylch a allai hyrwyddwr neu hyrwyddwyr penodol ein helpu i wneud mwy o gynnydd. Daw hynny o wrando ar bobl a gwasanaethau ar y grŵp goruchwylio ac effaith hwnnw o ran ai hynny fyddai'r peth priodol i'w wneud o ran bod o gymorth gyda bwrw ymlaen â'r agenda hon. Felly, meddwl agored—yn sicr nid wyf yn diystyru hynny—ond mae gen i ddiddordeb gwirioneddol yn yr hyn a fydd yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf yn y cyfnod mwyaf cyflym.  

Photo of Vikki Howells Vikki Howells Labour 3:43, 14 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch, Gweinidog, am eich datganiad yma heddiw. Wrth i nifer y bobl sy'n byw gyda dementia yng Nghymru gynyddu, mae hi mor bwysig ein bod yn sicrhau bod y ddarpariaeth hon yn briodol. Rwy'n sylwi yn gyntaf yn eich datganiad ar y cyfeiriad at y nifer gynyddol o gyfeillion dementia a chymunedau sy'n deall dementia. Mae fy swyddfa i, ynghyd â swyddfeydd llawer o Aelodau Cynulliad eraill, wedi cael yr hyfforddiant hwnnw ac rwy'n credu ei fod yn bwysig iawn o ran y cymorth yr ydym ni'n ei gynnig i'n cymunedau. Beth ellir ei wneud i annog gwasanaethau cymorth cymunedol eraill o'r fath i gymryd rhan yn yr hyfforddiant y mae'r Gymdeithas Alzheimer yn ei gynnig?

Ar gyfer fy nghwestiynau eraill, hoffwn ganolbwyntio ar rai pethau diddorol yr wyf wedi'u gweld ar ymweliadau etholaeth. Yn gyntaf, cyfarfûm yn ddiweddar â'r tîm therapi galwedigaethol yn Ysbyty Cwm Cynon i drafod eu gwaith yn cefnogi pobl sydd wedi cael diagnosis o ddementia yn ddiweddar a sut maen nhw'n eu galluogi nhw i adennill eu hyder a byw'n annibynnol. Ymunais ag un o'r therapyddion galwedigaethol hynny ar ymweliad cartref ym Mhenywaun, a chefais adborth mor gadarnhaol gan y person a oedd yn cael cymorth ynghylch sut roedd yr ymyriad wedi newid ei fywyd mewn gwirionedd. Felly, beth ellir ei wneud i sicrhau bod ardaloedd eraill, yng Nghwm Taf a thu hwnt, yn dysgu o'r math hwn o ddull?

Ymwelais hefyd yn ddiweddar â'r ward rithwir arobryn yn Ysbyty Sant Ioan yn Aberdâr, sy'n enghraifft wych o ddull gweithredu amlddisgyblaethol. Ac mae'r math hwn o ddull gweithredu mor ddefnyddiol i gefnogi'r rhai sy'n byw gyda dementia, yn ogystal â llawer o gyflyrau eraill. Felly, beth all Llywodraeth Cymru ei wneud er mwyn helpu i alluogi a chymell gwaith partneriaeth o'r fath mewn clystyrau meddygon teulu fel modd o helpu'r rheini sy'n byw gyda dementia i gael y gofal amlddisgyblaethol gorau posib?

Ac yn olaf, ymwelais hefyd â Chartref Gofal Ysguborwen yn Llwydcoed i weld prosiect gwych a oedd yn cael ei ddarparu gan Ganolfan Gydweithredol Cymru, a oedd yn caniatáu i drigolion ddefnyddio technoleg fodern, megis iPads, sgriniau a llechi rhyngweithiol, er mwyn ymhel â diddordebau y bu ganddyn nhw drwy gydol eu hoes neu edrych ar hen luniau a oedd yn wir yn ail-fywiogi'r rhannau dwfn hynny o'r cof gan ddod â'r fath hapusrwydd iddyn nhw. Beth arall y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i annog cartrefi gofal i ddefnyddio manteision pwerus iawn technoleg fodern er mwyn helpu'r rhai sy'n byw gyda dementia i gynnal y gweithgareddau a'r diddordebau hynny sydd eisoes ganddyn nhw a all ychwanegu cymaint at ansawdd eu bywyd?

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 3:46, 14 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch am y cwestiynau a'r sylwadau. Rwy'n credu, gan droi yn gyntaf at eich pwynt am glystyrau meddygon teulu. Yn fy marn i, pan fyddwn ni'n ystyried y camau a gymerwyd drwy'r byrddau partneriaeth rhanbarthol y bwriadwn eu hyrwyddo, mae llawer o'r gweithgarwch hwnnw'n digwydd o fewn gofal sylfaenol. Felly, mae'n rhaid i'r angen am fwy o glinigau cof a arweinir gan feddygon teulu a chanolbwyntio ar ddiagnosis gyd-fynd â gwella ansawdd y gofal a ddarperir wedyn, yn hytrach na dim ond gwella'r gyfradd o ddiagnosis ac yna methu â darparu gwasanaeth cofleidiol i'r unigolyn hwnnw a sut mae'n byw ei fywyd. Felly mae llawer iawn o ganolbwyntio ar hynny. Ac mae hyn yn fusnes arferol i'n gwasanaeth iechyd. Nid rhywbeth ychwanegol ydyw na maes bach o weithgaredd arbenigol. Dim ond cynyddu a wnaiff nifer y bobl sy'n byw gyda dementia yn ystod y blynyddoedd i ddod, felly mae rheoli'r cyflwr yn well a gwell yn debygol o wireddu nifer o uchelgeisiau sydd yn y cynllun.

Rwy'n falch iawn o glywed eich bod chi a'ch swyddfa yn ffrindiau dementia, ac mae hynny'n rhan o'r gwaith i godi ymwybyddiaeth, y rhai sy'n arwain a'r werin yn cydnabod ac yn cyhoeddi'n glir, 'Rwyf i'n ffrind dementia, ac rwy'n credu y dylech chithau fod hefyd.' Ac mae gofyn y cwestiwn hwnnw wrth inni ymhél â'n gweithgarwch yn rhan o wneud hynny. Ond, o ran lle'r oeddem ni, gyda 120,000 o ffrindiau dementia yng Nghymru, ac yna yn ystod y flwyddyn ddiwethaf cyrraedd 158,000, mae hynny'n dangos bod datblygiad a chynnydd yn lefel yr ymwybyddiaeth. Ac, fel y dywedais, rwy'n credu bod gan bawb ohonom gyfran yn y gwaith angenrheidiol hwnnw, ac rwy'n credu y byddai'n foment falch iawn i Gymru pe gallem fod yn Senedd gyntaf i fod yn ffrind dementia yn y DU a thu hwnt.

Ar eich pwynt chi ynglŷn â thechnoleg a gweithgareddau, ac mae llawer o hyn yn ymwneud â'r hyn yr wyf wedi ei weld mewn cartrefi gofal a thu hwnt, caiff technoleg ei defnyddio mewn ffordd wirioneddol gadarnhaol i helpu pobl yn union fel yr ydych chi'n ei ddweud, gyda hobïau a gweithgareddau. Ceir llawer o weithgaredd cerddorol, ac yn wir mae'n atgoffa pobl o bethau ac yn eu helpu i ddwyn i gof a hel atgofion, ac mae modd ei gwneud hi'n haws i bobl ddwyn i gof yr atgofion hynny a rhoi llawenydd mawr i bobl o hyd yn eu bywydau, nid yn unig i'r unigolyn ei hun ond i'w deulu a'i gyfeillion hefyd. Felly, rwy'n eiddgar i weld nid yn unig yr ystod gyfan o weithgareddau ond mewn gwirionedd sut y gallwn geisio deall pa rai all helpu i wneud y gwahaniaeth mwyaf ac, ar yr un pryd, sut y gallwn sicrhau bod personoliaeth yr unigolyn hwnnw'n cael ei adlewyrchu yn yr atgofion hynny. Nid yw'n fater o ddweud wrthynt y gallant weld llyfr o ffotograffau neu y gallant ganu, oherwydd i lawer o bobl fel fi—rwy'n hoff iawn o ganu. Efallai nad yw pobl eraill yn hoffi gwrando arna i, ond rwy'n hoff iawn o ganu. Ac ar ymweliad diweddar â'r gorllewin, gwelais eto sut roedd ganddyn nhw amrywiaeth o weithgareddau canu ar gyfer unigolion a bod hynny'n gwneud gwahaniaeth mawr iddynt. Ond ceir pobl eraill na fyddai hynny o bosib yn apelio atynt o gwbl, felly mae'n rhaid inni ailfeddwl am yr hyn sy'n bwysig i'r unigolion hynny.

Ac rwy'n dymuno gorffen ar y pwynt a wnaethoch chi am y tîm therapi galwedigaethol yn Ysbyty Cwm Cynon. Cefais innau'r pleser hefyd o ymweld â nhw i gwrdd â'r tîm a rhai o'r bobl sy'n byw gyda dementia a ddaeth i Ysbyty Cwm Cynon am y prynhawn i egluro sut yr oedd eu gwaith wedi gwneud gwahaniaeth iddyn nhw. Ac mae yna bwynt yn y fan hon ynglŷn â phwysigrwydd deall anghenion rhywun cyn gynted ag y bo modd, er mwyn gallu ymyrryd a'u cefnogi i gadw mwy o'r hyn sy'n bwysig iddyn nhw. Mae rhywbeth i'w ddysgu o bob rhan o Gwm Taf Morgannwg, sy'n enghraifft wirioneddol o arfer da y dylai eraill ddysgu ohoni ledled y gwasanaeth. Ac rwy'n hapus i ddweud eu bod nhw wedi cynnwys gwerthuso ac ymchwilio yn y gwaith y maen nhw'n ei wneud. Felly nid yn unig y byddan nhw'n gallu dweud, 'Rydyn ni'n credu ein bod ni'n gwneud y peth iawn', ond bydd ganddyn nhw sail tystiolaeth i siarad â gweddill y bwrdd iechyd ac, yn wir, â gweddill y GIG a'r teulu ehangach, ynghylch sut i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl sy'n byw gyda dementia.