Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 15 Mai 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 1:49, 15 Mai 2019

Mae'n ymddangos i fi, Gweinidog, fod yna ddryswych fan hyn. Mi ddylen ni fod lawer cliriach—yn sicr, mi ddylai Lywodraeth Cymru fod lawer cliriach—ynglŷn â ble mae'r cyfrifoldeb yn eistedd, a dyw taflu'r peth nôl a dweud, 'Wel, dyw e ddim lan i ni, mae lan i'r gymuned'—mae'r egwyddor yn iawn, ond, ar ddiwedd y dydd, chi yw'r Gweinidog, chi yw'r Llywodraeth a chi ddylai fod yn gwneud yr achos dros bobl Cymru.