Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 15 Mai 2019.
Diolch. Yn amlwg, rwy'n ymwybodol iawn o'r wybodaeth a gyhoeddwyd. Credaf fod galwad wedi bod—. Ers inni gynnal ymgynghoriad ar 'Brexit a'n tir' y llynedd—yr ymgynghoriad cyntaf—yn sicr, cafwyd galwad i gael elfen ar gyfer anwadalrwydd. Credaf fod hyn hefyd yn dangos nad yw cynllun y taliad sylfaenol wedi darparu'r glustog honno yr hoffai ffermwyr ei gweld. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol y byddaf yn gwneud datganiad llafar yn fuan iawn ynglŷn â'r ymgynghoriad cyntaf ar 'Brexit a'n tir', ac rwyf wedi ymrwymo i gychwyn ail ymgynghoriad cyn Sioe Frenhinol Cymru. Felly, yn amlwg, mae'r rhain oll yn bethau y gellir eu hystyried yn yr ymgynghoriad hwnnw.