Colledion Mewn Bioamrywiaeth

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 15 Mai 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vikki Howells Vikki Howells Labour 2:02, 15 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch, Weinidog. Roeddwn innau, hefyd, yn awyddus i ofyn cwestiwn am adroddiad IPBES, a nodaf eich atebion cynharach. Credaf fod y ffaith bod cynifer ohonom wedi gofyn cwestiynau ynglŷn â bioamrywiaeth heddiw yn dangos pa mor bwysig yw'r pwnc i bob un ohonom. Felly, hoffwn ofyn i chi sut y bwriadwch gadw a gwella amddiffyniadau amgylcheddol sy'n deillio o'r UE. Gwn fod yr RSPB wedi crybwyll creu corff gwarchod annibynnol, cryf i dderbyn a gweithredu ar gwynion dinasyddion, a'r angen i warantu bod ein cyfreithiau mor gryf, neu'n gryfach na phe baem yn aelod o'r UE. Felly, beth yw eich barn ar hyn?