Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 15 Mai 2019.
Diolch. Cyhoeddais y polisi adnoddau naturiol ym mis Awst 2017. Hwn oedd ail gynnyrch statudol Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Ffocws y polisi adnoddau naturiol yw rheoli adnoddau naturiol Cymru yn gynaliadwy, er mwyn sicrhau eu bod yn gwneud y cyfraniad mwyaf posibl at gyflawni nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.