Part of the debate – Senedd Cymru am 4:30 pm ar 14 Mai 2019.
Rydym wedi datblygu canllawiau uchel eu parch ar sut i ddylunio seilwaith a fydd yn gwneud cerdded a beicio yn ddewis mwy deniadol. Ond mae angen inni wneud mwy i hyfforddi ac uwchsgilio gweithwyr proffesiynol wrth ei ddefnyddio. Gallaf gyhoeddi heddiw felly, Llywydd, y byddwn yn neilltuo rhywfaint o'r £30 miliwn i fuddsoddi er mwyn gwella lefelau sgiliau a lledaenu arferion da.
Rwyf wedi cyfarfod â'r rhan fwyaf o'r cynghorwyr a'r swyddogion rheng flaen yr ydym yn gweithio gyda nhw i gyflawni'r prosiect hwn a gwrando ar eu pryderon. Y pryder allweddol yw bod cynlluniau teithio llesol da yn gallu bod yn gymhleth a bod cylchoedd ariannu blynyddol yn ei gwneud yn anodd eu cyflawni. Felly, byddaf yn sicrhau bod cyfanswm o £6.3 miliwn ar gael i awdurdodau lleol ar sail pro rata er mwyn eu galluogi i gynllunio cyn cyflwyno ceisiadau llawn am gyllid.
Bydd adnoddau'n brin bob amser a rhaid inni sicrhau ein bod yn buddsoddi mewn ffordd sy'n cynyddu'r canlyniadau i'r eithaf. Allwn ni ddim fforddio taenu'r jam mor denau fel bod cymunedau'n cael tamaid o lwybr ond dim digon i'w cael i unman. Rhaid inni ganolbwyntio ein hadnoddau ar adeiladu llwybrau a fydd yn caniatáu i bobl deithio'n gyfan gwbl i leoedd y mae angen iddynt eu cyrraedd, yn ddiogel ac yn gysurus o'u cartref i'r gwaith, neu i'r ysgol neu'r siopau. Dim ond wedyn y byddwn yn gallu argyhoeddi niferoedd sylweddol o bobl i newid eu harferion teithio. Rwyf yn barod i gymryd y bai am adeiladu llai o filltiroedd o lwybrau mewn llai o leoedd os bydd y llwybrau hynny'n galluogi llawer mwy o bobl i fod yn deithwyr llesol.
Rhaid inni wobrwyo uchelgais, ond hefyd, yn hollbwysig, helpu'r awdurdodau hynny nad ydynt wedi bod yn ddigon uchelgeisiol i fod yn fwy uchelgeisiol. Cyn hir byddwn yn dechrau ar gylch newydd o ymgynghoriadau ar gynlluniau awdurdodau lleol ar gyfer eu rhwydweithiau teithio llesol, y mapiau rhwydwaith integredig. Nid wyf eisiau gweld llinellau ar hap ar fap a all sgorio'n uchel o ran cyflawnadwyedd ond yn rhai nad ydynt yn creu rhwydweithiau di-dor sy'n cysylltu pobl â'r lleoedd y maent eisiau mynd iddynt. Felly, rwyf yn neilltuo arian i ariannu dull llawer mwy atyniadol o ymgynghori fel y bydd iteriad nesaf o'r mapiau integredig a gyflwynir gan gynghorau yn seiliedig ar farn ein grŵp targed—y rhai nad ydynt yn cerdded ac yn beicio ar hyn o bryd—ac sy'n arwain at lif o brosiectau a fydd yn cael effaith wirioneddol.
Wrth gwrs, mae'n ymwneud â mwy na llwybrau newydd yn unig. Rwyf eisiau gweld awdurdodau lleol yn defnyddio peth o'u hadnoddau newydd i nodi'r newidiadau bach hynny mewn ffyrdd a llwybrau a all wneud gwahaniaeth mawr. O bosib ehangu llwybr poblogaidd neu gael gwared ar rwystrau mynediad sydd wedi'u cynllunio'n wael sy'n atal pobl anabl, rhieni â phramiau, rhieni â phlant ar bygis ar gefn eu beiciau, rhag gallu mynd trwodd. Unrhyw beth a all ddangos y manteision o gael pobl i newid eu dull o deithio. Felly, anogir awdurdodau lleol i ddefnyddio rhan o'u dyraniad i ariannu prosiectau bach sy'n sicrhau gwelliannau parhaus i'w rhwydweithiau lleol.
Ym mis Chwefror, cefnogodd y Cynulliad cyfan gynnig yn galw am dargedau teithio llesol mwy uchelgeisiol. Byddaf yn gwireddu'r addewid hwnnw, ond er mwyn i'r targedau hynny fod yn ystyrlon ac yn effeithiol rhaid inni gael cynlluniau monitro effeithiol ar waith. Ar hyn o bryd, rydym yn ariannu llwybrau lle nad oes dull awtomatig o gadw cyfrif wedi'u gosod ynddynt fel mater o drefn, er enghraifft, ac mae angen inni edrych ar hynny. Felly, rwy'n gweithio gydag awdurdodau lleol i ddatblygu dull llawer mwy systematig na'r hyn sy'n bodoli ar hyn o bryd.
Rwyf wedi amlinellu'r heriau sy'n ein hwynebu yn fy marn i, ac mae yna nifer ohonynt. Fodd bynnag, nid wyf yn credu y dylem fod yn besimistaidd. Rydym yn dechrau gwneud rhai o'r penderfyniadau anoddaf a all newid yr agenda hon yn sylweddol. Cyhoeddodd y Prif Weinidog yr wythnos diwethaf y bydd Cymru yn dechrau ar waith i wneud 30 milltir yr awr yn derfyn cyflymder diofyn mewn ardaloedd preswyl, sy'n ffordd wirioneddol gadarnhaol o wella'r sefyllfa. Bydd cyflymderau is nid yn unig yn lleihau nifer y damweiniau ac yn gwella iechyd y cyhoedd; byddant hefyd yn creu amgylchedd sy'n fwy addas i deithio llesol. Rydym wedi dechrau gweithio ar strategaeth drafnidiaeth newydd i Gymru, a fydd yn ganolog i wireddu'r agenda uchelgeisiol hon ac yn sicrhau bod teithio llesol yn dod yn rhan hanfodol o brosiectau seilwaith mawr megis y metro. Bydd fy nghydweithiwr, Ken Skates, a minnau yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y gwaith hwn.
Ni all dim ond un fenter a gweithred gan Weinidog greu'r newidiadau y mae angen inni eu gweld i wrthdroi'r tueddiadau o ran trafnidiaeth a welwyd yn ystod y 50 mlynedd diwethaf. Bydd yn gofyn am ymdrechion parhaus, tameidiog, gan ganolbwyntio ar gannoedd o fanylion gwahanol, er mwyn creu diwylliant teithio llesol. Ond os ydym eisiau gwella ansawdd aer, cynyddu lefelau gweithgarwch corfforol a lleihau effeithiau niweidiol trafnidiaeth ar ein hamgylchedd, rhaid inni ymroi iddi.
Ac i gloi, rwy'n gwahodd yr Aelodau yn ddiffuant i ddweud wrthyf beth yn fwy y credwch y dylem fod yn ei wneud gyda'n gilydd yn eich cymunedau penodol i ganiatáu inni fod ar flaen y gad o ran yr her teithio llesol. Diolch.