Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:48 pm ar 15 Mai 2019.
Fe ddywedasom yn glir iawn fel Llywodraeth—ac yn sicr, dywedodd Llywodraeth y DU hefyd—nad oeddem wedi nodi unrhyw safleoedd, nad oedd Llywodraeth y DU wedi nodi unrhyw safleoedd. Mater i gymuned oedd penderfynu a oeddent am fod yn safle. Felly, mae'r gwaith a wnaed, y cyfarfodydd ymgynghori—wel, fe'u cynhaliwyd ar weminar, fel y gwyddoch, un yn ne Cymru ac un yng ngogledd Cymru—fel y gallai'r cymunedau gynnig eu hunain pe baent yn awyddus i wneud hynny. Nid yw hyn yn rhywbeth y gall Llywodraeth Cymru na Llywodraeth y DU roi feto arno; mae'n benderfyniad i'r cymunedau eu hunain. Ac nid oedd gennym farn ynglŷn ag a ddylid cael unrhyw safle yma yng Nghymru; mater i'r gymuned oedd bod yn barod i'w croesawu a chymryd rhan yn y trafodaethau hynny wrth symud ymlaen. Felly, nid yw'n rhywbeth y gall unrhyw un—y naill Lywodraeth na'r llall—roi feto arno.