Cartrefi Newydd

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 15 Mai 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mohammad Asghar Mohammad Asghar Conservative 2:26, 15 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich ateb, Weinidog. Dywedodd Steve Morgan, sylfaenydd Redrow, yn ddiweddar mai'r ffordd orau o frwydro yn erbyn yr argyfwng tai yw cyflymu caniatâd cynllunio i alluogi mwy o dai i gael eu hadeiladu. Aeth ymlaen i ddweud bod y rheolau a'r cyfarwyddebau wedi tagu'r system, sy'n golygu bod llai o dai yn cael eu hadeiladu, a hynny yn ei dro yn ei gwneud hi'n anodd i brynwyr tro cyntaf gamu ar yr ysgol dai. A yw'r Gweinidog yn cytuno bod y broses gynllunio ar gyfer tai newydd yn rhy araf a'i bod yn cynnwys cryn dipyn o fiwrocratiaeth? Weinidog, pa gamau a gymerwch i gael gwared ar y rhwystrau sy'n peri oedi yn y gwaith o ddarparu cartrefi fforddiadwy newydd yng Nghymru, os gwelwch yn dda?