Part of the debate – Senedd Cymru am 3:50 pm ar 14 Mai 2019.
Diolch i chi, Dirprwy Lywydd dros dro.
Yr wythnos ddiwethaf, buom yn dathlu ugain mlynedd o ddatganoli yng Nghymru, achlysur a oedd yn gyfle i fwrw golwg yn ôl ar ein cyflawniadau allweddol yn ystod y ddau ddegawd diwethaf. Ers iddo agor yn 2012, mae llwybr arfordir Cymru wedi sefydlu ei hun yn esiampl loyw o harddwch naturiol ein gwlad. Mae'r llwybr yn ymestyn am 870 milltir o amgylch ein harfordir i gyd a dyma'r cyntaf o'i fath yn y byd, ac mae'n rhywbeth y gallwn ni i gyd fod yn falch ohono.
Felly, wrth inni edrych yn ôl ar gyflawniadau datganoli, roeddwn i'n awyddus i dynnu sylw at y modd yr ydym ni'n parhau i ddatblygu a hyrwyddo'r trysor rhagorol hwn, yn ogystal ag at y modd y mae hyn yn cyd-fynd ag ymdrechion ehangach i gynyddu hygyrchedd yr awyr agored. Mae'r llwybr yn goron ar yr hyn sydd gan Gymru i'w gynnig i dwristiaid. Mae'n gwneud cyfraniad enfawr at economi Cymru, ac amcangyfrifir ei fod yn cynhyrchu tua £84,000,000 y flwyddyn o ran gwariant ymwelwyr ac yn cefnogi mwy na 1,000 o swyddi. Er hynny, nid yw'r cynnig yn ymwneud yn unig â thwristiaeth a'r economi; gall llwybr arfordir Cymru ddod â buddion ehangach yn ei sgil o ran iechyd a lles. Mae'n rhaid inni wneud yn siŵr bod pobl a chymunedau ledled y wlad yn gwerthfawrogi ac yn mwynhau manteision y llwybr, yn enwedig pawb sy'n byw ac yn gweithio yn ymyl ein harfordir.
Fodd bynnag, mae llwybr cerdded hynod boblogaidd yn gallu dod â phroblemau a heriau yn ei sgil hefyd, ac rydym yn parhau i fuddsoddi yn y gwaith o'i gynnal a'i gadw. Mae ein partneriaeth gyda Chyfoeth Naturiol Cymru yn gweld bron £1,000,000 yn cael ei fuddsoddi yn flynyddol. Mae CNC, sy'n gofalu am y llwybr ar ein rhan ni, yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol a thirfeddianwyr i wella aliniad ac ansawdd y llwybr, a lliniaru erydiad.
Mae cyfres o lwybrau cylchol newydd, deunydd cyhoeddusrwydd newydd a phecyn cymorth i fusnesau arfordirol ymysg rhai o'n mentrau diweddaraf. Cynlluniwyd y pecyn cymorth i helpu busnesau arfordirol i farchnata eu cynnyrch a'u gwasanaethau drwy atyniad y llwybr. Adnodd ar-lein rhad ac am ddim a hawdd ei ddefnyddio yw hwn sy'n cynnig ystod eang o ddeunydd a gwybodaeth i fusnesau mewn un man. Mae'n rhoi arweiniad ar sut y gall busnesau roi profiad bythgofiadwy i gwsmeriaid a marchnata eu busnesau eu hunain yn well, gan ddefnyddio llwybr yr arfordir yn ased allweddol. Lansiwyd y pecyn cymorth ym mis Mawrth eleni, gyda chyfres o seminarau rhad ac am ddim o amgylch ein harfordir, o Abertawe i Arberth, o Gonwy i Fiwmares.
Mae'r wefan yn cael ei hailwampio ar hyn o bryd. Bydd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ac offeryn mapio rhyngweithiol newydd. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd yn gweithio ar ap realiti estynedig newydd a fydd yn cynnwys graffeg i ennyn diddordeb, straeon addysgiadol a gemau rhyngweithiol.
Mae rhai o'n cerddwyr mwy mentrus yn cwblhau'r llwybr i gyd ar un tro neu dros gyfnod fel rhan o her. I'r bobl hynny, rydym yn ystyried system newydd i gymell a gwobrwyo pobl sy'n cwblhau'r llwybr cyfan neu gamau ohono. Serch hynny, mae llawer mwy o bobl yn cerdded darnau byr ohono. Gyda hynny mewn golwg, rydym yn datblygu gwahanol ffyrdd fel y gall pobl fwynhau eu hymweliad. Bydd cyfres newydd o lwybrau cylchog yn agor mwy ar gefn gwlad rhagorol Cymru yn ogystal â'r arfordir ei hun.
Mae hi'n Flwyddyn Darganfod yng Nghymru eleni, ac ym mis Mai bydd hi'n saith mlynedd ers lansio'r llwybr yn swyddogol. Dethlir ein llwybr arfordirol ni drwy gynnal gŵyl gerdded, a hoffwn roi teyrnged i'r Cerddwyr am drefnu amrywiaeth enfawr o ddigwyddiadau, sy'n darparu ar gyfer pobl o bob gallu.
Yn ogystal â llwybr yr arfordir, mae gennym ni dri llwybr cenedlaethol ac amrywiaeth o lwybrau lleol eraill i'w mwynhau sy'n cael eu hybu. Mae'r rhain yn galluogi pobl i weld rhai o olygfeydd gorau ein gwlad, nid cerddwyr yn unig ond beicwyr a rhai sy'n marchogaeth hefyd. Felly, roeddwn i'n falch ein bod wedi gallu ariannu prosiectau ychwanegol gwerth dros £500,000 i wella llwybr yr arfordir a llwybrau cenedlaethol yn 2018-19. Bydd y rhain yn caniatáu i sawl darn pwysig o waith gael ei wneud i wella'r profiad i bawb.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau mwy o fudd o'r rhwydwaith enfawr o lwybrau troed sydd gennym. Cymru sydd â'r hyd mwyaf o hawliau tramwy fesul cilometr sgwâr yn y DU. Serch hynny, gellid gwella'r modd y darperir mynediad i'r awyr agored, ei reoli a'i hyrwyddo yng Nghymru. Rydym wedi ymgynghori'n eang iawn ar amrywiaeth o fesurau, ac rwy'n ddiolchgar am fewnbwn miloedd o bobl a sefydliadau. Mae maint yr ymateb a gawsom yn tystio i'r gwerth y mae pobl Cymru yn ei roi i gefn gwlad a'r tirweddau sydd mor hoff ganddyn nhw. Cyflwynais i ddatganiad ysgrifenedig y mis diwethaf, yn ymateb i'r ymgynghoriad hwn, sy'n nodi'r ffordd y bwriadwn fwrw ymlaen â hyn.
Ein dull ni o ymdrin â mynediad yn yr hirdymor fydd darparu ystod ehangach o gyfleoedd gweithgareddau awyr agored. Bydd hefyd yn hyrwyddo defnydd hamdden sy'n gyfrifol ac yn taro'r cydbwysedd priodol rhwng buddiannau defnyddwyr a thirfeddianwyr fel ei gilydd. Mae cefn gwlad Cymru yn hynod bwysig i'w phobl ac mae'n rhaid i bawb gael y cyfle i'w fwynhau bob amser. Bydd llwyddiant llwybr arfordir Cymru, a'n hymrwymiad ni i ddiwygio mynediad yn fwy eang, yn sicrhau ein bod yn parhau i adeiladu ar y llwyddiant hwn er lles holl bobl Cymru.