– Senedd Cymru am 3:49 pm ar 14 Mai 2019.
Rydym yn symud ymlaen nawr at eitem 4, datganiad gan y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol ar lwybr arfordir Cymru. Rwy'n galw ar y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, Hannah Blythyn, i agor.
Diolch i chi, Dirprwy Lywydd dros dro.
Yr wythnos ddiwethaf, buom yn dathlu ugain mlynedd o ddatganoli yng Nghymru, achlysur a oedd yn gyfle i fwrw golwg yn ôl ar ein cyflawniadau allweddol yn ystod y ddau ddegawd diwethaf. Ers iddo agor yn 2012, mae llwybr arfordir Cymru wedi sefydlu ei hun yn esiampl loyw o harddwch naturiol ein gwlad. Mae'r llwybr yn ymestyn am 870 milltir o amgylch ein harfordir i gyd a dyma'r cyntaf o'i fath yn y byd, ac mae'n rhywbeth y gallwn ni i gyd fod yn falch ohono.
Felly, wrth inni edrych yn ôl ar gyflawniadau datganoli, roeddwn i'n awyddus i dynnu sylw at y modd yr ydym ni'n parhau i ddatblygu a hyrwyddo'r trysor rhagorol hwn, yn ogystal ag at y modd y mae hyn yn cyd-fynd ag ymdrechion ehangach i gynyddu hygyrchedd yr awyr agored. Mae'r llwybr yn goron ar yr hyn sydd gan Gymru i'w gynnig i dwristiaid. Mae'n gwneud cyfraniad enfawr at economi Cymru, ac amcangyfrifir ei fod yn cynhyrchu tua £84,000,000 y flwyddyn o ran gwariant ymwelwyr ac yn cefnogi mwy na 1,000 o swyddi. Er hynny, nid yw'r cynnig yn ymwneud yn unig â thwristiaeth a'r economi; gall llwybr arfordir Cymru ddod â buddion ehangach yn ei sgil o ran iechyd a lles. Mae'n rhaid inni wneud yn siŵr bod pobl a chymunedau ledled y wlad yn gwerthfawrogi ac yn mwynhau manteision y llwybr, yn enwedig pawb sy'n byw ac yn gweithio yn ymyl ein harfordir.
Fodd bynnag, mae llwybr cerdded hynod boblogaidd yn gallu dod â phroblemau a heriau yn ei sgil hefyd, ac rydym yn parhau i fuddsoddi yn y gwaith o'i gynnal a'i gadw. Mae ein partneriaeth gyda Chyfoeth Naturiol Cymru yn gweld bron £1,000,000 yn cael ei fuddsoddi yn flynyddol. Mae CNC, sy'n gofalu am y llwybr ar ein rhan ni, yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol a thirfeddianwyr i wella aliniad ac ansawdd y llwybr, a lliniaru erydiad.
Mae cyfres o lwybrau cylchol newydd, deunydd cyhoeddusrwydd newydd a phecyn cymorth i fusnesau arfordirol ymysg rhai o'n mentrau diweddaraf. Cynlluniwyd y pecyn cymorth i helpu busnesau arfordirol i farchnata eu cynnyrch a'u gwasanaethau drwy atyniad y llwybr. Adnodd ar-lein rhad ac am ddim a hawdd ei ddefnyddio yw hwn sy'n cynnig ystod eang o ddeunydd a gwybodaeth i fusnesau mewn un man. Mae'n rhoi arweiniad ar sut y gall busnesau roi profiad bythgofiadwy i gwsmeriaid a marchnata eu busnesau eu hunain yn well, gan ddefnyddio llwybr yr arfordir yn ased allweddol. Lansiwyd y pecyn cymorth ym mis Mawrth eleni, gyda chyfres o seminarau rhad ac am ddim o amgylch ein harfordir, o Abertawe i Arberth, o Gonwy i Fiwmares.
Mae'r wefan yn cael ei hailwampio ar hyn o bryd. Bydd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ac offeryn mapio rhyngweithiol newydd. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd yn gweithio ar ap realiti estynedig newydd a fydd yn cynnwys graffeg i ennyn diddordeb, straeon addysgiadol a gemau rhyngweithiol.
Mae rhai o'n cerddwyr mwy mentrus yn cwblhau'r llwybr i gyd ar un tro neu dros gyfnod fel rhan o her. I'r bobl hynny, rydym yn ystyried system newydd i gymell a gwobrwyo pobl sy'n cwblhau'r llwybr cyfan neu gamau ohono. Serch hynny, mae llawer mwy o bobl yn cerdded darnau byr ohono. Gyda hynny mewn golwg, rydym yn datblygu gwahanol ffyrdd fel y gall pobl fwynhau eu hymweliad. Bydd cyfres newydd o lwybrau cylchog yn agor mwy ar gefn gwlad rhagorol Cymru yn ogystal â'r arfordir ei hun.
Mae hi'n Flwyddyn Darganfod yng Nghymru eleni, ac ym mis Mai bydd hi'n saith mlynedd ers lansio'r llwybr yn swyddogol. Dethlir ein llwybr arfordirol ni drwy gynnal gŵyl gerdded, a hoffwn roi teyrnged i'r Cerddwyr am drefnu amrywiaeth enfawr o ddigwyddiadau, sy'n darparu ar gyfer pobl o bob gallu.
Yn ogystal â llwybr yr arfordir, mae gennym ni dri llwybr cenedlaethol ac amrywiaeth o lwybrau lleol eraill i'w mwynhau sy'n cael eu hybu. Mae'r rhain yn galluogi pobl i weld rhai o olygfeydd gorau ein gwlad, nid cerddwyr yn unig ond beicwyr a rhai sy'n marchogaeth hefyd. Felly, roeddwn i'n falch ein bod wedi gallu ariannu prosiectau ychwanegol gwerth dros £500,000 i wella llwybr yr arfordir a llwybrau cenedlaethol yn 2018-19. Bydd y rhain yn caniatáu i sawl darn pwysig o waith gael ei wneud i wella'r profiad i bawb.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau mwy o fudd o'r rhwydwaith enfawr o lwybrau troed sydd gennym. Cymru sydd â'r hyd mwyaf o hawliau tramwy fesul cilometr sgwâr yn y DU. Serch hynny, gellid gwella'r modd y darperir mynediad i'r awyr agored, ei reoli a'i hyrwyddo yng Nghymru. Rydym wedi ymgynghori'n eang iawn ar amrywiaeth o fesurau, ac rwy'n ddiolchgar am fewnbwn miloedd o bobl a sefydliadau. Mae maint yr ymateb a gawsom yn tystio i'r gwerth y mae pobl Cymru yn ei roi i gefn gwlad a'r tirweddau sydd mor hoff ganddyn nhw. Cyflwynais i ddatganiad ysgrifenedig y mis diwethaf, yn ymateb i'r ymgynghoriad hwn, sy'n nodi'r ffordd y bwriadwn fwrw ymlaen â hyn.
Ein dull ni o ymdrin â mynediad yn yr hirdymor fydd darparu ystod ehangach o gyfleoedd gweithgareddau awyr agored. Bydd hefyd yn hyrwyddo defnydd hamdden sy'n gyfrifol ac yn taro'r cydbwysedd priodol rhwng buddiannau defnyddwyr a thirfeddianwyr fel ei gilydd. Mae cefn gwlad Cymru yn hynod bwysig i'w phobl ac mae'n rhaid i bawb gael y cyfle i'w fwynhau bob amser. Bydd llwyddiant llwybr arfordir Cymru, a'n hymrwymiad ni i ddiwygio mynediad yn fwy eang, yn sicrhau ein bod yn parhau i adeiladu ar y llwyddiant hwn er lles holl bobl Cymru.
A gaf i ddiolch i'r Dirprwy Weinidog am y datganiad amserol iawn hwn, a wnaed ganddi yn ystod yr ŵyl nodedig hon sef Gŵyl Gerdded Llwybr Arfordir Cymru? A gaf innau roi teyrnged i waith caled y Cerddwyr sy'n hwyluso llawer o'r dathliadau hyn? Ac a gaf i bwysleisio hefyd gerbron y Gweinidog a'r Siambr fy mod i'n ddefnyddiwr brwd o'r llwybr, yn enwedig yn Sir Benfro, Ceredigion ac yn fy nghynefin i, sef Morgannwg? Felly, rwy'n elwa'n aruthrol ar y cyfleuster gwych hwn.
Rwy'n arbennig o falch o weld datblygiad yr ap a'r wefan sydd i'w hailwampio. Rwy'n credu y dylid sicrhau bod yr atyniad hollbwysig hwn i dwristiaid yn fwy hygyrch mewn oes ddigidol fodern. Bydd yn rhoi delwedd dda o Gymru, yn fy marn i. Fel y dywedodd y Gweinidog, llwybr yr arfordir yw'r llwybr di-dor cyntaf yn y byd ar hyd arfordir gwlad ac mae'n galluogi cerddwyr i weld rhannau o'r arfordir sydd heb eu darganfod, sydd â golygfeydd godidog, a gallaf dystio i hynny, yn ogystal â thirweddau garw a bywyd gwyllt prin. Pleser mawr, yn wir, yw cael mynd ag ysbienddrych gyda chi a gweld y bywyd gwyllt mwyaf syfrdanol ond sydd fel arfer yn ddiarffordd. Mae'n rhywbeth i wir ymfalchïo ynddo.
Rwy'n falch o weld hefyd sut mae'r Llywodraeth yn annog arloesedd, fel datblygu llwybrau cylchol sy'n cysylltu â'r llwybr. Gwn o brofiad, weithiau, os mai dim ond diwrnod sydd gennych, y byddwch yn chwilio am lwybr cylchol. Mae'n wirioneddol ddefnyddiol cael hynny, ac mae hefyd yn dod ag ardal ychydig yn ehangach i gysylltiad â'r llwybr.
Mae yna rai materion yn codi, ac rwy'n eu codi nhw dim ond er mwyn gwella'r hyn sydd, yn fy marn i, yn gyfleuster rhagorol. Cyfeiriodd y Gweinidog at faterion yn ymwneud â hygyrchedd, a gwyddom fod rhai fforymau anabledd lleol wedi tynnu sylw at y problemau sy'n gysylltiedig â hygyrchedd i gadeiriau olwyn a rhwystrau eraill, fel y rhai a roddir weithiau i atal pobl rhag gyrru beiciau modur ar y llwybr yn anghyfreithlon. Gwn fod o leiaf un Cyngor Sir, sef Sir y Fflint, wedi cyfaddef bod angen iddo wella ei hygyrchedd ar gyfer defnyddwyr anabl, yn enwedig os yw wedi ei gysylltu â golygfannau, er enghraifft. Mae'n beth rhagorol i'w fwynhau, a chredaf ei bod yn rhaid inni gofio bod y rhai sydd â symudedd cyfyngedig neu sy'n ddibynnol ar gadeiriau olwyn yn dal i fod yn awyddus i fwynhau'r amgylchedd agored gymaint â phosib. Felly, rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth i'w gadw mewn cof.
Os caf i droi at farchnata, mae'r pecyn cymorth marchnata yr wyf i wedi edrych arno'n un cynhwysfawr iawn. Mae'n cwmpasu pob agwedd ar waith marchnata i fusnesau lleol, a all fanteisio wedyn ar y llwybrau cerdded. Mae hyn, yn fy marn i, yn wirioneddol bwysig, ond tybed a ydych am fynd â'r mater ymhellach a'i gysylltu â strategaeth sydd wedi ei hariannu yn iawn ar gyfer cerdded yng Nghymru. Rwy'n gwybod bod y Cerddwyr yn awyddus iawn i weld hyn, a dylem osod targedau uchelgeisiol i hyrwyddo cerdded fel gweithgaredd bob dydd gyda chymorth ychwanegol i'r rhai lleiaf sionc.
Fel y dywedwyd gennych yn eich datganiad, nid yr economi a thwristiaeth yn unig sy'n gweld manteision llwybr yr arfordir, er mai yno y maen nhw'n cael eu gweld fwyaf, fel y dengys y ffigurau y cyfeiriasoch atynt. Ond mae manteision o ran iechyd a lles hefyd, a gallwn gysylltu hynny â'n sail ddeddfwriaethol yn Neddf Teithio Llesol (Cymru) 2013. Mae'r Cerddwyr wedi sôn hefyd am yr angen i'w gysylltu â'r gwasanaeth iechyd, fel bod modd i bobl â phroblemau iechyd neu bobl sy'n debygol o ddatblygu problemau iechyd fanteisio arno.
Credaf fod angen strategaeth ryngwladol hefyd. Llywydd, gallwch bellach gerdded o amgylch Cymru. Rwyf wedi cerdded ar hyd Clawdd Offa hefyd er bod hynny—rwy'n rhyfeddu wrth feddwl am hyn, 40 o flynyddoedd yn ôl, rhwng y chweched dosbarth a'r brifysgol. Ond mae Cymru eisoes yn weddol enwog yn rhyngwladol, ac rwy'n credu bod angen inni adeiladu ar hynny, oherwydd mae'n lleoliad o'r radd flaenaf i gerddwyr. Mae'n arbennig o boblogaidd gyda cherddwyr sy'n dod o'r Iseldiroedd ac o'r Almaen, ond o rannau eraill o Ewrop hefyd yn ogystal â Gogledd America a rhannau eraill o'r byd. A phan fydd y bobl hyn yn mwynhau ein hamgylchedd bendigedig, fel y dywedais i, wrth grwydro'r mynyddoedd ac yn cerdded o amgylch yr arfordir, maen nhw'n awyddus i aros mewn gwestai unigryw, ac yn dymuno bwyta mewn bwytai o ansawdd da iawn—
—ac maen nhw'n dymuno cael mynd—yn wir, rwy'n clywed Aelod arall, y gwn ei fod wedi mwynhau'r cyfleusterau hyn—i drefi marchnad a phentrefi cyfagos, sydd â chysylltiadau trafnidiaeth da pan fydd angen chi wneud y daith fechan honno o'r llwybr cerdded yr ydych chi'n ei ddilyn. Mae'r bobl hyn yn gwario llawer o arian. Maen nhw'n dwristiaid cefnog. Wrth feddwl am bobl sy'n cerdded, cawn ein temtio i feddwl ei fod yn wyliau nad yw'n dod â llawer o weithgarwch economaidd i'r gymuned leol. Wel, mae hynny'n gwbl anghywir. Mae'r bobl hyn mewn gwirionedd yn arweiniol o ran datblygu ein twristiaeth a gwella cyfleusterau, ac mae angen inni lwyddo i gael twristiaid sy'n hoffi gweithgareddau a thwristiaid diwylliannol hefyd, sy'n dymuno profi Cymru benbaladr ond sydd am fwynhau bwytai a gwestai da iawn pan fyddan nhw'n gwneud hynny—. Ond, yn gyffredinol, mae hwn yn waith sydd wedi ei ddatblygu'n dda iawn, rydym ni'n ei groesawu'n fawr, ac rwy'n gobeithio y bydd y Llywodraeth yn gweithredu ar rai o'r awgrymiadau a wnes i. Gwn ei bod wedi rhoi ystyriaeth iddyn nhw a'r ymgynghoriad hefyd, ac mae sefydliadau eraill fel y Cerddwyr yn gwneud y pwyntiau hyn. Diolch.
Diolch. Bydd yr Aelod yn falch o weld, gyda'r defnydd o'r ap newydd a'r wefan sy'n cael ei datblygu, y dechnoleg fodern sy'n cael ei defnyddio i ganu clodydd ein hasedau naturiol a'u hyrwyddo nhw. Rwy'n credu bod yr Aelod wedi gwneud gwaith da iawn ei hun o hyrwyddo'n huawdl iawn y llwybr arfordir gwych sydd gennym ni yng Nghymru. Mae'r Aelod yn sôn am fod yn ddefnyddiwr rheolaidd ohono. Byddwn yn tybio ac yn gobeithio bod pawb ohonom ni yn y Siambr hon yn defnyddio'r llwybr arfordirol i ryw raddau, ac rwy'n edrych ymlaen at ymuno â'r Cerddwyr ar un o'u teithiau cerdded i ddathlu dros y penwythnos hefyd.
Credaf eich bod chi'n codi mater a godwyd gyda mi o'r blaen o ran hygyrchedd, yn enwedig i bobl anabl. Mae'n ymwneud â chael y cydbwysedd hwnnw rhwng amddiffyn y llwybr ond hefyd sicrhau bod holl bobl Cymru yn gallu ei fwynhau yn y ffordd gywir ac yn gyfrifol. Rwy'n siŵr bod hynny'n rhywbeth, wrth inni fwrw ymlaen â'r cynigion ar hygyrchedd, y gallwn ei drafod gyda rhanddeiliaid, gyda fforymau anabledd, ond hefyd gyda'n partneriaid mewn awdurdodau lleol, CNC a thirfeddianwyr fel ei gilydd. Mae ein llwybrau cylchog yn bwysig—ni chredaf fod pawb eisiau cerdded y llwybr arfordirol i gyd nac yn alluog i wneud hynny, a hefyd byddwch yn cyrraedd un pwynt ac ni fydd gennych yr amser neu ni fyddwch yn teimlo'n ddigon heini i gerdded yn ôl yr un ffordd eto. Un o'r pethau yr ydym yn ceisio eu datblygu gyda'r llwybrau cylchol newydd yw dechrau cyfeirio hyn yn fwy at deuluoedd, efallai, er mwyn eu denu nhw i ddechrau mwynhau manteision iechyd a lles llwybr yr arfordir. Mae'r rhain yn debygol o fod tua 2 filltir o bellter, felly rydych chi'n edrych ar ryw awr neu ddwy yn unig, a gwneud yn siŵr eu bod yn agos at gyfleusterau a chysylltiadau trafnidiaeth hefyd. Felly, rhaid meddwl yn strategol ynglŷn â sut y gwnawn ni hynny yn y dyfodol.
Pwynt pwysig iawn hefyd yw'r un am fod yn rhan o strategaeth ryngwladol a sut yr ydym yn gwerthu Cymru i'r byd. Roeddwn allan yn fy etholaeth i fy hun ddydd Gwener, a'r math gorau o gyfarfodydd a theithiau cerdded yr wyf i'n eu cael yw pan af am gyfarfod ym mryniau Clwyd a mynd am dro yno, ac roeddwn i ym mryngaer Penycloddiau. Gallwch edrych allan i'r pellteroedd, ac mewn un cyfeiriad fe welwch Rhuthun a Dinbych, a thu hwnt i hynny fe welwch chi fynyddoedd Eryri a Chlawdd Offa. Nid yw hyn yn golygu hyrwyddo i fwy o bobl yng Nghymru yr hyn sydd gennym ni ar garreg ein drws a'r manteision a ddaw yn ei sgil, ond mewn gwirionedd mae'n golygu hyrwyddo'n rhyngwladol yr amgylchedd naturiol gwych sydd gennym. Ac rwy'n falch y bydd y Gweinidog Cysylltiadau Rhyngwladol a'r Iaith Gymraeg, yn rhan o'i strategaeth ryngwladol newydd—yn cynnwys pwysigrwydd asedau naturiol Cymru ac yn hyrwyddo twristiaeth, mewnfuddsoddi a'r ddelwedd gadarnhaol honno o Gymru hefyd.
Gaf i ddiolch yn gyntaf oll i'r Dirprwy Weinidog am ei datganiad, a chroesawu'r cynnwys? Wrth gwrs, mae'r mater o lwybr arfordirol Cymru yn fater i'w groesawu'n fawr iawn. Mae hwn yn ddatblygiad cyffrous ac yn ddatblygiad dŷn ni wedi'i weld yn datblygu dros y saith mlynedd diwethaf, a dŷn ni'n disgwyl ei weld o'n datblygu fel dŷn ni'n mynd ymlaen flwyddyn ar ôl blwyddyn. Achos, oes, mae yna olygfeydd bendigedig drwyddi draw yma yng Nghymru, ac, wrth gwrs, drwy'r 876 o filltiroedd o'r arfordir, o'r llwybr arfordirol, ac fel dŷn ni wedi clywed gan y Dirprwy Weinidog, yr unig wlad sydd efo llwybr arfordir sy'n cynnwys ei holl arfordir, ac mae hynny yn beth i'w drysori ac i'w ddathlu. Wrth gwrs, mae yna nifer o rannau bendigedig i'n harfordir—gwnaf i ddim dim ond canolbwyntio ar Benrhyn Gŵyr, efo 26 o draethau bendigedig i chi eu mwynhau, neu Llansteffan nes ymlaen, neu hyd yn oed lle'r oeddwn i ar y penwythnos, ym Maenorbŷr, lle mae’r arfordir yn fendigedig fanna yn ne Penfro, cyn inni fynd ymlaen i arfordir Ceredigion, yn naturiol, sydd hefyd yn llawn materion bendigedig yr olwg. Ac mae Aberaeron yn drysor, mae’n rhaid i fi ddweud. Ond gallaf i ddim siarad drwy’r prynhawn ar y rhain i gyd, felly buasai’n well i fi ganolbwyntio ar bethau i wneud efo’r datganiad, felly dyma ni.
Ie, mae'n fater i'w groesawu, wrth gwrs, yn naturiol. Dau bwynt, though: wrth gwrs, mae cadwraeth yn hanfodol bwysig, ac, wrth gwrs, fel mae David Melding wedi awgrymu, mae materion iechyd hefyd yn bwysig iawn, ac rŷn ni hefyd yn talu teyrnged i’r Ramblers am hyrwyddo cerdded yn ein gwlad. Mae o’n ffordd weddol hawdd o gadw’n ffit. Does dim angen aelodaeth o unrhyw gym sydd yn costio miloedd o bunnau i chi. Cerdded ydy’r ffordd ymlaen—10,000 o gamau bob dydd. A jest mynd ar y llwybr arfordirol—byddwch chi wedi cyflawni hynny mewn chwinciad, ac ni fydd yn teimlo fel 10,000 o gamau chwaith. Ac, wrth gwrs, mae hyn yn allweddol bwysig pan rŷn ni’n sôn am gadwraeth. Mae hwn yn elfen o dwristiaeth sydd yn denu ymwelwyr, denu arian, hybu’r economi, ond, gan feddwl am dwristiaeth gyfrifol, felly, sydd hefyd yn edrych ar ôl yr amgylchedd a materion cadwraethol yn gyfan gwbl.
Ac, wrth gwrs, mae edrych ar ôl ein hamgylchedd, a hefyd, gan fanteisio ar y cyfle, buaswn i’n licio gweld y Dirprwy Weinidog yn pwysleisio hyn: nid yw jest yn fater o edrych ar ôl ein hamgylchfyd naturiol, ond hefyd edrych ar ôl ein hamgylchfyd ieithyddol a diwylliannol achos, wrth gwrs, am rannau lawer, yr iaith Gymraeg a’r diwylliant Cymraeg sydd yn rhan annatod, naturiol o’r arfordir yma, ac, wrth gwrs, mae yna ambell i esiampl o—. Rydyn ni’n colli ein hen enwau Cymraeg traddodiadol, a dim jest enwau Cymraeg traddodiadol ond enwau hanesyddol Cymraeg a hefyd mewn sawl iaith arall. Rŷn ni wedi colli Porth Trecastell yn Ynys Môn, er enghraifft, sydd nawr i fod yn Cable Bay, ac mae yna ambell i esiampl arall, jest achos bod pobl ddim yn gallu ynganu enw’r ynys neu enw’r afon neu enw’r penrhyn. Ond gallaf i ddim meddwl am unrhyw wlad arall ar y ddaear sydd yn fodlon newid yr enwau maen nhw wedi'u cael ar wahanol begynau daearyddol ers canrifoedd er mwyn bodloni pobl sydd ddim yn fodlon mentro’r iaith frodorol.
Felly, jest achos bod rhywle yn edrych yn unig ac yn anghysbell ar ein harfordir ni, dydy hynny ddim yn golygu nad oes enw traddodiadol un ai Cymreig neu Lychlynnaidd ar y lle, ac mae’n bwysig cadw hynna fel rhan annatod, nid jest o’r gadwraeth naturiol ond cadwraeth naturiol ieithyddol a diwylliannol ein gwlad, achos mae yna gyfoeth naturiol yn yr holl enwau. Mae pob penrhyn, pob mymryn bach ar y map arfordirol yna efo enw. Os ydych chi’n edrych ar fapiau hanesyddol ein gwlad a’r cyfoeth o enwau a disgrifiadau sydd yna yn yr iaith Gymraeg—wrth gwrs, dydy rhai o’r mapiau modern ddim yn cynnwys hynna i gyd, ac wedyn mae pobl yn mynd i feddwl, ‘Wel, jiw, does yna ddim enw ar y lle yma. Beth am roi enw o ryw wlad arall arno fe?’ Na, mae yna enw ar y lle—mae'n fater o ffeindio’r enw gwreiddiol. Felly, buaswn i’n licio cael rhyw fath o sicrwydd gan y Dirprwy Weinidog ein bod ni’n edrych ar y materion yma o ddiogelu a chadw enwau lleoedd naturiol ar yr arfordir hefyd.
A’r ail bwynt, yn ogystal â llongyfarch pob peth sydd yn mynd ymlaen ynglŷn â’r llwybr rŷch chi’n gallu cerdded arno fo rownd ein harfordir, mae ambell un wedi crybwyll, 'Beth am greu neu ddatblygu llwybr seiclo Cymru gyfan?' Mae ambell i Weinidog yn y lle yma yn hoff o fynd ar ei feic. Beth am ddatblygu llwybr seiclo ochr yn ochr â’r llwybr cerdded? Achos dwi’n credu mai yna adnodd gwerthfawr yn fanna.
Ac at ei gilydd, i grynhoi, felly, buaswn i’n taclo’r agenda hybu iechyd, ffitrwydd, yr agenda gordewdra, yn ogystal â mynd i’r afael â’r ymdrin â thwristiaeth sydd yn meddwl dim jest, ‘A wnewch chi droi i fyny?’, ac os yw hi’n bwrw glaw, beth sy’n digwydd wedi hynny, ond meddwl yn ddwys am ddatblygiad ein gwlad, am esbonio i bobl hanes cyfoethog ein gwlad a’n hiaith a’n diwylliant, heb ddim cywilydd ohoni, a beth sydd yna efo’n llwybr arfordir ni. A beth sydd yna ddim i’w hoffi? Hir oes i lwybr arfordirol Cymru. Diolch yn fawr.
Llywydd, rwy'n credu, yn y dyfodol, pan fyddwn ni'n dymuno llunio hysbysebion marchnata ar gyfer llwybr arfordir Cymru, dylem ofyn i'r Aelodau yn y Siambr hon i siarad am eu hoff ardaloedd nhw. Rwy'n siŵr bod gennym ni i gyd ein ffefryn ac mae gennym ni i gyd ardaloedd nad ydym wedi bod ynddyn nhw eto ond yr hoffem fynd iddyn nhw. Ond rwy'n credu bod y cyfraniadau hyd yn hyn yn dangos pa mor werthfawr yw'r ased naturiol hwn yng ngolwg pob un ohonom ni, yr unig genedl, yn wir, fel y dywedodd Dai Lloyd, sy'n gallu brolio bod ganddi lwybr arfordirol sy'n cwmpasu ardaloedd godidog. Rwy'n cofio flynyddoedd lawer yn ôl, pan oeddwn i'n gweithio y tu allan i Gymru, y byddai pobl yno'n dod ataf i ac yn sôn am lwybr arfordir Cymru; bydden nhw'n mynd yno ar eu gwyliau a byddwn innau'n dweud wrthyn nhw am wahanol lefydd y gallen nhw ymweld â nhw hefyd. Felly, mae'n dangos y weledigaeth a'r cyrhaeddiad y mae'n rhaid inni eu datblygu yn hyn o beth.
Mae'r Aelod yn llygad ei le o ran y gwaith y mae'r Cerddwyr yn ei wneud i hyrwyddo cerdded i lawer o bobl fel ffordd rwydd o gadw'n heini a rhoi hwb i'w hiechyd, ac rydych chi'n gallu cerdded cymaint neu gyn lleied ag yr ydych chi'n ei ddymuno. Ac mae'n iawn ein bod ni'n edrych ar y llwybrau cylchol a'r llwybrau byrrach hyn fel y gall pobl—wyddoch chi, eu gwneud yn agored i gymaint o bobl â phosib.
Ynglŷn â'r pwyntiau a wnaeth yr Aelod o ran bod hyn yn ymwneud nid yn unig â gwarchod ein hamgylchedd naturiol—ac, fel y gwyddoch chi, rydym yn awyddus i fwy o bobl fwynhau llwybr yr arfordir, ond mae'n gwbl briodol cael y cydbwysedd hwnnw rhwng cadwraeth a hyrwyddo, i sicrhau ein bod ni'n cadw ein hasedau naturiol. Ond hefyd mae'r agwedd honno ar yr amgylchedd o ran y modd yr ydym ni'n ymdrin â phethau sy'n gadarn iawn yn ymwybyddiaeth y cyhoedd, fel llygredd plastig a thaflu sbwriel. Felly gall y gwaith y mae rhai o'r mentrau eraill sydd gennym ledled y Llywodraeth, fel rhan o Refill Cymru, fod â rhan yn hynny hefyd.
O ran edrych ar ein hamgylchedd diwylliannol, un o'r pethau yr ydym yn eu hystyried, gan adeiladu ar y llwybrau cylchol newydd hyn neu wahanol lwybrau, yw canolbwyntio ar wahanol feysydd, nid ardaloedd daearyddol yn gymaint â meysydd o ddiwylliant a threftadaeth. Wrth inni fwrw ymlaen â hynny, efallai fod gan yr Aelod rywbeth y mae'n awyddus imi rannu gwybodaeth ag ef amdano ac y gallech chi fynegi eich syniadau chi ynglŷn â hynny, wrth inni ei ddwyn ymlaen hefyd.
O ran beicio, rwy'n cyfaddef fy mod i'n hoff iawn o fynd ar y beic ond ddim yn gwneud hynny rhyw lawer ar hyn o bryd, oherwydd diffyg amser yn aml. Drwy'r amser rwy'n meddwl, 'O, yn ystod y toriad nesaf, byddaf i'n mynd ar daith feicio hir' ac mae hynny'n cael bod tan y tro wedyn a'r tro wedi hwnnw. Ond un o'r pethau, yn dilyn y datganiad ysgrifenedig ar hygyrchedd, y byddwn yn edrych arno yw sut y gallwn wneud gwell defnydd o docynnau aml-ddefnydd ar gyfer gweithgareddau fel beicio a marchogaeth hefyd.
Hoffwn i ddiolch ichi am eich datganiad heddiw, Dirprwy Weinidog. Rwy'n lwcus iawn o gael byw yn agos i rai o ddarnau mwyaf ysblennydd a nodedig arfordir ein gwlad, ac un o'r rhai hynny yw arfordir Sir Benfro. Rwyf i'n cynrychioli llawer mwy o filltiroedd, wrth gwrs, ac mae'r rhan fwyaf o lwybr yr arfordir, mewn gwirionedd, yn fy rhanbarth i, ac mae'n ymestyn o Benrhyn Llŷn hyd Fae Caerfyrddin. Mae pethau unigryw i'w darganfod ar hyd yr 870 milltir di-dor o arfordir Cymru—felly nid gwneud taith gerdded gylchol mewn un diwrnod y byddaf i—o fywyd gwyllt prin i dreftadaeth ddiwydiannol. A gallwch weld y ddau gyda'i gilydd, os ydych chi'n gwybod ble i edrych. Byddwch yn gweld y cudyll, tylluanod bach a llawer o enghreifftiau eraill o adar yn byw mewn safleoedd sydd bellach yn safleoedd diwydiannol segur, ond nid ydyn nhw'n safleoedd diwydiannol segur os ydych chi'n hoffi chwilio am bethau o'r fath. Felly, rwy'n credu bod angen inni gyfuno'r ddwy elfen hynny i ddweud stori arall yr ydym ni'n gallu ei dweud.
Credaf fod Gŵyl Gerdded Llwybr Arfordir Cymru, sy'n dod i ben yr wythnos hon, wedi bod yn ardderchog o ran dathlu a hyrwyddo'r llwybr arfordirol. Rwy'n credu hefyd ei bod yn werth atgoffa ein hunain mai dim ond saith mlwydd oed yw llwybr arfordir Cymru. Felly, rydym wedi symud ymlaen yn lled gyflym o fewn y saith mlynedd hynny. A gwyddom fod ymwelwyr bob amser wedi heidio i'n harfordir am wahanol resymau, boed hynny'n bythefnos y glowyr ar Ynys y Barri, neu i wylio dolffiniaid ym Mae Ceredigion. Ond rydym wedi llunio llwybr sy'n ddi-dor; mae'n gyswllt ffisegol parhaus. Gall prosiect llwybr arfordir Cymru, yn y dyfodol, greu mwy o gyfleoedd i gysylltu'r gwahanol brofiadau hynny ar gyfer ymwelwyr, gan hybu twristiaeth yn y blynyddoedd i ddod. Mae'n rhaid i mi gytuno â David Melding pan ddywed mai twristiaeth sy'n dod ag arian i mewn yw hyn, gan fod y bobl sy'n cerdded ar y llwybr yn gwneud hynny am lawer o resymau amrywiol—mae gwylio adar yn un rheswm, a ffotograffiaeth yn rheswm arall—a bydd camerâu a binocwlars, gwarbaciau a phethau eraill yn cael eu gwerthu ar hyd y ffordd, ac mae'r bobl sy'n gwerthu'r nwyddau hynny yn mynd i elwa'n wirioneddol ar hyn.
Felly, rwy'n gobeithio y byddwch chi'n parhau i gefnogi a hyrwyddo mentrau fel yr ŵyl gerdded, sydd yn helpu i werthu arfordir Cymru fel cyrchfan am fwy o resymau ac ym mhob tymor. A chredaf mai dyna'r neges allweddol, gan fod pobl yn cerdded y llwybr hwn ym mhob tymor neu am lawer o resymau amrywiol. Un o'r cwestiynau yr hoffwn eu gofyn, Dirprwy Weinidog, yw a wnewch chi ymuno â mi i ddiolch i'r bobl sy'n cadw'r llwybr hwnnw'n agored, o'r staff sy'n gweithio—rwyf wedi cwrdd â rhai ohonyn nhw; rwy'n siŵr bod pobl eraill wedi hefyd—ym mhob tywydd, i'r gwirfoddolwyr sy'n achub ar gyfleoedd hefyd i wneud yn siŵr ein bod ni'n gallu cerdded y llwybr hwn o hyd. Hefyd, hoffwn gydnabod—ac mae eraill wedi sôn am hyn heddiw—y manteision gwirioneddol a ddaw yn ei sgil i bobl, y lles i iechyd meddwl yn enwedig, o naill ai wirfoddoli mewn cyfleoedd gwaith i gadw'r llwybr hwnnw mewn cyflwr da, neu i ddianc i gefn gwlad er mwyn y pleser syml o wneud hynny a dianc rhag pwysau gwaith. Credaf fod hynny'n hanfodol bwysig ac, rwy'n falch o ddweud, yn cael ei gydnabod o'r diwedd.
Rwy'n bendant yn uno â Joyce Watson i ddiolch i'r staff a'r gwirfoddolwyr sy'n cynnal ac yn cadw'r ased gwych hwn yn agored, fel yr oeddech yn ei ddweud, ym mhob tywydd gydol y flwyddyn. Mae eu gwaith a'u hymrwymiad nhw'n sicr i'w gymeradwyo, ac rydych chi'n ffodus iawn o gael cynrychioli'r ardal honno ac yn gallu ymffrostio yn y milltiroedd lawer o lwybr arfordirol.
Roeddech chi'n sôn, mewn gwirionedd, mai un o'r pethau gwych, un o'r pethau rhyfeddol am lwybr yr arfordir yw y gall gyfuno bywyd gwyllt prin â'n treftadaeth ddiwydiannol gyfoethog ac, mewn gwirionedd, sut y gallwn ni ddod â nhw at ei gilydd a hyrwyddo hynny i ymwelwyr â'r llwybr arfordirol. Rwyf innau'n gallu gweld hynny yn fy ardal i, lle mae gennym ran newydd o'r llwybr gyda'r pen pwll gynt a glofa'r Parlwr Du a model o'r hen ferlen pwll glo, ac fe welwch chi fyrddau yno gyda hanes y lle. Ond pan ewch chi heibio'r gornel mae ardal yr RSPB lle gallwch edrych allan dros aber Afon Dyfrdwy.
Felly, ie, yn sicr, dyma'r hyn yr ydym ni wedi gweithio arno ac y dylem ni adeiladu arno. Ac un o'r pethau yr ydym ni'n ei ystyried—gwn fod yr Aelod wedi dweud ei bod hi am wneud y teithiau cerdded hir, nid y teithiau cylchol, ond un o'r pethau yr ydym ni'n eu hystyried, fel y dywedais i'n gynharach, o ran y cylchdeithiau hyn, yw rhoi ystyriaeth i ganolbwyntio ar wahanol themâu, a gallai un o'r rhain fod yn fywyd gwyllt a threftadaeth hefyd yn sicr. Felly dyna un ffordd o fanteisio i'r eithaf ar yr asedau hynny wrth inni fwrw ymlaen â'r gwaith hwn.
O ran twristiaeth sy'n dod ag arian a'r cyfleoedd sydd ar gael i ni fel cenedl, ond hefyd i'r busnesau hynny sydd â rhan yn hyn, dyna pam yr wyf i o'r farn bod y pecyn cymorth ar gyfer busnesau arfordirol yn bwysig iawn, a hefyd gwneud yr hyn allwn ni fel Aelodau i hyrwyddo hynny i fusnesau o fewn ein hetholaethau ein hunain a'n rhanbarthau ein hunain. Ceir amrywiaeth o ddeunyddiau y gall y busnesau hyn elwa arnyn nhw. Mae'r adnoddau yn cynnwys logos y gallan nhw eu defnyddio, eitemau newyddion—fe allan nhw gael posteri a fideos i'w defnyddio yn eu marchnata ar-lein/all-lein eu hunain i geisio denu'r farchnad gynyddol honno hefyd. Fe fyddaf i'n hyrwyddo'r ŵyl gerdded yn bendant. Fe fyddaf i yno ddydd Sul, ac fe fyddaf i'n siŵr o ddod o hyd i daith gerdded sy'n cyfuno dwy elfen yn fy mhortffolio, lle byddaf yn mynd am dro yn ogystal â chasglu ysbwriel hefyd.
Cefais fy ngeni yn Nhre-gŵyr, a phan oeddwn yn blentyn, pe byddech chi'n troi i'r chwith wrth adael fy nghartref i—roedd y gwaith dur yn union gyferbyn, ond, pe byddech chi'n troi i'r chwith, fe fyddech chi'n cerdded i lawr yr hen lwybr camlas—mae wedi diflannu bellach— lle cariwyd bachgen enwog o Geidwadwr o Abertawe o gyfarfod Plaid Lafur a'i hyrddio i mewn i'r gamlas. Mae'r gamlas wedi ei llenwi erbyn hyn, ac nid oes modd gwneud hynny eto. Ond pe byddech chi'n dilyn y gamlas honno byddech yn dod i Benclawdd a gwastadeddau llaid gogledd Gŵyr, yr aber, Aber Afon Llwchwr, ac, os daliwch ati i fynd o amgylch y penrhyn 13 milltir, yna rydych chi'n cyrraedd traethau tywod bychain hardd y de. Roeddwn i'n credu mod i wedi cael fy ngeni yn y nefoedd, mae'n rhaid dweud. Roeddwn i'n credu mod i'n lwcus dros ben. Ond, wrth i chi fynd yn hŷn, rydych yn dechrau sylweddoli, mewn gwirionedd, ein bod ni wedi ein bendithio yng Nghymru, ledled Cymru. Mae pob rhan o'r arfordir yn rhyfeddol, yn odidog.
Yr unig ofid sydd gennyf i wrth ddathlu, fel y gwnes i'r penwythnos diwethaf gyda'r Cerddwyr, Parc Cenedlaethol Sir Benfro, Cyfoeth Naturiol Cymru, grŵp o gerddwyr lleol, fy hen gydweithiwr Andrew Campbell o Gynghrair Twristiaeth Cymru—. Fe wnaethom gwrdd yno yn Saundersfoot gan droedio amrywiaeth o lwybrau arfordirol a llwybrau treftadaeth, gan fynd ychydig bach i berfedd gwlad—rhai o'r llwybrau cylchol newydd. Fy unig ofid i yw bod Cymru wedi achub y blaen ar Loegr yn hyn o beth, ond mae'n ofid digon pleserus, mewn gwirionedd. Y fi wnaeth gyflwyno'r Bil llwybr arfordirol ar gyfer Lloegr yn ôl yn—. Bobl bach, pryd oedd hynny? Ddegawd neu fwy yn ôl. Ac rydym ni'n ei ddatblygu o hyd. Nawr, mae hwnnw'n beth mawr, ond fe gyrhaeddwn yno, mae'n debyg, erbyn 2021. Ond bydd hynny wedyn yn beth rhyfeddol. Bydd modd cerdded nid yn unig ar hyd llwybr arfordir Cymru ond holl lwybr arfordir Lloegr, o Gaerliwelydd i Newcastle a thu hwnt, a cherdded Cymru a Lloegr i gyd yn gyfan, os oes gennych chi'r amser a'r ewyllys a bod gennych esgidiau go lew ac yn gwneud y daith honno yn ei chyfanrwydd. Ond rwy'n tybio fy mod i yn un, Llywydd, o'r bobl hynny y cyfeirir atynt fel y rheini sy'n mynd i wario arian yn yr economi leol. Byddaf i'n cerdded am filltiroedd lawer iawn ond bob amser wedyn yn gorffen trwy wario ar bryd da o fwyd a gwydraid neu ddau o gwrw, a lle braf wedyn, yn ôl pob tebyg, i aros mewn Gwely a Brecwast dros nos. Ac mae 'na lawer o bobl yn gwneud hynny. Mae'r effaith ar yr economi yn rhyfeddol. Ac ni ddylem anghofio, wrth gwrs, ac rwy'n croesawu'r datganiad heddiw, fod hyn yn dilyn traddodiad disglair pethau fel Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000, yr hawl i grwydro, mynediad i'r Parciau Cenedlaethol, y ddeddfwriaeth hawliau tramwy—mae'r pethau hynny i gyd wedi agor cefn gwlad a'r arfordir i genedlaethau o bobl ers y Llywodraeth flaengar gyntaf honno ar ôl y rhyfel, a hir y parhaed hynny. Yn ddiddorol, tra'r oeddem ni yn Saundersfoot, fe welsom ni ddatblygiad y ganolfan forol newydd yno—roedd y sgaffaldiau'n cael eu codi ac ati—a'r datblygiad gwych sydd ganddyn nhw yno o ran yr harbwr, gyda £4,000,000 o'n cyfran olaf o bosib o arian Ewropeaidd wedi mynd iddo, i fod yn safle rhyfeddol i berfformio ac i ymgasglu yno yn yr harbwr hwnnw, gan ei weddnewid ar gyfer cenhedlaeth newydd.
Os caf i ofyn un neu ddau o gwestiynau i'r Gweinidog—. Cyfeiriwyd eisoes at fater hygyrchedd rhai darnau o lwybr yr arfordir ar gyfer pobl sydd â phroblemau symudedd neu bobl sy'n defnyddio cadeiriau olwyn neu ddyfeisiau symudedd. Mae'n iawn ein bod ni'n gwneud yn siŵr bod y llwybr arfordirol yn hygyrch i bawb. Hefyd, beth ydym ni'n ei wneud ar gyfer grwpiau amrywiol nad ydyn nhw fel arfer yn cael cyfle i fod yn yr awyr agored? Rwy'n cofio inni gael prosiect mosaig da iawn, gan weithio gyda'r parciau cenedlaethol flynyddoedd yn ôl, a oedd yn edrych ar wahanol gymunedau BAME nad ydyn nhw, yn draddodiadol, yn mynd allan i'r awyr agored, ond yn gweithio gyda nhw a chyda phobl o fewn y cymunedau hynny, i gyflwyno'r cymunedau hynny—a rhwng y cenedlaethau o fewn y cymunedau hynny; mamau a thadau a theidiau a neiniau yn ogystal â'r plant—i'r awyr agored. Beth ydym ni'n ei wneud ynglŷn â hynny i fanteisio ar hynny gyda'r llwybr arfordirol sydd gennym ni yng Nghymru?
Tybed a wnaiff y Gweinidog siarad hefyd â'i chyd-Aelod sy'n ymdrin â thrafnidiaeth a chludiant cyhoeddus, i gael golwg—nid wyf i'n disgwyl cael ateb nawr, ond i gael golwg ar fater bysiau TrawsCymru, gan fod llawer o bobl yr wyf i'n eu hadnabod wedi gwneud defnydd gwirioneddol dda o'r teithiau penwythnos rhad ac am ddim gan drafnidiaeth TrawsCymru. Rwy'n edrych ymlaen at fy nhocyn bws am ddim pan fydda i'n hŷn, reit—ai 60 neu 65 fydd hynny? Bydd yn rhaid imi edrych i weld. Nid oes llawer i fynd eto. Ond mae nifer y bobl y byddaf i'n siarad â nhw sy'n defnyddio naill ai'r pas bws am ddim neu fws penwythnos TrawsCymru ac yn cerdded rhannau o'r llwybr arfordirol ac yna'n dal y bws eto—mae hynny wedi agor y peth led y pen. O ran cynhwysiant cymdeithasol a ffyrdd iach o fyw ac yn y blaen, mae hyn yn ddatblygiad newydd o bwys. Felly, pe byddai'r drafodaeth honno'n gallu digwydd—.
A gaf i, yn sicr fel is-lywydd y Cerddwyr —un o ddau is-lywydd—ddiolch o galon i'r Cerddwyr—nid yn unig am yr hyn y maen nhw'n ei wneud gyda'r ŵyl ar hyn o bryd, ond am eu gwaith cyson yn cynnal a chadw llwybrau troed, cilffyrdd ac yn y blaen? Mae honno bob amser yn her—mae llawer o ymdrech wirfoddol ynddi—ond maen nhw yn haeddu clod yn wir am yr hyn y maen nhw'n ei wneud.
Efallai y caf i ofyn i'r Gweinidog hefyd am ei barn hi am yr heriau sy'n parhau, oherwydd y sefyllfa o ran cyllid, cyllid prin, ar hyn o bryd. Fe wnaf i geisio osgoi defnyddio'r gair 'cyni'—. Na wnaf, fe ddaeth y gath o'r cwd. Ond mae awdurdodau lleol dan bwysau o ran eu hawliau tramwy. Mae pobl sydd nawr yn cysylltu rhai o'r llwybrau cylchol, ar y llwybr arfordirol hefyd, yn ymwneud â chadw'r hawliau tramwy arferol hynny'n hygyrch hefyd.
Ac, yn olaf, os caf i fynegi'n syml gymaint yr wyf i'n croesawu hyn, oherwydd y datblygiadau arloesol yma, yn enwedig y pecynnau cymorth i fusnesau, yn ogystal â'r llwybrau cylchol, a ddylai ddiwallu anghenion posib pawb—. Hir y parhaed. Dalwch ati i roi'r egni'r tu ôl iddo. Peidiwch â rhoi'r gorau iddi. Ac fe fydd hi'n ddiddorol gweld, efallai mewn blwyddyn neu ddwy, asesiad economaidd pellach o effaith y llwybr arfordirol ar economi Cymru.
Llywydd, mae arnaf ofn y bydd yn rhaid imi ddechrau drwy ddweud fy mod yn anghytuno'n sylfaenol â'r Aelod: nid wyf yn gresynu o gwbl fod Cymru wedi curo Lloegr ar hyn. Ond cytunaf yn llwyr â Huw wrth ddiolch i'r Cerddwyr, nid yn unig am yr ŵyl gerdded sy'n dod i ben y penwythnos hwn, ond hefyd am eu swyddogaeth barhaus nid yn unig o ran cynnal a chadw a gofalu am lwybr ein harfordir, ond hefyd y mentrau a gyflwynir ganddynt i annog pobl i elwa ohono. Ac, ar hynny, rwy'n credu y gallai pawb—. O ran materion hygyrchedd, credaf fod y cydbwysedd, fel y dywedasoch, rhwng sicrhau nad oes gennym gerbydau na ddylent fod yno, a sicrhau bod cynifer o bobl â phosib, ledled Cymru a thu hwnt, yn gallu gwneud y gorau o'r hyn sydd ar stepen drws llawer ohonom. Felly, fel y dywedais, mae'n sicr yn rhywbeth y dylid ei ystyried gyda rhanddeiliaid a phartneriaid mewn awdurdodau lleol a CNC wrth inni symud ymlaen â rhai o'r diwygiadau hygyrchedd.
Un o fanteision mawr y portffolio hwn a'm portffolio blaenorol yw fy mod yn cael yr hyn a elwir yn gyfarfodydd, pan fydd cyfle i fynd o gwmpas yn yr awyr iach a mwynhau gweld beth sy'n digwydd yn ymarferol. Wrth sôn am sut y cyflwynwn hyn i gymunedau nad ydynt fel arfer yn defnyddio'r awyr agored, fel rhan o hynny, rwyf wedi gweld nifer o enghreifftiau da iawn o arfer da ar hyd a lled yr arfordir, ond hefyd yn fewndirol, yn ein Parciau Cenedlaethol. Felly, mae'n sicr yn rhywbeth yr wyf am ei weld yn cael ei efelychu mewn cymunedau mewn mannau eraill. Efallai y bydd y ffocws hwn ar rai o'r llwybrau cerdded byrrach a chylchol newydd sy'n fwy hygyrch i drafnidiaeth gyhoeddus a'r cyfleusterau yn fodd i annog mwy o bobl i gymryd y cam cyntaf hwnnw'n llythrennol ac i fwynhau llwybr arfordir Cymru. Rwy'n sicr yn fwy na pharod i gael sgwrs gyda fy nghyd-Weinidog, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, ynghylch sut y gallwn ni, o ran TrawsCymru, sicrhau bod pob dull o drafnidiaeth, ein traed a'n trafnidiaeth gyhoeddus, yn gallu cydweithio i hyrwyddo llwybr ein harfordir yn y dyfodol yn y ffordd orau bosib.
Diolch i'r Dirprwy Weinidog.