Dirywiad Mewn Rhywogaethau

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 15 Mai 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 1:56, 15 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

Mae'r ecosystem yn cael ei chynnal drwy gydbwysedd, ond bydd colli ysglyfaethwyr ar frig y gadwyn fwyd yn arwain at gynnydd mewn rhai rhywogaethau, gan achosi niwed pellach i'r ecosystem. Rydym ynghanol y cyfnod mwyaf o rywogaethau'n cael eu colli ers 60 miliwn o flynyddoedd. Mae dinistrio cynefinoedd, ecsbloetio a newid yn yr hinsawdd yn mynd i arwain at golli dros hanner poblogaeth anifeiliaid gwyllt y byd. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddiogelu cynefin naturiol Cymru? Yn fwyaf arbennig, beth a wnewch chi i atal pobl rhag cymryd camau sy'n atal adar rhag nythu? Nid wyf yn hyrwyddwr rhywogaeth ar ran unrhyw aderyn.