1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru ar 15 Mai 2019.
4. Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i atal a gwrthdroi colledion mewn bioamrywiaeth? OAQ53864
10. A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hyrwyddo bioamrywiaeth? OAQ53839
Diolch. Lywydd, deallaf eich bod wedi rhoi caniatâd i gwestiynau 4 a 10 gael eu grwpio.
Mae angen newid trawsnewidiol er mwyn atal a gwrthdroi bioamrywiaeth yng Nghymru, ac mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol o fod yn gatalydd. Mae'n rhaid i ni ganolbwyntio bellach ar adeiladu ar y camau gweithredu sydd eisoes ar waith. Byddwn yn adeiladu ar y camau rydym yn eu cymryd drwy bolisïau newydd pwysig, gan gynnwys cynllun morol Cymru, cynllun gweithredu adfer natur wedi'i ddiweddaru, coedwig genedlaethol i Gymru, a system newydd o gymorth i ffermio ar ôl Brexit.
Rwy'n croesawu eich ymateb. Fel cynifer o bobl eraill, rwy'n hyrwyddwr rhywogaeth. Fi yw hyrwyddwr rhywogaeth y gornchwiglen yma yn y Cynulliad, a gwyddom ein bod wedi mynd o 7,500 o barau nythu yng Nghymru yn y 1980au i lai na 700 yn awr, er gwaethaf gwaith da gan bobl fel yr Ymddiriedolaethau Natur ac eraill. Mae adroddiad IPBES yn dangos maint yr her, ac rydym yn wynebu—. Pa ffordd bynnag yr edrychwch ar hyn, mae'n argyfwng, mae'n fater o frys, ac nid yw'n un newydd. Mae'n un rydym wedi'i wynebu dro ar ôl tro drwy Lywodraethau olynol hefyd, ar lefel y DU a Chymru.
Un apêl y buaswn yn ei gwneud i'r Gweinidog wrth geisio ei hysgogi a cheisio rhoi cymorth iddi o ran trafodaethau â chyd-aelodau o'r Cabinet yw y dylem geisio ymdrin â newid hinsawdd a bioamrywiaeth gyda'i gilydd. Er bod iddynt elfennau ar wahân, ceir llawer iawn o orgyffwrdd, ac yn rhy aml yn y Llywodraeth rydym wedi canolbwyntio ar y naill neu'r llall o bryd i'w gilydd. Mae angen gwneud y ddau beth gyda'i gilydd.
Yn ail, a chan gydnabod y gwaith da y mae'r Llywodraeth yn ei wneud eisoes, o ran y modd y bydd angen i ni gynyddu ein hymdrechion, a chan gydnabod bod gennym Weinidog blaengar yma o'n blaenau, a gaf fi awgrymu—a gaf fi wneud rhai awgrymiadau? A bydd y Prif Weinidog yn gwrando gobeithio, felly rwy'n ychwanegu at ei chryfder yma o amgylch bwrdd y Cabinet. Bydd angen i ni edrych ar yr adnoddau yn y dyfodol a chynyddu'r adnoddau tuag at ariannu'r gwaith o atal a gwrthdroi colli bioamrywiaeth a cholli natur. Bydd angen i ni ymrwymo'n gyfan gwbl i ddweud y byddwn yn adfer, yn gwella, yn cysylltu ein holl gynefinoedd pwysig, a buddsoddi'n weithredol mewn adfer rhywogaethau. Efallai y bydd angen i ni ystyried targedau cyfreithiol ar gyfer adfer natur. Bydd angen i ni ystyried cynyddu newidiadau sylweddol o ran systemau bwyd sy'n seiliedig ar fioamrywiaeth gynaliadwy yng Nghymru, a phopeth a ddaw yn sgil hynny, a defnyddio atebion sy'n seiliedig ar natur mewn ffordd real ac ystyrlon, fel yr amlygwyd yn adroddiad IPBES.
Mae angen i chi ofyn cwestiwn.
Yn wir. A gaf fi ofyn, felly, ar ôl yr awgrymiadau defnyddiol hynny—? Diolch, Lywydd. Mae'n ddrwg gennyf. Rwyf wedi profi eich amynedd. A gaf fi ofyn, felly: gyda'i chyd-aelodau o'r Cabinet, a wnaiff hi ystyried camau radical a allai gynnwys defnyddio ein pwerau amrywio trethi yng Nghymru i ystyried gwahardd, trethu neu osod ardollau amgylcheddol hyd yn oed ar bethau sy'n amgylcheddol wael er mwyn ariannu pethau amgylcheddol dda?
Diolch, Huw Irranca-Davies, am eich sylwadau defnyddiol, ac yn sicr, am eich cymorth gyda fy nghyd-Weinidogion. Yn sicr, ni chredaf fod angen unrhyw gymorth arnaf gyda'r Prif Weinidog. Fel y dywedais yn fy ateb i Leanne Wood, mae'r Prif Weinidog, o'r dydd y daeth i'r swydd, wedi dweud yn glir iawn fod y newid yn yr hinsawdd a bioamrywiaeth—a chredaf eich bod yn llygad eich lle, mae'r ddau beth yn rhedeg ochr yn ochr—yn un o'i brif flaenoriaethau. Yn sicr, wrth inni fynd drwy broses y gyllideb, mae bioamrywiaeth yn thema a fydd yn cael ei hystyried yn ofalus iawn gan bob cyd-Aelod sy'n llunio cytundebau cyllidebol a pholisïau ar gyfer y dyfodol.
Byddwch wedi fy nghlywed yn dweud bod yr adroddiad yn peri cryn bryder, ond fel y dywedais, roedd elfen gadarnhaol iddo, yn yr ystyr nad yw'n rhy hwyr i wneud hynny. Rydych yn gwneud dau awgrym defnyddiol iawn. Yr un am dargedau cyfreithiol: rwy'n cofio pan oedd Deddf yr amgylchedd yn mynd drwy'r lle hwn oddeutu pedair neu bum mlynedd yn ôl, a buom yn ystyried a fyddai cyflwyno targedau bioamrywiaeth i'r Bil hwnnw'n ffordd effeithiol o wella bioamrywiaeth yng Nghymru. Ond credaf ein bod wedi penderfynu na fyddai'n gwneud hynny—mewn gwirionedd, gwelsom y gallai arwain at ganlyniadau niweidiol. Felly, nid dyna oedd y ffordd ymlaen.
O ran defnyddio ein pwerau codi trethi newydd, unwaith eto, gallaf roi ystyriaeth lawn i hynny, gyda fy nghyd-Aelod, y Gweinidog Cyllid, i weld a fyddai'n rhoi cyfle inni. Mae cynllun y dreth gwarediadau tirlenwi gennym eisoes, fel y gŵyr yr Aelod, ac rydym wedi gweld arian sylweddol yn mynd tuag at y cynlluniau hynny i helpu yn y ffordd honno.
Diolch, Weinidog. Roeddwn innau, hefyd, yn awyddus i ofyn cwestiwn am adroddiad IPBES, a nodaf eich atebion cynharach. Credaf fod y ffaith bod cynifer ohonom wedi gofyn cwestiynau ynglŷn â bioamrywiaeth heddiw yn dangos pa mor bwysig yw'r pwnc i bob un ohonom. Felly, hoffwn ofyn i chi sut y bwriadwch gadw a gwella amddiffyniadau amgylcheddol sy'n deillio o'r UE. Gwn fod yr RSPB wedi crybwyll creu corff gwarchod annibynnol, cryf i dderbyn a gweithredu ar gwynion dinasyddion, a'r angen i warantu bod ein cyfreithiau mor gryf, neu'n gryfach na phe baem yn aelod o'r UE. Felly, beth yw eich barn ar hyn?
Diolch am eich cwestiwn. Yn sicr, rwyf wedi dweud yn glir iawn nad ydym am weld unrhyw leihad yn yr amddiffyniadau amgylcheddol a gawsom yn yr UE. Os rhywbeth, rydym am eu gwella. Bydd yr Aelod yn ymwybodol ein bod wrthi'n ymgynghori ar lywodraethiant ac egwyddorion ar hyn o bryd. Daw'r ymgynghoriad hwnnw i ben ar 9 Mehefin. Buaswn yn annog pawb i gyflwyno eu hymatebion. Yn sicr, rwy'n gweithio gyda rhanddeiliaid ac yn gofyn am eu barn a'u cyngor mewn perthynas â materion ôl-Brexit.
Fe fyddwch yn gwybod am fy nghyfarfodydd gweinidogol o amgylch y bwrdd, ac mae'r RSPB yn aelod o'r cyfarfodydd hynny. Maent yn sicr wedi crybwyll y gallem edrych ar gorff gwarchod cryf, annibynnol. Yn amlwg, mae sefydliadau i'w cael ar hyn o bryd a allai edrych ar hynny, ond rydym am sicrhau na cheir bwlch yn sgil gadael yr UE. Felly, pan fyddwn wedi cael yr ymatebion i'r ymgynghoriad, ac wedi cael cyfle i'w hystyried, bydd modd inni ddweud wedyn a ydym yn credu mai dyna'r ffordd ymlaen mewn gwirionedd. Ond yn sicr, mae'n rhaid sicrhau bod rhywle y gall dinasyddion fynd, ar ôl Brexit, os na allant fynd i'r llys Ewropeaidd fel y gallant wneud ar hyn o bryd.
Weinidog, y wiwer goch yw'r rhywogaeth rwy'n ei hyrwyddo, ac rwy'n ffodus iawn fod yna boblogaeth dda o wiwerod coch yng nghoedwig Clocaenog yn fy etholaeth, ac yn wir, canolfan fridio yn Sw Mynydd Cymru ym Mae Colwyn. Ond mae poblogaeth y wiwer goch wedi gostwng i oddeutu 1,500 o wiwerod coch ledled Cymru ar hyn o bryd. Mae'r rhan fwyaf ohonynt ar Ynys Môn. Cefais y fraint o ymweld â'r prosiectau ar Ynys Môn ac yng Nghlocaenog, a gwn mai un o'r heriau y mae'r prosiectau'n eu hwynebu yw parhad cyllid o un prosiect i'r llall. Felly, tybed pa gamau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd er mwyn sicrhau dull mwy cynaliadwy o ariannu gweithgarwch craidd sefydliadau fel Ymddiriedolaeth Wiwerod Coch Clocaenog ac Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Cymru, sydd wedi gwneud gwaith pwysig iawn yn amddiffyn y rhywogaeth eiconig hon yng Nghymru.
Diolch. Rwy'n falch iawn, Lywydd, fy mod wedi dod â fy rhestr o hyrwyddwyr rhywogaethau ar gyfer Aelodau'r Cynulliad y prynhawn yma. Rwy'n amlwg yn ymwybodol iawn o boblogaeth y wiwer goch yn y goedwig y cyfeiria'r Aelod ati. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio'n agos iawn gydag Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Cymru drwy eu prosiect Red Squirrels United, ac mae hynny wedi golygu bod nifer sylweddol o wirfoddolwyr wedi ymrwymo i sefydlu Ymddiriedolaeth Wiwerod Coch Clocaenog. Yn amlwg, mae cyllid yn fater y mae'n rhaid i mi ei ystyried fesul achos. Rwyf am sicrhau bod cymaint â phosibl o brosiectau o'r fath yn gynaliadwy, felly byddwn yn edrych ar hynny yn y rownd nesaf o grantiau rheoli cynaliadwy.