Part of the debate – Senedd Cymru am 4:35 pm ar 14 Mai 2019.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad a'i gyhoeddiad y prynhawn yma? Rwy'n credu ei bod yn iawn fod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno deddfwriaeth sy'n arwain y byd o ran y Ddeddf teithio llesol. Ond wrth gwrs, nid yw deddfwriaeth ar ei phen ei hun yn ddigon—mae angen gweithredu hefyd, ac nid ydym wedi gweld y gweithredu hwnnw. Mae tanberfformiad sylweddol wedi bod—nid ydym wedi gweld y lefel o gerdded a beicio y mae angen inni ei gweld, o ran yr hyn y bwriadwyd i uchelgais y Ddeddf ei gyflawni yn ôl yn 2013. Dywedodd y Dirprwy Weinidog hefyd yn ei sylwadau agoriadol ein bod wedi ailadrodd y dadleuon hyn yn y Siambr o'r blaen, felly nid wyf am oedi gyda'r rheini. Ond hoffwn groesawu'r datganiad gonest iawn sydd wedi'i ddwyn gerbron heddiw. Rwy'n gwerthfawrogi tôn datganiad y Dirprwy Weinidog yn fawr iawn—mae'n edrych yn realistig ar y sefyllfa yr ydym ynddi, a diolchaf iddo am ei onestrwydd wrth asesu lle'r ydym ar hyn o bryd.
Rwy'n falch iawn bod gwaith y Pwyllgor fel petai wedi dylanwadu'n fawr ar feddylfryd y Llywodraeth hefyd, o ran y newidiadau mewn polisïau yr ydych wedi manylu arnynt yn eich datganiad heddiw. Rydych wedi sôn am hyfforddiant i awdurdodau lleol, mapiau rhwydwaith integredig, sy'n gwneud y newidiadau bach hynny y mae eu hangen i wneud gwahaniaeth. Ac fel yr oeddech yn darllen eich datganiad, roedd bron fel petaech yn darllen argymhellion adroddiad Pwyllgor yr Economi y llynedd. Felly, mae hynny i'w groesawu'n fawr, yn wir.
O ran y £30 miliwn ar gyfer teithio llesol, rwy'n credu fy mod yn iawn wrth ddweud, pan oeddech yn y Pwyllgor yr wythnos diwethaf, eich bod yn sôn bod y ffigur a ddyrennir draean yn fwy na'r hyn a glustnodwyd. Gofyn am rywfaint o eglurder ynghylch hynny'n unig a wnaf yma. Ond, yn benodol, os caf ofyn, beth yw maint y cynnydd mewn cyllid yn erbyn yr hyn a gynlluniwyd yn wreiddiol ar gyfer eleni, a sut mae hyn yn cymharu â lefelau cyllid y llynedd?
Hefyd, yn adroddiad Pwyllgor yr Economi, un o'r argymhellion a wnaethom, wrth gwrs, oedd bod yr arian yn cyrraedd £19 i £20 y pen y flwyddyn o gyllid cyfalaf a refeniw. Byddwn yn ddiolchgar pe gallech gadarnhau a yw'r cyllid a gyhoeddwyd gennych heddiw yn cyrraedd y terfyn hwnnw. Ac a gredwch fod yr argymhellion gan y Pwyllgor a'r arian a ddyrannwyd gennych heddiw yn ddigonol i sicrhau uchelgais Llywodraeth Cymru o ran teithio llesol ar yr hyn yr ydych wedi'i gyhoeddi heddiw.
Roeddech chi, wrth gwrs, yn aelod o'r Pwyllgor, Dirprwy Weinidog, pan oedd yr adroddiad hwn yn cael ei ddrafftio a'r argymhellion yn cael eu hystyried, ac felly rydych yn ymwybodol iawn o'r argymhellion yn adroddiad y Pwyllgor. Tybed sut yr ydych wedi ceisio blaenoriaethu'r dyraniad o gyllid i fynd i'r afael ag argymhellion adroddiad y Pwyllgor. Nid oes angen imi fynd drwyddynt—rydych yn gwybod beth ydynt yn barod.
A hefyd, yn ystod y craffu cyffredinol yr wythnos diwethaf—ac, unwaith eto, rydych wedi sôn am hyn yn eich datganiad heddiw —soniasoch am strategaeth drafnidiaeth Cymru, a gyhoeddir y flwyddyn nesaf. Sut ydych chi'n rhagweld y bydd teithio llesol yn rhan o'r strategaeth ddiwygiedig hon, ac a allwch ddweud pryd y bydd strategaeth ddrafft ar gael i graffu arni?
Ac yn olaf, rydych wedi gofyn i'r awdurdodau lleol am ddata teithio llesol i weld a oes unrhyw fylchau yn yr wybodaeth am deithio llesol. A ydych yn gallu rhoi rhagor o fanylion am sut y caiff y fframwaith monitro a gwerthuso ei ddefnyddio'n ymarferol, yn enwedig sut y gallai wella gwerth am arian o ran buddsoddiad a hefyd arwain at gynnydd mewn cyfraddau teithio llesol? Byddwn yn ddiolchgar pe gallech roi sylw i'r pwyntiau hynny. Ond rwy'n falch iawn o'r datganiad a'r cyhoeddiad heddiw.