Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 15 Mai 2019.
Diolch. Fel y dywedais, credaf fod yr adroddiad yn sobreiddiol iawn ac yn achos cryn bryder, ond roeddwn yn falch ei fod yn cydnabod nad yw'n rhy hwyr i wrthdroi'r duedd a welsom. Nid cyfrifoldeb y Llywodraeth yn unig yw hyn, mae'n gyfrifoldeb i bawb, ac i ddychwelyd at sylwadau Leanne Wood ynghylch yr argyfwng newid hinsawdd, credaf fod hynny'n ymwneud ag ysgogi nid yn unig Llywodraethau ond unigolion a busnesau a chymunedau i weithredu ac i sylweddoli bod hwn yn argyfwng gwirioneddol ac nad oes llawer o amser gennym i wrthdroi'r hyn sy'n digwydd.
Yr hyn rydym yn ei wneud yw prif ffrydio bioamrywiaeth i'n holl benderfyniadau. Felly, pan fyddaf yn ystyried polisïau morol, er enghraifft, mae angen i mi sicrhau ein bod yn cefnogi'r ecosystem a fydd yn sicrhau na fydd eich rhywogaeth yn dirywio ymhellach.