Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 15 Mai 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 1:45, 15 Mai 2019

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Weinidog, dwi eisiau cyfeirio, os caf i i gychwyn, at ddogfen ymgynghori'ch Llywodraeth chi ar waredu gwastraff ymbelydrol yn ddaearegol. Nawr, mi ddyfynnaf i o’r ddogfen ymgynghorol honno. Mae’n dweud:

‘Mae gwaredu gwastraff ymbelydrol yn fater sydd wedi’i ddatganoli. Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am bennu'r polisi' ar gyfer gwaredu gwastraff ymbelydrol yng Nghymru. Ond, wrth edrych ar baragraff 99 o Schedule 7B o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, mae hwnnw’n dweud bod pwerau dros ynni niwclear ac installations niwclear wedi’u cadw nôl. Mae’r neilltuad yna’n cynnwys diogelwch niwclear ac atebolrwydd am ddigwyddiadau niwclear. Does dim eithriadau, hyd y gwelaf i, dim carve-outs, fel sydd yng nghyd-destun yr Alban, ac, yn nodiadau esboniadol Deddf Cymru 2017, mae’n dweud yn gwbl glir—mae paragraff 99 yn dweud ei bod yn cadw nôl pob mater perthnasol i ynni niwclear ac installations niwclear. Allwch chi felly gadarnhau i ni’r prynhawn yma bod deddfu ar waredu gwastraff ymbelydrol y tu hwnt i gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad yma, sydd, wrth gwrs, i’r gwrthwyneb i’r hyn rŷch chi’n ei honni yn eich dogfen ymgynghorol chi?