Part of the debate – Senedd Cymru am 6:22 pm ar 15 Mai 2019.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd, a hoffwn ddiolch hefyd i Lynne am gyflwyno'r ddadl hon heddiw. Rwy'n cydnabod yr achos a wnaeth Lynne yn rymus iawn y prynhawn yma ynglŷn â'r oedran addysg gorfodol. Rwy'n credu ei bod yn bwysig pwysleisio ymrwymiad y Llywodraeth wrth gwrs, fel rydych eisoes wedi cydnabod, Lynne, i ddysgu gydol oes go iawn a'r lles diwylliannol a'r manteision economaidd a ddaw yn sgil hyn i unigolion a chymdeithas yn gyffredinol. Wrth gwrs, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i archwilio hawl Gymreig newydd i ddysgu gydol oes.
Rydym yn cydnabod, ac mae hyn wedi'i nodi gan Sefydliad Dysgu a Gwaith Cymru, fod dysgu i oedolion yn helpu i ddatblygu synnwyr o hunan, yn gwella iechyd personol ac yn mynd i'r afael ag unigedd cymdeithasol, ac mae Suzy wedi gwneud sylwadau ar hynny yn awr. Mae'n bwysig inni ddysgu sut y gellir cyflawni hyn, felly mynychodd swyddogion Llywodraeth Cymru seminar yn ddiweddar yng ngweithdy DOVE ym Manwen ynglŷn â sut i fwrw ymlaen â'r hawl honno i ddysgu gydol oes. Roedd yn rhoi ffocws penodol ar rôl addysg oedolion a grymuso dinasyddion, a gwnaethpwyd cysylltiad cryf â dibenion y cwricwlwm ysgol newydd y sonioch chi amdano wrth gwrs. Yn amlwg, dylai hwnnw gymell diben newydd o ran grymuso ein dinasyddion ifanc.
Rwy'n credu y byddem i gyd yn cytuno y gallai galluogi dysgwyr moesegol, gwybodus, uchelgeisiol ac iach fod yn ddibenion ar gyfer system addysg gyfan heb ddod i ben yn 16 oed. Felly, roeddwn am danlinellu'r pwyntiau hynny am ddysgu o'r crud i'r bedd, am addysg barhaus a'i manteision economaidd a chymdeithasol, cyn dod yn ôl at fater codi oedran addysg orfodol.
Fel y nodoch chi, nid oes gennym bolisi o addysg orfodol ar ôl 16 oed, ond nid yw'n golygu nad ydym yn darparu ar gyfer ein pobl ifanc ar ôl yr oedran hwnnw—i'r gwrthwyneb. Rydym yn uchelgeisiol yn ein hagenda i ddiwygio'r cyd-destun ariannu a chynllunio strategol ôl-16 drwy ein cynigion addysg a hyfforddiant ôl-orfodol, gan gynnwys comisiwn newydd ar gyfer addysg ac ymchwil drydyddol. Ni ddylai ein cenhadaeth genedlaethol ddod i ben wrth gatiau'r ysgol. Yn unol â'n strategaeth ar gyfer y system ysgolion, ein nod yw hyrwyddo gwell ansawdd, herio perfformiad gwael, dathlu a rhannu arferion da, a chodi safonau yn gyffredinol. Mae arnom eisiau system sy'n cymell pobl fel eu bod yn awyddus i aros mewn addysg a hyfforddiant.
Hyd yma, nid yw Llywodraeth Cymru wedi gweld unrhyw dystiolaeth bendant fod gorfodaeth yn ddull gwell nag anogaeth o ran symud ymlaen o 16 oed, a chofiaf y trafodaethau hyn pan oeddwn yn Weinidog addysg gynt. Bryd hynny, roeddem yn cyflwyno ac yn gyrru'r polisi llwybrau dysgu 14-19 yn ei flaen, ac mae'n dda gweld bod hynny wedi gwneud argraff bwysig a chadarnhaol. Mae pob person ifanc ôl-16 yn cael cynnig 30 o ddewisiadau fan lleiaf, sy'n cynnwys o leiaf bum dewis galwedigaethol, a thrwy alluogi dysgwyr i ddilyn cyrsiau y maent yn gweld eu bod yn berthnasol i'w hanghenion, eu diddordebau a'u dyheadau, credwn y bydd hyn yn eu helpu i ddatblygu'r sgiliau sy'n angenrheidiol ar gyfer symud ymlaen i addysg uwch neu gyflogaeth sgiliau uwch. Ond nid mater o ennill sgiliau a chymwysterau yn unig yw dysgu a hyfforddi, fel y gwnaethoch chi'n glir iawn, a rhaid iddo ymwneud â'r person cyfan. Rhaid i'r system addysg helpu plant a phobl ifanc i ddiwallu eu hanghenion, a hefyd eu galluogi i fod yn unigolion cyflawn a thosturiol yn eu ffordd eu hunain.