Dirywiad Mewn Rhywogaethau

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 15 Mai 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 1:57, 15 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch. Mae gennym ein polisi adnoddau naturiol, ac yn amlwg, mae hwnnw'n nodi ein blaenoriaethau i'n galluogi i wrthdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth a sicrhau ecosystemau mwy gwydn. Soniais yn fy ateb i Joyce Watson ein bod yn adnewyddu'r cynllun gweithredu adfer natur, gan y bydd hwnnw'n rhoi inni'r camau a'r mecanweithiau allweddol y bydd angen i ni eu rhoi ar waith er mwyn wneud y gwahaniaeth real hwnnw.

Mae rhwydo yn fater sydd wedi cyrraedd fy nesg droeon dros yr wythnosau diwethaf, a chredaf ei bod yn bwysig iawn fod datblygwyr yn deall mai yn gynnil iawn ac mewn amgylchiadau penodol iawn y dylid defnyddio'r polisi hwnnw, a byddaf yn ysgrifennu at awdurdodau lleol i'w hatgoffa o hynny.