Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 15 Mai 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 1:44, 15 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

Wel, pan ddeuthum i'r swydd gyntaf, dair blynedd yn ôl, roeddwn yn awyddus iawn i gael ymagwedd wirfoddol. Bûm yn gweithio gydag undebau'r ffermwyr, gyda rhanddeiliaid eraill, er mwyn gwneud hynny, ond gwelsom gynnydd mewn llygredd amaethyddol. Ac rydym yn dal i weld—[Torri ar draws.] Na, rydym yn dal i weld nifer sylweddol o ddigwyddiadau llygru mawr. Cawsom un—credaf mai'r wythnos cyn yr wythnos diwethaf neu'r wythnos cyn hynny—lle roedd y storfa slyri gyfan, yn anffodus, yn llygru'r tir a'r dŵr. Felly, credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn mynd i'r afael â hyn, yn enwedig yng ngoleuni Brexit. Bydd yn niweidio ein brand gwerth cynaliadwy os nad awn i'r afael â hyn ar unwaith.