Colledion Mewn Bioamrywiaeth

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 15 Mai 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour 2:00, 15 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

Yn wir. A gaf fi ofyn, felly, ar ôl yr awgrymiadau defnyddiol hynny—? Diolch, Lywydd. Mae'n ddrwg gennyf. Rwyf wedi profi eich amynedd. A gaf fi ofyn, felly: gyda'i chyd-aelodau o'r Cabinet, a wnaiff hi ystyried camau radical a allai gynnwys defnyddio ein pwerau amrywio trethi yng Nghymru i ystyried gwahardd, trethu neu osod ardollau amgylcheddol hyd yn oed ar bethau sy'n amgylcheddol wael er mwyn ariannu pethau amgylcheddol dda?