Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 15 Mai 2019.
Un o'r cyfleoedd enfawr y mae ein hadnoddau naturiol yn eu rhoi i ni yw'r cyfleoedd hamdden sy'n gysylltiedig â'r cynlluniau uchelgeisiol i wella twristiaeth yma yng Nghymru. Credaf fod coedwigoedd yn un rhan o'n hadnoddau naturiol na wneir digon o ddefnydd ohonynt at ddibenion twristiaeth a hamdden. Rydym yn ffodus iawn yng ngogledd Cymru, yng nghoedwig Llandegla ac yng nghoedwig Clocaenog, i allu mwynhau cyfleoedd beicio mynydd gwych, sy'n tyfu o ran poblogrwydd. Pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi'r sefydliadau bach hyn, a bach iawn yn aml, sy'n ceisio darparu cyfleoedd pellach ar gyfer beicio mynydd yn enwedig mewn coedwigoedd yng Nghymru a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru?