Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 15 Mai 2019.
Diolch. Credaf eich bod yn gwneud pwynt pwysig iawn am ein coedwigoedd ac fe fyddwch yn gwybod mai un o ymrwymiadau maniffesto'r Prif Weinidog oedd cyflwyno coedwig genedlaethol. Ar hyn o bryd, bydd ef a minnau yn ystyried opsiynau o ran sut i roi hynny ar waith. Yn amlwg, rwy'n adnabod coedwig Llandegla yn dda iawn, rwy'n byw nid nepell ohoni, ac yn sicr mae'r arian ychwanegol y mae'n ei ddarparu i'r economi, er enghraifft, gyda'r ganolfan feicio mynydd a chyfleusterau eraill, i'w groesawu. Yn sicr, credaf y gallaf barhau i weithio gyda fy nghyd-Aelod, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, i weld beth arall y gallwn ei wneud i wella hynny.