1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru ar 15 Mai 2019.
5. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd? OAQ53862
Mae 'Ffyniant i Bawb: Cymru Carbon Isel' yn nodi 100 o bolisïau ac argymhellion i gyflawni ein cyllideb garbon gyfredol a nodi trywydd datgarboneiddio i Gymru ar gyfer y tymor hwy. Ers hynny, daethom yn senedd gyntaf y byd i bleidleisio o blaid y datganiad argyfwng newid hinsawdd.
Diolch, Weinidog. Un peth yw datgan argyfwng newid hinsawdd, ond fel y byddech yn cyfaddef rwy'n siŵr, mae'n anos rhoi'r camau anodd ar waith i fynd i'r afael â hynny. Fel y'i disgrifiwyd gan Al Gore, cyn Is-arlywydd America, mae'n wirionedd anghyfleus y mae'n rhaid i bob un ohonom ei wynebu. Mae hyrwyddo ceir trydan a phwyntiau gwefru, fel y bu Rhun ap Iorwerth yn ei wneud y tu allan i'r Senedd heddiw, yn amlwg yn un ffordd ymlaen i geisio mynd i'r afael â phethau ar lawr gwlad. Mae gwaith radical yn mynd rhagddo hefyd ar wella'r hinsawdd ym mhrifysgol Caergrawnt, sydd wedi bod yn edrych ar ddalfeydd carbon a phethau fel ailgoedwigo. Beth a wnewch chi i hyrwyddo ymchwil tebyg yma yng Nghymru, a sut yr ewch ati i hyrwyddo datblygiad dalfeydd carbon, megis coedwigoedd newydd, yn y dyfodol er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud mwy nag ymdrin â'r problemau sydd gennym ar hyn o bryd, ond yn y dyfodol, efallai y gallwn droi'r cloc yn ôl mewn rhai ffyrdd a cheisio gwella'r hinsawdd, yn hytrach na dim ond ei sefydlogi?
Diolch. Byddwch wedi fy nghlywed yn dweud mewn ateb cynharach mai'r rheswm pam y gwnaethom ddatgan argyfwng hinsawdd oedd i sicrhau ein bod yn ysgogi nid yn unig Llywodraethau ond busnesau, cymunedau ac unigolion i weithredu ar unwaith. Mae'n bwysig iawn ein bod yn gweithredu ar unwaith. Rydych yn awgrymu ychydig o ffyrdd y gallwn wneud hyn, a dychwelaf at y cynllun cyflawni carbon isel. Ceir 100 o bolisïau ac argymhellion sy'n rhaid inni eu rhoi ar waith, rai ohonynt ar gyfer y dyfodol, os ydym am ddatgarboneiddio a chael yr effaith gadarnhaol hon ar newid yn yr hinsawdd.
Soniais am fusnesau. Roeddwn yn falch iawn o gyfarfod â Hafren Dyfrdwy, y bydd yr Aelodau'n gwybod amdanynt—y cwmni dŵr—yr wythnos diwethaf. Dywedasant wrthyf, er enghraifft, eu bod wedi gwneud addewid triphlyg i gyrraedd dim carbon net a chyfradd 100 y cant o gerbydau trydan, gan gyfeirio'n ôl at yr hyn a ddywedoch am gerbydau trydan, a 100 y cant o ynni o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2030. Y math hwnnw o weithredu sydd ei angen arnom er mwyn mynd i'r afael â'r argyfwng newid yn yr hinsawdd. Felly, rwy'n edrych yn ofalus iawn ar yr argymhellion a'r polisïau hynny a gyflwynwyd gan y Prif Weinidog ym mis Mawrth. Soniais am y cyngor a roddwyd i ni gan Bwyllgor y DU ar Newid Hinsawdd, ac mae swyddogion wrthi'n edrych ar y 300 tudalen o gyngor. Maent wedi awgrymu y gallem sicrhau gostyngiad o 95 y cant mewn allyriadau carbon erbyn 2050, felly mae angen i mi ystyried hynny'n ofalus iawn, ac yna byddwn yn gwneud datganiad pellach.
Weinidog, mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi dangos arweinyddiaeth strategol gref a sefydlog ar ran Cymru drwy ddatgan argyfwng hinsawdd, fel y cydnabu Greta Thunberg, yr ymgyrchydd newid hinsawdd. Yn ddiweddar, cafodd Llywodraeth Cymru gyngor gan y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd a oedd yn argymell y gallai ac y dylai allyriadau nwyon tŷ gwydr yng Nghymru ostwng 95 y cant dros y 30 mlynedd nesaf er mwyn gwneud ein cyfraniad uchelgeisiol i'r ymrwymiadau a wnaed yng nghytundeb Paris. Weinidog, rydych hefyd wedi dweud bod Llywodraeth Cymru wedi cytuno i adolygu targed Cymru ar gyfer 2050 ac adrodd yn ôl i'r Cynulliad Cenedlaethol cyn pennu trydedd gyllideb garbon Cymru erbyn diwedd 2020. Felly, pa fentrau strategol pellach y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried er mwyn mynd ati'n rhagweithiol i wrthsefyll yr argyfwng hinsawdd, fel y gall Cymru arwain drwy esiampl, ac amlygu'r bwlch brawychus yn yr arweinyddiaeth gan bobl fel y gwadwr newid hinsawdd Donald Trump, a'r rheini yn y DU sy'n rhannu'r farn wleidyddol honno?
Diolch. Soniais fod swyddogion wrthi'n ystyried y cyngor a gawsom gan Bwyllgor y DU ar Newid Hinsawdd, ond rydym hefyd yn adolygu brys y camau gweithredu yn ein cynllun carbon isel i weld ble y gallwn gymryd camau pellach yn dilyn y datganiad. Rwy'n cadeirio grŵp gorchwyl a gorffen y Gweinidog—sy'n grŵp trawslywodraethol—ac rwyf wedi sicrhau bod edrych ar sut y gallwn fynd i'r afael â hynny yn flaenoriaeth i'r grŵp hwnnw. Rydym yn llwyr gydnabod y brys i fynd i'r afael â newid hinsawdd. Efallai ein bod yn wlad fach, ond rydym yn cymryd ein cyfrifoldeb byd-eang o ddifrif, ac mae angen i ni wneud hynny mewn ffordd sy'n darparu cymaint â phosibl o fanteision ehangach i gymdeithas wrth i ni newid i economi carbon isel.
Rwy'n mynd yn ôl at yr hyn roeddwn yn ei ddweud. Credaf ei bod yn wirioneddol bwysig gwneud y datganiad hwnnw, er mwyn ysgogi eraill i gael y sbardun hwnnw—ton o weithredu gartref ac yn rhyngwladol, i bawb ddod at ei gilydd i gydnabod yr argyfwng sy'n ein hwynebu. Mae Cymru'n rhan o gynghrair Dan2—rydym ar y grŵp llywio mewn gwirionedd—ac rwyf wedi bod yn ffodus iawn i fynychu cynadleddau gyda gwladwriaethau a rhanbarthau eraill i weld y gwaith sy'n mynd rhagddo ym mhob rhan o'r byd. Mae'r gynghrair yn cynnwys oddeutu 220 o lywodraethau o bob cwr o'r byd, ac maent yn cynrychioli dros 1.3 biliwn o bobl a 43 y cant o economi'r byd. Mae'n bwysig ein bod yn dysgu gan wledydd eraill, ond credaf mai dim ond drwy weithredu gartref y gallwn ysgogi gweithredoedd eraill ledled y byd.