– Senedd Cymru am 6:08 pm ar 15 Mai 2019.
Trown yn awr at y ddadl fer, a galwaf ar Lynne Neagle i siarad am y pwnc a ddewiswyd ganddi. Lynne.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwyf wedi cytuno i roi munud o fy amser i Suzy Davies AC.
Mae thema gyffredin i bob dadl drwy hanes ar godi oedran addysg orfodol. Mae gwleidyddion yn dechrau ac yn aml yn gorffen eu hachos drwy gyfeirio at yr effaith ar yr economi. Mewn trafodaeth ynglŷn â chodi'r oedran ysgol yn y 1960au, cafodd ei ddisgrifio gan Ysgrifennydd addysg y Torïaid, Edward Boyle, fel mesur angenrheidiol gan y byddai'n diwallu angen economaidd brys am fwy o reolwyr canol. Yn sicr, nid wyf yn dechrau'r ddadl hon, dadl na chredaf y bydd yn dod i ben heddiw, yn y gobaith o wneud dim mwy na sicrhau rhagor o reolwyr canol i Gymru. Rwy'n dechrau'r ddadl hon ar godi'r oedran cyfranogi mewn addysg i 18 oed yn y gobaith y gallwn roi nid yn unig y sgiliau y mae arnynt eu hangen yn y gwaith i'n pobl ifanc, ond y diogelwch, y ddealltwriaeth a'r gwydnwch sydd eu hangen arnynt i fyw bywydau diogel a chyflawn. Drwy ddal ein gafael ar ein pobl ifanc am ddwy flynedd ychwanegol, credaf y gallwn yn aml wella'r risgiau sy'n gysylltiedig ag unigrwydd, arwahanrwydd ac effaith ddinistriol dod yn NEET—rhywun nad yw mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant.
Nid ein cynnyrch domestig gros na rhagolwg economaidd yw'r man cychwyn ar gyfer fy achos felly, ond adolygiad thematig o farwolaethau plant a phobl ifanc drwy hunanladdiad tebygol. Mae'r adolygiad hwnnw, a gyhoeddwyd yn 2014 ac sydd i'w ddiweddaru'n fuan, yn cynnwys astudiaethau achos a dadansoddiadau manwl ac yn archwilio ffactorau addasadwy a allai fod wedi cyfrannu at farwolaethau o ganlyniad i hunanladdiad. Fe'i harweinir gan yr Athro Ann John o Brifysgol Abertawe, sy'n cadeirio'r grŵp cynghori cenedlaethol ar atal hunanladdiad a hunan-niwed ar ran Llywodraeth Cymru, a hoffwn achub ar y cyfle i dalu teyrnged i Ann am y gwaith y mae'n ei wneud ddydd ar ôl dydd ar atal hunanladdiad yng Nghymru.
Mae'r adolygiad yn nodi cyfleoedd ar gyfer atal ac yn gwneud argymhellion i leihau'r risg o gyflawni hunanladdiad ymhlith plant a phobl ifanc yng Nghymru. Mae llawer o Aelodau yma'n gwybod bod atal hunanladdiad ymhlith pobl ifanc yn rhywbeth sy'n agos iawn at fy nghalon. Siaradais mewn cynhadledd am iechyd meddwl plant ychydig amser yn ôl, ac roedd thema fy araith yn ymwneud i raddau helaeth â phwysigrwydd gwrando ar leisiau pobl ifanc. Ar y diwedd, daeth un o'r cynadleddwyr ataf a dweud, 'Tybed beth fyddai'r bobl ifanc sydd wedi marw o ganlyniad i hunanladdiad yn ei ddweud wrthym pe baent yma heddiw'. Teimlwn fod y geiriau hynny'n ofnadwy o anodd, heriol a phoenus i'w clywed oherwydd, wrth gwrs, ni allwn eu gofyn. Dyna pam y mae'r adolygiad thematig mor dyngedfennol. Mae'n un o'r ychydig ffyrdd y gallwn glywed lleisiau'r bobl ifanc hyn. Dyma'r peth agosaf sydd gennym at argymhellion ôl-weithredol yn uniongyrchol gan y bobl ifanc eu hunain ynglŷn â sut y gallem fod wedi'u helpu a sut i atal marwolaethau yn y dyfodol.
Ac roedd ail argymhelliad yr adroddiad hwnnw'n dweud hyn,
Dylai Llywodraeth Cymru archwilio systemau i sicrhau bod plant a phobl ifanc rhwng 16 a 18 oed yn cael cymorth mewn addysg neu hyfforddiant, sy'n cynnwys hyfforddiant seiliedig ar waith. Gellid galluogi hyn drwy godi oedran gadael ysgol i 18 oed.
Roedd yr argymhelliad hwnnw'n seiliedig ar themâu cyffredin a ddaeth i'r amlwg yn yr adolygiad, a chaf fy sicrhau y byddant yn dod i'r amlwg eto yn y fersiwn ddiweddaraf y gallwn ei disgwyl ymhen ychydig wythnosau.
Yn y 14 o achosion a gafodd naratifau manwl gan y panel adolygu, nodwyd ffactorau cyffredin, gan gynnwys y ffaith bod gan lawer ohonynt anghenion addysgol penodol neu gyrhaeddiad addysgol cyfyngedig. Roedd llawer ohonynt heb fod mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, ac o'r herwydd, ni chaent fawr ddim cymorth, os o gwbl. Ac yn ôl astudiaeth arall o unigedd cymdeithasol ac unigrwydd yn y DU, ymhlith oedolion ifanc, yr unigolion nad ydynt yn symud ymlaen i addysg bellach, hyfforddiant neu gyflogaeth sydd fwyaf mewn perygl o fod wedi'u hynysu yn gymdeithasol ac yn unig. Mae hyn yn arwain at unigolion yn gwneud yn waeth na'u cyfoedion yn y farchnad lafur a gall arwain at amddifadedd incwm hirdymor a mwy o debygolrwydd o arwahanrwydd cymdeithasol.
Mewn cyferbyniad â hyn, rydym yn gwybod am yr ymdeimlad o berthyn a lles y gall lleoliadau addysgol eu rhoi i bobl ifanc, boed yn yr ysgol, yn y coleg neu mewn prentisiaeth. Mae'r gwobrau dysgu oedolion bob blwyddyn yn dangos y gwerth y gall addysg ei roi'n ôl i fywydau a arferai fod yn gythryblus. Mae stori Emily yn un y bydd pawb ohonom yn ei hadnabod yn ein cymunedau. Roedd magwraeth anodd wedi peri iddi fod yn encilgar, yn brwydro â phroblemau iechyd meddwl a diffyg hunan-barch. Yn 15 oed, cafodd ddiagnosis o anorecsia ac iselder; roedd wedi mynd yn ynysig. Ond ar ôl gweld cynorthwyydd addysgu'n gweithio gyda'i mab, cafodd Emily ei hysbrydoli i reoli ei phryder a'i diffyg hyder a chofrestrodd ar gwrs cyflwyniad i ofal plant yn y rhaglen dysgu oedolion yn y gymuned. Mae hi wedi ffynnu yn yr amgylchedd dysgu hwn ac wedi symud ymlaen i'r rhaglen lefel 2 yn ogystal ag ymgymryd â chyrsiau eraill. Rhoddodd addysg y cyfle roedd hi ei angen i Emily i frwydro'n ôl o ymyl y dibyn. Gwn nad hi yw'r unig un. Gwn fod cynnydd da wedi'i wneud yng Nghymru ar leihau nifer y bobl ifanc NEET a chodi ein lefelau sgiliau yn gyffredinol, ond nid yw hynny'n wir am bawb.
Dywedodd adroddiad Sefydliad Bevan, 'I want to be something', wrthym fod un o bob tri disgybl blwyddyn 11 yn gadael yr ysgol heb bump TGAU da. Mae'r opsiynau sy'n wynebu'r bobl ifanc hynny'n rhy ddryslyd, yn rhy gyfyngedig ac yn anaddas i'r diben. Mae'r adroddiad, a oedd unwaith eto'n seiliedig ar brofiad go iawn pobl ifanc, yn dweud bod yr amrywiaeth gyfredol o gyrsiau a rhaglenni'n golygu bod lleiafrif yn neidio o amgylch gwahanol gynlluniau cyn dod yn NEET hirdymor, gyda chanlyniadau negyddol am weddill eu bywydau.
Daw un o'r dyfyniadau sy'n sefyll allan yn yr adroddiad hwnnw gan rywun a oedd yn ceisio tywys pobl ifanc drwy'r realiti newydd dryslyd hwnnw. Meddai:
Mae gan lawer o bobl ifanc broblemau mawr o ran pryder, problemau iechyd meddwl... Mae'r ysgol yn fath da o ddull strwythuredig ar eu cyfer ac yn darparu cymorth iddynt... Pan ddaw'r cymorth hwnnw i ben, pan fydd y strwythur a'r drefn reolaidd honno'n gorffen, yr hyn a welwn yw bod pobl ifanc yn encilio i'w hystafelloedd gwely... ac yn aros yno.
A'r dryswch hwn a'r gadael fynd yn rhy gynnar sy'n gwneud i mi feddwl bod angen i ni symud i system addysg neu hyfforddiant gorfodol hyd at 18 oed. Mae hwn yn newid sydd wedi'i gyflwyno yn Lloegr, gyda chefnogaeth drawsbleidiol, a lle mae lefelau NEET ymhlith pobl ifanc bellach yn is nag yng Nghymru. Yn ganolog i'r ddadl a sicrhaodd y newid hwnnw roedd cydnabyddiaeth y byddai pobl o'r cefndiroedd mwyaf difreintiedig, a fyddai'n elwa fwyaf o barhau ag addysg, yn llai tebygol o gyfranogi'n wirfoddol.
Felly, credaf mai gwerth y polisi hwn yw ei fod yn rhoi'r baich a'r cyfrifoldeb ar y Llywodraeth ac nid ar y bobl ifanc eu hunain. Gallem ddatblygu'r llwybr perffaith ar gyfer pob plentyn yn ei arddegau yng Nghymru, ond drwy roi'r cyfrifoldeb arnynt i ganfod eu ffordd eu hunain, rydym yn amlwg yn mynd i golli cyfran gyfan o'r plant sy'n fwyaf agored i ddod yn NEET yn y lle cyntaf. Ac er na fyddai codi oedran cyfranogiad yn eu dal i gyd, byddai'n golygu y dylent oll gael cynnig cyfleoedd a bod rhywfaint o oruchwyliaeth ar rai 16 a 17 oed, sy'n dal i fod yn blant yn y bôn.
Nid wyf yn dadlau, er hynny, mai dim ond efelychu enghraifft Lloegr y dylem ei wneud. Credaf y byddai'n dda o beth inni edrych at Ontario, lle cyflwynwyd y newid hwn mewn ffordd gynhwysfawr, gan roi dewisiadau go iawn a chlir i'r dysgwyr ynglŷn â sut i gwblhau eu taith addysg. Mae'n cynnwys y gymuned gyfan, nid ysgolion a cholegau yn unig. Mae Deddf 2006 a basiwyd yn Ontario yn glir yn ei huchelgais. Mae'n dweud y bydd y dalaith yn ei chyfanrwydd yn
Cadarnhau nad oes unrhyw fenter yn fwy hanfodol i ddyfodol y dalaith na chynllun sy'n sicrhau bod pobl ifanc yn parhau i ddysgu nes iddynt raddio neu droi'n 18 oed, boed hynny yn yr ystafell ddosbarth neu drwy gyfleoedd dysgu cyfatebol, megis prentisiaeth neu raglen hyfforddiant yn y gweithle.
Rwy'n credu bod Lloegr wedi cymryd y syniad o godi'r oedran cyfranogi mewn addysg heb ddysgu'n iawn o fentrau cysylltiedig Ontario, fel y rhaglen lwyddiant myfyrwyr, er enghraifft. Mae timau llwyddiant myfyrwyr yn Ontario yn rhoi sylw a chefnogaeth ychwanegol i fyfyrwyr unigol sydd eu hangen. Cânt gyfle i elwa o sylw a chymorth unigol, a dewis o blith rhagor o opsiynau ar gyfer dysgu, fel addysg gydweithredol estynedig, dysgu sgiliau arbenigol lefel uwch, credydau deuol ac e-ddysgu. Ac yn hollbwysig, cânt gymorth i ddatrys problemau y gallent fod wedi'u hwynebu ar eu pen eu hunain cyn hynny.
Drwy ddilyn enghraifft Ontario yn fwy manwl, byddem yn osgoi rhai o'r camgymeriadau a welsom yn Lloegr. Yn wir, rwy'n credu bod gennym ddwy fantais amlwg yn barod ar gyfer cyflawni'r math hwn o newid yng Nghymru sy'n unigryw yn ein hagenda bolisi ein hunain. Yn gyntaf, mae gennym ffurf wirioneddol gyfun ar addysg uwchradd a llai o farchnadeiddio ar y system ysgolion a cholegau. Bydd hyn yn lleihau cymhlethdod wrth gyflwyno opsiynau dysgu gwahanol mewn lleoliadau gwahanol. Yn ail, mae hanes codi'r oedran cyfranogi yn un o lunwyr polisi yn rhoi'r cart o flaen y ceffyl. Yn gyntaf, codwyd y terfyn oedran, ond ni cheir gwerthuso priodol a diwygio'r cwricwlwm tan ar ôl y newid hwnnw. Felly, yng Nghymru ar hyn o bryd, mae gennym gyfle i wneud hyn yn y drefn gywir. Fel y nododd adroddiad 'Cadernid meddwl' fy mhwyllgor, mae'r gwaith presennol o ddiwygio'r cwricwlwm yn cynnig cyfle unwaith mewn cenhedlaeth i brif ffrydio lles emosiynol ac iechyd meddwl mewn addysg. Ac fel y dywedodd y Gweinidog, diben y diwygiadau hyn yw llunio system sy'n cael ei phweru â phwrpas a'r math o ddinasyddion yr hoffem eu gweld.
Mae hyn yn ymwneud â siapio ein cymdeithas er gwell, nid dim ond datblygu asiantau a defnyddwyr economaidd mwy effeithiol. Yn ganolog i'r genhadaeth fwy a phwysig honno mae'r angen i ddal ein gafael ar ein dysgwyr cyhyd ag y gallwn. Mae gennym gyfle i wneud y peth iawn yn y ffordd iawn yn y drefn iawn yma yng Nghymru. Credaf mai ein dyletswydd i'n pobl ifanc yw manteisio ar y cyfle hwnnw.
Fel yr ysgrifennodd Michelle Obama am ei hysgol ei hun:
Drwy fy addysg, nid datblygu sgiliau'n unig a wneuthum, nid datblygu'r gallu i ddysgu yn unig: datblygais hyder hefyd.
Ni allaf feddwl am adeg pan fo mwy o angen yr hyder hwnnw ar ein plant na heddiw, yn wyneb ansicrwydd economaidd, rhaniadau cymdeithasol ac argyfwng iechyd meddwl sy'n gwaethygu. Weithiau, fel gwneuthurwyr polisi, ni allwn weld yr hyn sydd o flaen ein llygaid. Credaf mai dyna sy'n digwydd yn y fan hon. Nid oes neb ohonom am weld ein plant a'n pobl ifanc yn unig ac wedi'u hynysu, nid oes yr un ohonom yn amau effeithiau hirdymor peidio â bod mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, ac nid oes yr un ohonom yn anghytuno â'r effaith gadarnhaol a gaiff y lleoliad addysgol priodol ar les plant a phobl ifanc. Mae pob un ohonom am gael system addysg sy'n ymateb i anghenion emosiynol ein disgyblion, yn ogystal â'r economi, ac eto mae'n ymddangos ein bod yn amharod i wneud yr un newid a fyddai'n mynd i'r afael â'r holl bethau hyn. Yn sicr, mae codi oedran cyfranogi mewn addysg yng Nghymru yn syniad y mae ei amser wedi dod. Diolch.
Diolch yn fawr iawn i chi am hynny, Lynne. Gwrandewais â diddordeb mawr a chan wisgo fy het Gweinidog yr wrthblaid. Yn sicr, hoffwn weld yr adroddiadau y cyfeirioch chi atynt, ond hefyd roeddwn yn meddwl bod llawer o rinwedd yn y syniad ei hun. Rwy'n derbyn yr hyn a ddywedoch am y system yn Lloegr; yr hyn a ddywedwn i yw bod y rhan honno ohono—mae'n waith, addysg neu hyfforddiant, ac efallai, ceir lle bob amser i ychydig mwy o arloesedd drwy edrych ar sut beth yw hyfforddiant mewn gwirionedd. Nid yw'r pwynt a wnaethoch ynglŷn ag—ai Emily oedd ei henw—yn cael dechrau newydd sbon drwy addysg i oedolion yn ddiweddarach yn ei bywyd yn rhywbeth y dylem ei ddiystyru ychwaith, oherwydd bydd yna bobl bob amser sy'n colli cyfle y tro cyntaf, hyd yn oed yr ail dro. Dyna pam roeddwn am sôn yn gryno, os nad oes ots gennych, nad yw mor bell yn ôl â hynny pan welsom mai pobl dros 50 oed a ffurfiai'r garfan fwyaf o bobl ddi-waith heb fod drwy ddewis. Felly, hoffwn sôn am waith Prime Cymru, sy'n helpu i ail-addysgu pobl sy'n hŷn o lawer na'r rhai rydych chi'n sôn amdanynt, i roi eu pedwerydd cyfle iddynt, os mynnwch, i ddechrau eu busnesau eu hunain yn eu 50au hwyr. Felly, rydym yn sôn am addysg fel profiad gydol oes, ond mae'r pwyntiau penodol a wnaethoch yn eich dadl fer heddiw yn ddiddorol iawn yn fy marn i, felly diolch yn fawr iawn am eu dwyn i'n sylw.
Diolch. A gaf fi alw ar y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip i ymateb i'r ddadl—Jane Hutt?
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd, a hoffwn ddiolch hefyd i Lynne am gyflwyno'r ddadl hon heddiw. Rwy'n cydnabod yr achos a wnaeth Lynne yn rymus iawn y prynhawn yma ynglŷn â'r oedran addysg gorfodol. Rwy'n credu ei bod yn bwysig pwysleisio ymrwymiad y Llywodraeth wrth gwrs, fel rydych eisoes wedi cydnabod, Lynne, i ddysgu gydol oes go iawn a'r lles diwylliannol a'r manteision economaidd a ddaw yn sgil hyn i unigolion a chymdeithas yn gyffredinol. Wrth gwrs, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i archwilio hawl Gymreig newydd i ddysgu gydol oes.
Rydym yn cydnabod, ac mae hyn wedi'i nodi gan Sefydliad Dysgu a Gwaith Cymru, fod dysgu i oedolion yn helpu i ddatblygu synnwyr o hunan, yn gwella iechyd personol ac yn mynd i'r afael ag unigedd cymdeithasol, ac mae Suzy wedi gwneud sylwadau ar hynny yn awr. Mae'n bwysig inni ddysgu sut y gellir cyflawni hyn, felly mynychodd swyddogion Llywodraeth Cymru seminar yn ddiweddar yng ngweithdy DOVE ym Manwen ynglŷn â sut i fwrw ymlaen â'r hawl honno i ddysgu gydol oes. Roedd yn rhoi ffocws penodol ar rôl addysg oedolion a grymuso dinasyddion, a gwnaethpwyd cysylltiad cryf â dibenion y cwricwlwm ysgol newydd y sonioch chi amdano wrth gwrs. Yn amlwg, dylai hwnnw gymell diben newydd o ran grymuso ein dinasyddion ifanc.
Rwy'n credu y byddem i gyd yn cytuno y gallai galluogi dysgwyr moesegol, gwybodus, uchelgeisiol ac iach fod yn ddibenion ar gyfer system addysg gyfan heb ddod i ben yn 16 oed. Felly, roeddwn am danlinellu'r pwyntiau hynny am ddysgu o'r crud i'r bedd, am addysg barhaus a'i manteision economaidd a chymdeithasol, cyn dod yn ôl at fater codi oedran addysg orfodol.
Fel y nodoch chi, nid oes gennym bolisi o addysg orfodol ar ôl 16 oed, ond nid yw'n golygu nad ydym yn darparu ar gyfer ein pobl ifanc ar ôl yr oedran hwnnw—i'r gwrthwyneb. Rydym yn uchelgeisiol yn ein hagenda i ddiwygio'r cyd-destun ariannu a chynllunio strategol ôl-16 drwy ein cynigion addysg a hyfforddiant ôl-orfodol, gan gynnwys comisiwn newydd ar gyfer addysg ac ymchwil drydyddol. Ni ddylai ein cenhadaeth genedlaethol ddod i ben wrth gatiau'r ysgol. Yn unol â'n strategaeth ar gyfer y system ysgolion, ein nod yw hyrwyddo gwell ansawdd, herio perfformiad gwael, dathlu a rhannu arferion da, a chodi safonau yn gyffredinol. Mae arnom eisiau system sy'n cymell pobl fel eu bod yn awyddus i aros mewn addysg a hyfforddiant.
Hyd yma, nid yw Llywodraeth Cymru wedi gweld unrhyw dystiolaeth bendant fod gorfodaeth yn ddull gwell nag anogaeth o ran symud ymlaen o 16 oed, a chofiaf y trafodaethau hyn pan oeddwn yn Weinidog addysg gynt. Bryd hynny, roeddem yn cyflwyno ac yn gyrru'r polisi llwybrau dysgu 14-19 yn ei flaen, ac mae'n dda gweld bod hynny wedi gwneud argraff bwysig a chadarnhaol. Mae pob person ifanc ôl-16 yn cael cynnig 30 o ddewisiadau fan lleiaf, sy'n cynnwys o leiaf bum dewis galwedigaethol, a thrwy alluogi dysgwyr i ddilyn cyrsiau y maent yn gweld eu bod yn berthnasol i'w hanghenion, eu diddordebau a'u dyheadau, credwn y bydd hyn yn eu helpu i ddatblygu'r sgiliau sy'n angenrheidiol ar gyfer symud ymlaen i addysg uwch neu gyflogaeth sgiliau uwch. Ond nid mater o ennill sgiliau a chymwysterau yn unig yw dysgu a hyfforddi, fel y gwnaethoch chi'n glir iawn, a rhaid iddo ymwneud â'r person cyfan. Rhaid i'r system addysg helpu plant a phobl ifanc i ddiwallu eu hanghenion, a hefyd eu galluogi i fod yn unigolion cyflawn a thosturiol yn eu ffordd eu hunain.
A wnewch chi dderbyn ymyriad? Diolch am ildio, Jane. Ni ddylem anghofio rôl werthfawr prentisiaethau hefyd wrth gwrs. Mae llawer o bobl ifanc, neu gyfran o bobl ifanc, sy'n gadael yn gynharach ym mywyd yr ysgol yn gwneud hynny am nad ydynt yn teimlo mewn gwirionedd fod yr hyn a wnânt yn gweddu iddynt hwy, ond gwelsom o'r enghraifft o rai o'r prentisiaethau sydd ar gael y gall hynny lenwi'r bwlch. Felly, nid wyf yn dweud y dylai hynny dynnu oddi wrth yr hyn y soniwch amdano, Lynne, ond credaf fod y ddau'n mynd gyda'i gilydd.
Wel, ie, ac rwy'n meddwl bod hynny'n rhywbeth, unwaith eto, lle'r ydym wedi buddsoddi mewn prentisiaethau, a dyna oedd y llwybr cywir i lawer o bobl ifanc, a weithiau gall y prentisiaethau hynny arwain at addysg bellach ac addysg uwch y tu hwnt i gyfnod y brentisiaeth, ac mae gwneud y prentisiaethau hynny'n agored ac yn hygyrch ac wedi'u hariannu yn hanfodol bwysig. Mae'n rhaid i ni sicrhau bod ein hysgolion a'n colegau yn lleoedd cefnogol sy'n helpu i gynnal lles ein dysgwyr.
Felly, down at y pwyntiau pwysig y mae Lynne Neagle wedi'u codi ynglŷn ag iechyd emosiynol a meddyliol ein pobl ifanc, ac mae hynny'n hollbwysig. Rydym eisiau gwneud yn siŵr eu bod yn cael eu cefnogi'n llawn drwy bob cam o'u haddysg i fod yn gadarn yn emosiynol ac yn feddyliol, yn hyderus, ac yn anad dim, yn hapus. Dyna pam rwy'n falch ein bod ni fel Llywodraeth yn gweithio gyda'r Gweinidog iechyd a chithau fel Cadeirydd y pwyllgor ar weithredu ymateb y Llywodraeth i adroddiad pwyllgor ysbrydoledig y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, 'Cadernid meddwl'. Rwy'n falch, hefyd, o gael cyfle i ategu eich diolch i'r athro Ann John am ei gwaith, a nodaf y drafodaeth a gawsoch gyda hi yn y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y llynedd ar atal hunanladdiad. Nodaf iddi ddweud bod llawer o argymhellion yn yr adolygiad thematig yn cael eu gweithredu, a chredaf fod amseriad y ddadl hon yn allweddol, ein bod yn pwyso a mesur yr hyn sy'n digwydd, a rhaid gweithredu'r gwaith ar 'Cadernid meddwl', a gafodd gefnogaeth mor gryf ar draws y Siambr hon, o ran ymateb y Llywodraeth. Gwyddom ei bod yn hanfodol bwysig sicrhau bod iechyd meddwl a lles yn ganolog i'r ffordd y mae ysgolion yn gweithio. Mae ein plant a'n pobl ifanc angen y cymorth iawn yn y lle iawn ar yr adeg iawn i'w galluogi i dyfu mewn amgylcheddau iach a meithringar. Bydd y gwaith hwn yn rhoi'r cyfle gorau posibl iddynt gyflawni eu gwir botensial.
O ran pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant, gallwn ymfalchïo yn y ffaith bod nifer y bobl ifanc rhwng 16 a 18 oed sydd â statws NEET ar eu lefel isaf erioed, ond mae cymaint i'w wneud o hyd, ac rydym yn cydnabod mai dyna lle mae'r fframwaith—y fframwaith ymgysylltu a datblygu ieuenctid—yn cael effaith go iawn. Rydym wedi sôn am brentisiaethau, ond mae canran y rhai sy'n gadael yr ysgol ym mlwyddyn 11 wedi mwy na haneru o ran y rhai nad ydynt yn mynd i addysg, cyflogaeth na hyfforddiant.
Felly, rwyf am orffen y ddadl drwy ddiolch i Lynne Neagle am gyflwyno maes pwysig iawn i'w drafod, gan barhau, fel y mae'n gwneud, i ddadlau'r achos dros fod yn uchelgeisiol yn y modd yr ehangwn fynediad at addysg a hyfforddiant a chyfranogiad ynddynt. Y prynhawn yma roeddem yn siarad ac roeddwn yn cael fy holi am y ddeddfwriaeth llesiant cenedlaethau'r dyfodol, ac rydym yn sôn am y genhedlaeth—. Rydym yn gofalu am addysg ac yn gofalu am heddiw, ond mae'n ymwneud â'r dyfodol, ein dinasyddion yn y dyfodol. Fe sonioch chi fod angen inni gael ein pweru gan ddinasyddion y dyfodol o ran pobl iau, a bod gwersi i'w dysgu nid yn unig o Loegr, y profiad yn Lloegr—gwn y bydd y Gweinidog am edrych ar y profiad yn Ontario. Gwn y bydd hi eisiau eich cyfarfod i wneud gwaith dilynol ar y ddadl hon, sydd wedi bod yn arwyddocaol iawn, a gwn y bydd o ddiddordeb mawr i'n dysgwyr a'n haddysgwyr yng Nghymru.
Diolch yn fawr iawn. Daw hynny â thrafodion heddiw i ben. Diolch.