Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 15 Mai 2019.
Diolch, Lywydd. Weinidog, rwy'n deall eich safbwynt ar blastigau fferm a chael gwared ar blastigau fferm. Mae'n benderfyniad masnachol, yn y berthynas rhwng gweithredwyr a busnesau fferm. Ond mae'r rheoliadau sy'n ymwneud â phlastigau fferm a storio plastigau fferm yn amlwg yn reoliadau'r Llywodraeth. A ydych wedi ystyried bod yn hwylusydd i geisio goresgyn rhai o'r rhwystrau yn y system ar hyn o bryd, sy'n amlwg yn golygu bod llawer iawn o blastigau ar ffermydd bellach yn cael eu storio, gan fod y farchnad ar gyfer cael gwared arnynt wedi diflannu, yn y bôn? Fel y dywedais, nid wyf yn disgwyl i chi roi atebion ariannol ar waith, ond mae rôl i'r Llywodraeth yn hyn o beth o ran deall y rheoliadau y maent yn eu gosod ar y diwydiant a cheisio bod yn hwylusydd er mwyn ceisio datrys y broblem fel bod modd dod o hyd i ateb.