Y System Gynllunio

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 15 Mai 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 2:19, 15 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

Mae gan gymunedau lais canolog yn y system gynllunio pan gaiff cynlluniau datblygu lleol eu paratoi a phan benderfynir ar geisiadau cynllunio. Anogir awdurdodau cynllunio lleol a datblygwyr i fynd ymhellach na'r gofynion statudol er mwyn gwireddu'r manteision y mae cydweithredu a chyfranogi yn eu cynnig i ansawdd yr amgylchedd adeiledig.