1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 15 Mai 2019.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Andrew R.T. Davies.
Diolch, Lywydd. Weinidog, rwy'n deall eich safbwynt ar blastigau fferm a chael gwared ar blastigau fferm. Mae'n benderfyniad masnachol, yn y berthynas rhwng gweithredwyr a busnesau fferm. Ond mae'r rheoliadau sy'n ymwneud â phlastigau fferm a storio plastigau fferm yn amlwg yn reoliadau'r Llywodraeth. A ydych wedi ystyried bod yn hwylusydd i geisio goresgyn rhai o'r rhwystrau yn y system ar hyn o bryd, sy'n amlwg yn golygu bod llawer iawn o blastigau ar ffermydd bellach yn cael eu storio, gan fod y farchnad ar gyfer cael gwared arnynt wedi diflannu, yn y bôn? Fel y dywedais, nid wyf yn disgwyl i chi roi atebion ariannol ar waith, ond mae rôl i'r Llywodraeth yn hyn o beth o ran deall y rheoliadau y maent yn eu gosod ar y diwydiant a cheisio bod yn hwylusydd er mwyn ceisio datrys y broblem fel bod modd dod o hyd i ateb.
Diolch. Rydych yn llygad eich lle—mae'n fater masnachol rhwng y ffermwyr, casglwyr y gwastraff fferm plastig a'r ffatrïoedd sy'n gallu ei ailgylchu ac sy'n gwneud hynny. Yn amlwg, mae gan ffermwyr gyfrifoldeb i sicrhau y ceir gwared ar eu plastig yn gywir.
Credaf fod ffermwyr hefyd yn cydnabod, wrth gwrs, ei bod yn bwysig casglu a thrin y gwastraff, a bod yn rhaid i bob busnes arall dalu am eu hailgylchu yma yng Nghymru. Wedi dweud hynny, mae swyddogion wedi bod yn trafod gydag Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig. Nid oedd Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, yn benodol, wedi cynnwys plastig ystwyth ffermydd ar y rhestr o ddarpar gynhyrchion ar gyfer cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr. Roeddem o'r farn fod hynny'n rhywbeth y dylid ei gynnwys, o bosibl, mewn cynllun ar gyfer y DU gyfan, ac rwyf wedi gofyn i swyddogion barhau i edrych ar hynny. Ni allaf warantu y bydd Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig yn gwneud hynny, ond credaf ei fod yn rhywbeth y gallem wneud rhywfaint o gynnydd arno, o bosibl.
Gallem ystyried cyflwyno cynllun cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr ein hunain. Felly, unwaith eto, rwyf wedi gofyn i swyddogion edrych ar yr opsiynau ar gyfer hynny.
Yn amlwg, rwy'n credu y byddai unrhyw gymorth y gall y Llywodraeth ei roi i fod yn hwylusydd i ddatrys y broblem yn cael ei groesawu'n fawr, fel y dywedais, o ystyried faint o blastigau fferm a ddefnyddir, ac yn y pen draw, wrth newid i senario ymhen blynyddoedd i ddod pan na fydd plastigau'n cael eu defnyddio a bydd dewisiadau eraill ar gael.
Ond hoffwn eich holi ynglŷn â'r ystadegau a roesoch i mi yn y sesiwn gwestiynau ddiwethaf a gawsom ar lygredd ffermydd. Buoch yn ddigon caredig i gywiro'r cofnod, oherwydd, ar y pryd, fe nodoch chi gynnydd o 200 y cant yn yr achosion er mai cynnydd o ychydig llai na 200 o achosion a gafwyd mewn gwirionedd. Os edrychwch yn ôl dros yr 20 mlynedd o ffigurau a ddarparwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru, maent yn dangos yn glir fod y paramedrau, mewn blwyddyn dda, oddeutu 100 o achosion, ac mewn blwyddyn wael, o dan 200—194 yw'r uchaf, a gyrhaeddwyd yn 2012-13, rwy'n credu. O ystyried bod y paramedrau hyn wedi bod yn gymharol gyson dros yr 20 mlynedd diwethaf, a ydych yn credu ei bod yn iawn eich bod wedi cyflwyno mesurau mor llym yn hytrach na gwrando, yn amlwg, ar eich gweithgor eich hun, a sefydlwyd gennych, ac a luniodd y ddogfen hon i chi ei hystyried gyda chefnogaeth draws-sector i'r argymhellion a gyflwynwyd? Ac yn sicr, mae'r argymhellion yn yr adroddiad hwn yn cynnig glasbrint ar gyfer y dyfodol i'r diwydiant amaethyddol, o ystyried y dystiolaeth a gasglwyd gan y grŵp hwn.
Diolch. Lywydd, ysgrifennais atoch hefyd a rhoddais gopi o'r llythyr hwnnw yn y llyfrgell er mwyn i'r Aelodau allu ei weld.
Ni chredaf fod hyn yn llym. Rwyf wedi clywed y gair hwnnw'n cael ei ddefnyddio. Rydym wedi gweld cynnydd yn nifer y digwyddiadau llygru mawr, ac rwy'n siŵr eich bod wedi eu gweld, ac yn sicr, yn fy nhrafodaethau gydag undebau'r ffermwyr, maent yn derbyn bod hyn yn annerbyniol a bod angen gwneud mwy.
Rwyf wedi cael llawer o ohebiaeth ar y digwyddiadau. Daw'r rheoliadau newydd i rym fis Ionawr. Bydd cyfnodau pontio ar gyfer rhai elfennau. Ond byddwch wedi fy nghlywed yn dweud yn fy ateb i Joyce Watson fy mod yn parhau i weithio gyda'r grŵp y cyfeiriwch ato. Yn amlwg, rwyf wedi cael eu hadroddiad. Mae Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru wedi cyflogi rhywun i edrych ar hyn yn benodol. Rwyf wedi cyfarfod â hi, ac mae swyddogion yn parhau i gael trafodaethau. Ond credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn atal y llygryddion amaethyddol mawr hyn. Rwy'n Weinidog yr amgylchedd hefyd, a chaf lawer o ohebiaeth gan bobl, yn enwedig ar gyflwr afonydd, yn dilyn rhai o'r digwyddiadau mawr hyn.
Credaf y byddai pob un ohonom yn cytuno ein bod am weld achosion o lygredd yn cael eu gwthio i lawr i ddim, gobeithio, ond yn anffodus, gwyddom fod hynny'n amhosibl yn ôl pob tebyg. Ond fel y dywedais, gyda'r amcanestyniad 20 mlynedd, a rennir gan Cyfoeth Naturiol Cymru, ni chafwyd y cynnydd enfawr hwn, ac mewn gwirionedd, mae'n cyd-fynd ag achosion o lygredd dros yr 20 mlynedd hynny. Fel y dywedais, sefydlwyd y gweithgor gennych, a chynhyrchwyd glasbrint ganddynt, a oedd yn cynnwys argymhellion. Fe ddewisoch chi beidio â derbyn yr argymhellion hynny a dewis ymagwedd or-ofalus, a allai, yn y bôn, amharu ar fusnesau mewn cymunedau agored i niwed ledled Cymru gan fod y rheoliadau hynny mor llym.
Buaswn yn falch o ddeall—rwy'n siŵr y byddai llawer yn falch o ddeall—pam na dderbynioch chi yr argymhellion yn yr adroddiad hwn a luniwyd gan bawb a chanddynt fuddiant yn hyn o beth, ac fel y dywedais, roedd yn lasbrint er mwyn rhoi'r rheoliadau hyn ar waith, sy'n rhywbeth roedd pawb wedi ymrwymo i'w wneud, er mwyn lleihau llygredd amaethyddol ledled Cymru.
Wel, pan ddeuthum i'r swydd gyntaf, dair blynedd yn ôl, roeddwn yn awyddus iawn i gael ymagwedd wirfoddol. Bûm yn gweithio gydag undebau'r ffermwyr, gyda rhanddeiliaid eraill, er mwyn gwneud hynny, ond gwelsom gynnydd mewn llygredd amaethyddol. Ac rydym yn dal i weld—[Torri ar draws.] Na, rydym yn dal i weld nifer sylweddol o ddigwyddiadau llygru mawr. Cawsom un—credaf mai'r wythnos cyn yr wythnos diwethaf neu'r wythnos cyn hynny—lle roedd y storfa slyri gyfan, yn anffodus, yn llygru'r tir a'r dŵr. Felly, credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn mynd i'r afael â hyn, yn enwedig yng ngoleuni Brexit. Bydd yn niweidio ein brand gwerth cynaliadwy os nad awn i'r afael â hyn ar unwaith.
Llefarydd Plaid Cymru, Llyr Gruffydd.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Weinidog, dwi eisiau cyfeirio, os caf i i gychwyn, at ddogfen ymgynghori'ch Llywodraeth chi ar waredu gwastraff ymbelydrol yn ddaearegol. Nawr, mi ddyfynnaf i o’r ddogfen ymgynghorol honno. Mae’n dweud:
‘Mae gwaredu gwastraff ymbelydrol yn fater sydd wedi’i ddatganoli. Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am bennu'r polisi' ar gyfer gwaredu gwastraff ymbelydrol yng Nghymru. Ond, wrth edrych ar baragraff 99 o Schedule 7B o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, mae hwnnw’n dweud bod pwerau dros ynni niwclear ac installations niwclear wedi’u cadw nôl. Mae’r neilltuad yna’n cynnwys diogelwch niwclear ac atebolrwydd am ddigwyddiadau niwclear. Does dim eithriadau, hyd y gwelaf i, dim carve-outs, fel sydd yng nghyd-destun yr Alban, ac, yn nodiadau esboniadol Deddf Cymru 2017, mae’n dweud yn gwbl glir—mae paragraff 99 yn dweud ei bod yn cadw nôl pob mater perthnasol i ynni niwclear ac installations niwclear. Allwch chi felly gadarnhau i ni’r prynhawn yma bod deddfu ar waredu gwastraff ymbelydrol y tu hwnt i gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad yma, sydd, wrth gwrs, i’r gwrthwyneb i’r hyn rŷch chi’n ei honni yn eich dogfen ymgynghorol chi?
Nid yw gwaredu gwastraff ymbelydrol, sef yr hyn y cyfeiriwch ato, rwy'n credu, yr un fath â gwastraff niwclear. Crëwyd y gwastraff ymbelydrol actifedd uwch yng Nghymru, a dyna pam fod Llywodraeth Cymru wedi cytuno i gymryd rhan yn rhaglen Llywodraeth y DU i gael gwared arno.
Wel, mae'n bosib y gallwch chi esbonio i ni, felly, beth yw rôl Llywodraeth Cymru yn y gwaith o edrych ar le mae’r gwastraff niwclear arfaethedig, sydd wedi bod yn y newyddion yn ddiweddar, yn mynd. Oherwydd, mae’n glir i ni nad yw hwnnw wedi’i ddatganoli. Yn wir, mae paragraff 3(2)(4) o Atodlen 23 i Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016 yn dweud, ac mi ddyfynnaf i yn Saesneg:
Os yw'r Ysgrifennydd Gwladol—
ar lefel Deyrnas Unedig—
o dan yr argraff nad oes cyfleusterau digonol ar gael ar gyfer gwaredu neu gronni gwastraff ymbelydrol yn ddiogel, gall yr Ysgrifennydd Gwladol—
(a) ddarparu'r cyfryw gyfleusterau, neu
(b) wneud trefniadau iddynt gael eu darparu gan bwy bynnag y barna'r Ysgrifennydd Gwladol eu bod yn gymwys i wneud hynny.
Mi ofynnaf i eto, felly: oes gan Lywodraeth Cymru ddigon o bwerau gweithredol i allu rhoi veto ar unrhyw safle sy'n cael ei hadnabod ar gyfer wastraff niwclear—gwastraff ymbelydrol, er mwyn gwneud y gwahaniaeth yr oeddech chi'n ei wneud yn eich ateb blaenorol? Oherwydd, eto, mae'n ymddangos i fi bod gan yr Ysgrifennydd Gwladol y penderfyniad terfynol.
Fe ddywedasom yn glir iawn fel Llywodraeth—ac yn sicr, dywedodd Llywodraeth y DU hefyd—nad oeddem wedi nodi unrhyw safleoedd, nad oedd Llywodraeth y DU wedi nodi unrhyw safleoedd. Mater i gymuned oedd penderfynu a oeddent am fod yn safle. Felly, mae'r gwaith a wnaed, y cyfarfodydd ymgynghori—wel, fe'u cynhaliwyd ar weminar, fel y gwyddoch, un yn ne Cymru ac un yng ngogledd Cymru—fel y gallai'r cymunedau gynnig eu hunain pe baent yn awyddus i wneud hynny. Nid yw hyn yn rhywbeth y gall Llywodraeth Cymru na Llywodraeth y DU roi feto arno; mae'n benderfyniad i'r cymunedau eu hunain. Ac nid oedd gennym farn ynglŷn ag a ddylid cael unrhyw safle yma yng Nghymru; mater i'r gymuned oedd bod yn barod i'w croesawu a chymryd rhan yn y trafodaethau hynny wrth symud ymlaen. Felly, nid yw'n rhywbeth y gall unrhyw un—y naill Lywodraeth na'r llall—roi feto arno.
Wel, dwi ddim cweit yn deall y pwynt rŷch chi'n trio'i wneud, oherwydd, ar ddiwedd y dydd, penderfyniad y Llywodraeth yw e. Rwy'n deall y ffaith eich bod chi am barchu dymuniadau cymunedau, ac fe fyddwn i'n cytuno â chi yn hynny o beth, ond mae'r rheoliadau trwyddedu amgylcheddol dwi wedi cyfeirio atyn nhw'n ei gwneud hi'n gwbl glir, ac mi ddarllenaf i eto:
Os yw'r Ysgrifennydd Gwladol o dan yr argraff nad oes cyfleusterau digonol ar gael—
hynny yw, dyw cymuned ddim eisiau cael y cyfrifoldeb am hwn—
gall yr Ysgrifennydd Gwladol—
(a) ddarparu'r cyfryw gyfleusterau—
veto, a dweud ei fod yn mynd i ddigwydd, doed a ddelo—
neu
(b) wneud trefniadau iddynt gael eu darparu gan bwy bynnag y barna'r Ysgrifennydd Gwladol eu bod yn gymwys i wneud hynny.
Mae'n ymddangos i fi, Gweinidog, fod yna ddryswych fan hyn. Mi ddylen ni fod lawer cliriach—yn sicr, mi ddylai Lywodraeth Cymru fod lawer cliriach—ynglŷn â ble mae'r cyfrifoldeb yn eistedd, a dyw taflu'r peth nôl a dweud, 'Wel, dyw e ddim lan i ni, mae lan i'r gymuned'—mae'r egwyddor yn iawn, ond, ar ddiwedd y dydd, chi yw'r Gweinidog, chi yw'r Llywodraeth a chi ddylai fod yn gwneud yr achos dros bobl Cymru.
Felly, cytunaf yn llwyr ei bod yn iawn ein bod yn rheoli'r gwastraff yn awr. Ni chredaf y dylem ei adael ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Yn sicr, pan ddeuthum i'r portffolio hwn, ac roedd hwn yn gwestiwn a oedd yn cael ei ofyn, a byddai'r ymgynghoriadau hyn yn mynd rhagddynt wrth symud ymlaen, roeddwn yn teimlo ei bod yn gwbl iawn ein bod yn mynd i'r afael â hyn yn awr, er mai ymhen 20 mlynedd y byddai hyn yn digwydd yn ôl pob tebyg, yn hytrach na'i adael ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, fel y nodais yn fy atebion cynharach i'ch cwestiynau, mater i gymuned a fyddai'n barod i'w groesawu fyddai hyn, nid yn rhywbeth i Lywodraethau—y naill Lywodraeth na'r llall; Llywodraeth y DU neu Lywodraeth Cymru—ei orfodi arnynt. Rwy'n fwy na pharod i ysgrifennu at yr Aelod os nad yw hynny'n ddigon o eglurhad i'w gwestiynau, ond yn sicr, ni ellir adeiladu cyfleuster gwaredu daearegol yng Nghymru oni bai fod y gymuned yn barod i'w dderbyn.FootnoteLink