Part of the debate – Senedd Cymru am 6:10 pm ar 15 Mai 2019.
Nid ein cynnyrch domestig gros na rhagolwg economaidd yw'r man cychwyn ar gyfer fy achos felly, ond adolygiad thematig o farwolaethau plant a phobl ifanc drwy hunanladdiad tebygol. Mae'r adolygiad hwnnw, a gyhoeddwyd yn 2014 ac sydd i'w ddiweddaru'n fuan, yn cynnwys astudiaethau achos a dadansoddiadau manwl ac yn archwilio ffactorau addasadwy a allai fod wedi cyfrannu at farwolaethau o ganlyniad i hunanladdiad. Fe'i harweinir gan yr Athro Ann John o Brifysgol Abertawe, sy'n cadeirio'r grŵp cynghori cenedlaethol ar atal hunanladdiad a hunan-niwed ar ran Llywodraeth Cymru, a hoffwn achub ar y cyfle i dalu teyrnged i Ann am y gwaith y mae'n ei wneud ddydd ar ôl dydd ar atal hunanladdiad yng Nghymru.
Mae'r adolygiad yn nodi cyfleoedd ar gyfer atal ac yn gwneud argymhellion i leihau'r risg o gyflawni hunanladdiad ymhlith plant a phobl ifanc yng Nghymru. Mae llawer o Aelodau yma'n gwybod bod atal hunanladdiad ymhlith pobl ifanc yn rhywbeth sy'n agos iawn at fy nghalon. Siaradais mewn cynhadledd am iechyd meddwl plant ychydig amser yn ôl, ac roedd thema fy araith yn ymwneud i raddau helaeth â phwysigrwydd gwrando ar leisiau pobl ifanc. Ar y diwedd, daeth un o'r cynadleddwyr ataf a dweud, 'Tybed beth fyddai'r bobl ifanc sydd wedi marw o ganlyniad i hunanladdiad yn ei ddweud wrthym pe baent yma heddiw'. Teimlwn fod y geiriau hynny'n ofnadwy o anodd, heriol a phoenus i'w clywed oherwydd, wrth gwrs, ni allwn eu gofyn. Dyna pam y mae'r adolygiad thematig mor dyngedfennol. Mae'n un o'r ychydig ffyrdd y gallwn glywed lleisiau'r bobl ifanc hyn. Dyma'r peth agosaf sydd gennym at argymhellion ôl-weithredol yn uniongyrchol gan y bobl ifanc eu hunain ynglŷn â sut y gallem fod wedi'u helpu a sut i atal marwolaethau yn y dyfodol.
Ac roedd ail argymhelliad yr adroddiad hwnnw'n dweud hyn,
Dylai Llywodraeth Cymru archwilio systemau i sicrhau bod plant a phobl ifanc rhwng 16 a 18 oed yn cael cymorth mewn addysg neu hyfforddiant, sy'n cynnwys hyfforddiant seiliedig ar waith. Gellid galluogi hyn drwy godi oedran gadael ysgol i 18 oed.
Roedd yr argymhelliad hwnnw'n seiliedig ar themâu cyffredin a ddaeth i'r amlwg yn yr adolygiad, a chaf fy sicrhau y byddant yn dod i'r amlwg eto yn y fersiwn ddiweddaraf y gallwn ei disgwyl ymhen ychydig wythnosau.
Yn y 14 o achosion a gafodd naratifau manwl gan y panel adolygu, nodwyd ffactorau cyffredin, gan gynnwys y ffaith bod gan lawer ohonynt anghenion addysgol penodol neu gyrhaeddiad addysgol cyfyngedig. Roedd llawer ohonynt heb fod mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, ac o'r herwydd, ni chaent fawr ddim cymorth, os o gwbl. Ac yn ôl astudiaeth arall o unigedd cymdeithasol ac unigrwydd yn y DU, ymhlith oedolion ifanc, yr unigolion nad ydynt yn symud ymlaen i addysg bellach, hyfforddiant neu gyflogaeth sydd fwyaf mewn perygl o fod wedi'u hynysu yn gymdeithasol ac yn unig. Mae hyn yn arwain at unigolion yn gwneud yn waeth na'u cyfoedion yn y farchnad lafur a gall arwain at amddifadedd incwm hirdymor a mwy o debygolrwydd o arwahanrwydd cymdeithasol.
Mewn cyferbyniad â hyn, rydym yn gwybod am yr ymdeimlad o berthyn a lles y gall lleoliadau addysgol eu rhoi i bobl ifanc, boed yn yr ysgol, yn y coleg neu mewn prentisiaeth. Mae'r gwobrau dysgu oedolion bob blwyddyn yn dangos y gwerth y gall addysg ei roi'n ôl i fywydau a arferai fod yn gythryblus. Mae stori Emily yn un y bydd pawb ohonom yn ei hadnabod yn ein cymunedau. Roedd magwraeth anodd wedi peri iddi fod yn encilgar, yn brwydro â phroblemau iechyd meddwl a diffyg hunan-barch. Yn 15 oed, cafodd ddiagnosis o anorecsia ac iselder; roedd wedi mynd yn ynysig. Ond ar ôl gweld cynorthwyydd addysgu'n gweithio gyda'i mab, cafodd Emily ei hysbrydoli i reoli ei phryder a'i diffyg hyder a chofrestrodd ar gwrs cyflwyniad i ofal plant yn y rhaglen dysgu oedolion yn y gymuned. Mae hi wedi ffynnu yn yr amgylchedd dysgu hwn ac wedi symud ymlaen i'r rhaglen lefel 2 yn ogystal ag ymgymryd â chyrsiau eraill. Rhoddodd addysg y cyfle roedd hi ei angen i Emily i frwydro'n ôl o ymyl y dibyn. Gwn nad hi yw'r unig un. Gwn fod cynnydd da wedi'i wneud yng Nghymru ar leihau nifer y bobl ifanc NEET a chodi ein lefelau sgiliau yn gyffredinol, ond nid yw hynny'n wir am bawb.
Dywedodd adroddiad Sefydliad Bevan, 'I want to be something', wrthym fod un o bob tri disgybl blwyddyn 11 yn gadael yr ysgol heb bump TGAU da. Mae'r opsiynau sy'n wynebu'r bobl ifanc hynny'n rhy ddryslyd, yn rhy gyfyngedig ac yn anaddas i'r diben. Mae'r adroddiad, a oedd unwaith eto'n seiliedig ar brofiad go iawn pobl ifanc, yn dweud bod yr amrywiaeth gyfredol o gyrsiau a rhaglenni'n golygu bod lleiafrif yn neidio o amgylch gwahanol gynlluniau cyn dod yn NEET hirdymor, gyda chanlyniadau negyddol am weddill eu bywydau.