Part of the debate – Senedd Cymru am 3:54 pm ar 14 Mai 2019.
A gaf i ddiolch i'r Dirprwy Weinidog am y datganiad amserol iawn hwn, a wnaed ganddi yn ystod yr ŵyl nodedig hon sef Gŵyl Gerdded Llwybr Arfordir Cymru? A gaf innau roi teyrnged i waith caled y Cerddwyr sy'n hwyluso llawer o'r dathliadau hyn? Ac a gaf i bwysleisio hefyd gerbron y Gweinidog a'r Siambr fy mod i'n ddefnyddiwr brwd o'r llwybr, yn enwedig yn Sir Benfro, Ceredigion ac yn fy nghynefin i, sef Morgannwg? Felly, rwy'n elwa'n aruthrol ar y cyfleuster gwych hwn.
Rwy'n arbennig o falch o weld datblygiad yr ap a'r wefan sydd i'w hailwampio. Rwy'n credu y dylid sicrhau bod yr atyniad hollbwysig hwn i dwristiaid yn fwy hygyrch mewn oes ddigidol fodern. Bydd yn rhoi delwedd dda o Gymru, yn fy marn i. Fel y dywedodd y Gweinidog, llwybr yr arfordir yw'r llwybr di-dor cyntaf yn y byd ar hyd arfordir gwlad ac mae'n galluogi cerddwyr i weld rhannau o'r arfordir sydd heb eu darganfod, sydd â golygfeydd godidog, a gallaf dystio i hynny, yn ogystal â thirweddau garw a bywyd gwyllt prin. Pleser mawr, yn wir, yw cael mynd ag ysbienddrych gyda chi a gweld y bywyd gwyllt mwyaf syfrdanol ond sydd fel arfer yn ddiarffordd. Mae'n rhywbeth i wir ymfalchïo ynddo.
Rwy'n falch o weld hefyd sut mae'r Llywodraeth yn annog arloesedd, fel datblygu llwybrau cylchol sy'n cysylltu â'r llwybr. Gwn o brofiad, weithiau, os mai dim ond diwrnod sydd gennych, y byddwch yn chwilio am lwybr cylchol. Mae'n wirioneddol ddefnyddiol cael hynny, ac mae hefyd yn dod ag ardal ychydig yn ehangach i gysylltiad â'r llwybr.
Mae yna rai materion yn codi, ac rwy'n eu codi nhw dim ond er mwyn gwella'r hyn sydd, yn fy marn i, yn gyfleuster rhagorol. Cyfeiriodd y Gweinidog at faterion yn ymwneud â hygyrchedd, a gwyddom fod rhai fforymau anabledd lleol wedi tynnu sylw at y problemau sy'n gysylltiedig â hygyrchedd i gadeiriau olwyn a rhwystrau eraill, fel y rhai a roddir weithiau i atal pobl rhag gyrru beiciau modur ar y llwybr yn anghyfreithlon. Gwn fod o leiaf un Cyngor Sir, sef Sir y Fflint, wedi cyfaddef bod angen iddo wella ei hygyrchedd ar gyfer defnyddwyr anabl, yn enwedig os yw wedi ei gysylltu â golygfannau, er enghraifft. Mae'n beth rhagorol i'w fwynhau, a chredaf ei bod yn rhaid inni gofio bod y rhai sydd â symudedd cyfyngedig neu sy'n ddibynnol ar gadeiriau olwyn yn dal i fod yn awyddus i fwynhau'r amgylchedd agored gymaint â phosib. Felly, rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth i'w gadw mewn cof.
Os caf i droi at farchnata, mae'r pecyn cymorth marchnata yr wyf i wedi edrych arno'n un cynhwysfawr iawn. Mae'n cwmpasu pob agwedd ar waith marchnata i fusnesau lleol, a all fanteisio wedyn ar y llwybrau cerdded. Mae hyn, yn fy marn i, yn wirioneddol bwysig, ond tybed a ydych am fynd â'r mater ymhellach a'i gysylltu â strategaeth sydd wedi ei hariannu yn iawn ar gyfer cerdded yng Nghymru. Rwy'n gwybod bod y Cerddwyr yn awyddus iawn i weld hyn, a dylem osod targedau uchelgeisiol i hyrwyddo cerdded fel gweithgaredd bob dydd gyda chymorth ychwanegol i'r rhai lleiaf sionc.
Fel y dywedwyd gennych yn eich datganiad, nid yr economi a thwristiaeth yn unig sy'n gweld manteision llwybr yr arfordir, er mai yno y maen nhw'n cael eu gweld fwyaf, fel y dengys y ffigurau y cyfeiriasoch atynt. Ond mae manteision o ran iechyd a lles hefyd, a gallwn gysylltu hynny â'n sail ddeddfwriaethol yn Neddf Teithio Llesol (Cymru) 2013. Mae'r Cerddwyr wedi sôn hefyd am yr angen i'w gysylltu â'r gwasanaeth iechyd, fel bod modd i bobl â phroblemau iechyd neu bobl sy'n debygol o ddatblygu problemau iechyd fanteisio arno.
Credaf fod angen strategaeth ryngwladol hefyd. Llywydd, gallwch bellach gerdded o amgylch Cymru. Rwyf wedi cerdded ar hyd Clawdd Offa hefyd er bod hynny—rwy'n rhyfeddu wrth feddwl am hyn, 40 o flynyddoedd yn ôl, rhwng y chweched dosbarth a'r brifysgol. Ond mae Cymru eisoes yn weddol enwog yn rhyngwladol, ac rwy'n credu bod angen inni adeiladu ar hynny, oherwydd mae'n lleoliad o'r radd flaenaf i gerddwyr. Mae'n arbennig o boblogaidd gyda cherddwyr sy'n dod o'r Iseldiroedd ac o'r Almaen, ond o rannau eraill o Ewrop hefyd yn ogystal â Gogledd America a rhannau eraill o'r byd. A phan fydd y bobl hyn yn mwynhau ein hamgylchedd bendigedig, fel y dywedais i, wrth grwydro'r mynyddoedd ac yn cerdded o amgylch yr arfordir, maen nhw'n awyddus i aros mewn gwestai unigryw, ac yn dymuno bwyta mewn bwytai o ansawdd da iawn—