2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru ar 15 Mai 2019.
1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod gan gymunedau lleol lais yn y system gynllunio? OAQ53865
Mae gan gymunedau lais canolog yn y system gynllunio pan gaiff cynlluniau datblygu lleol eu paratoi a phan benderfynir ar geisiadau cynllunio. Anogir awdurdodau cynllunio lleol a datblygwyr i fynd ymhellach na'r gofynion statudol er mwyn gwireddu'r manteision y mae cydweithredu a chyfranogi yn eu cynnig i ansawdd yr amgylchedd adeiledig.
Diolch, Weinidog. Gwn eich bod yn ymwybodol o'r gwrthwynebiad enfawr i'r cynnig i ddechrau cloddio am agregau yn y man hardd poblogaidd a elwir yn 'The Canyons' yn fy etholaeth. Wrth gwrs, rwy'n deall na allwch wneud sylwadau ar apêl gynllunio fyw, ond fel y gwyddoch, roedd preswylwyr yn pryderu'n fawr nad oedd eu lleisiau wedi cael eu clywed yn iawn yn yr ymchwiliad cyhoeddus hirfaith. Rwyf wedi cael cwynion am ddatblygwyr yn cyflwyno dogfennau allweddol yn hwyr, fod datganiadau tir cyffredin wedi cael eu cyflwyno ar y noson cyn yr ymchwiliad, ac na wnaed cofnod gair am air o'r trafodion, i nodi rhai yn unig. Weinidog, a fyddech yn cytuno â mi ei bod yn hanfodol, mewn archwiliadau cynllunio dadleuol, fod llais y gymuned yn cael ei glywed yn iawn? A pha gamau y gallwch eu cymryd fel Gweinidog i sicrhau bod hyn yn digwydd a bod yr holl broses yn dod yn fwy agored a thryloyw?
Ie, rwy'n ddiolchgar iawn am farn eglur yr Aelod ynglŷn â chynnwys cymunedau mewn apeliadau cynllunio, barn a rannodd gyda mi yn y cyfarfod a gawsom. Rwyf wedi mynegi'r pryderon hyn wrth gyfarwyddwr Arolygiaeth Gynllunio Cymru. Gwn fod fy nghyd-Aelod yn ymwybodol iawn fod yr apêl gynllunio gerbron Gweinidogion Cymru i'w phenderfynu ar hyn o bryd, a'i bod yn deall na allaf wneud sylwadau ar unrhyw agwedd ar y mater gan y gallai gwneud hynny niweidio canlyniad y penderfyniad neu arwain at herio'r penderfyniad ei hun.
Weinidog, y llynedd, adroddodd Pwyllgor Llywodraeth Leol a Chymunedau Senedd yr Alban ar Fil Cynllunio (Yr Alban). Roeddent yn galw am i'r Bil annog ymgysylltu mwy ystyrlon ar geisiadau cynllunio. Croesawyd hyn gan y Royal Town Planning Institute Scotland, a ddywedodd eu bod am greu system gynllunio fwy cydweithredol, lle mae cymunedau a phartneriaid eraill yn cael eu cynnwys ar ddechrau'r broses i nodi a chytuno ar beth sydd ei angen. Pa astudiaeth a wnaed gan y Gweinidog o'r cynigion ym Mil Cynllunio (Yr Alban) i weld pa wersi y gellir eu dysgu i wella llais cymunedau yn y broses gynllunio yng Nghymru, os gwelwch yn dda?
Rwy'n ymwybodol iawn o'r broses sy'n mynd rhagddi yn yr Alban. Mae gennym ymgysylltiad tryloyw a chynhwysfawr iawn â chymunedau lleol, busnesau, rhanddeiliaid ac awdurdodau cyfagos ym mhroses y cynllun datblygu lleol eisoes i sicrhau bod pob pryder a dyhead yn cael eu hystyried. Mae gennym hefyd gynllun cynnwys y gymuned, sy'n nodi sut y gall cymunedau lleol gymryd rhan ym mhroses y CDLl. Mae'r ddeddfwriaeth gynllunio yma yng Nghymru eisoes yn dweud bod yn rhaid ystyried barn cymunedau lleol wrth baratoi'r cynllun datblygu lleol.
Fel y gwyddoch, rwy'n siŵr, mae'n rhaid i gynlluniau datblygu lleol gael eu mabwysiadu drwy benderfyniad y cyngor llawn, sy'n sicrhau proses ddemocrataidd, gan ystyried safbwyntiau lleol i'w hymgorffori yn y broses honno o wneud penderfyniadau, a chânt eu mabwysiadu yn dilyn proses graffu gyhoeddus lawn lle gall pob parti â buddiant ddweud eu barn wrth arolygydd annibynnol, ac maent yn gwneud hynny'n aml iawn. Ceir cyfnod herio o chwe wythnos hefyd ar ôl mabwysiadu'r cynllun, sy'n galluogi unrhyw unigolyn i wrthwynebu os ydynt o'r farn nad yw'r gweithdrefnau paratoi cywir wedi'u dilyn.
Fodd bynnag, mae llawer o Aelodau wedi cyflwyno sylwadau eraill i mi dros y blynyddoedd ynglŷn â sut y gellid sicrhau bod gwahanol ddarnau o'r system gynllunio, yn enwedig y system reoli datblygu, yn fwy agored a thryloyw. Rwyf wedi cyhoeddi yn ddiweddar ein bod yn edrych i weld a allwn gael arolygiaeth gynllunio annibynnol i Gymru, ar wahân i'r un ar gyfer Lloegr, a byddwn yn bwrw ymlaen â'r ddau gynnig pan fyddwn yn edrych ar ein cyfraith gynllunio. Hefyd, mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi dweud bod y mesurau cydgrynhoi cyntaf y byddem yn edrych arnynt yng Nghymru yn debygol o fod ym maes cynllunio.
A gaf i gefnogi sylwadau Lynne Neagle? Hynny yw, mae yn bwysig bod angen cryfhau llais y gymuned leol oddi fewn y gyfundrefn gynllunio. Beth sydd yn siomedig, wrth gwrs, yw mi wnaeth Plaid Cymru osod gwelliannau i'r Bil cynllunio fan hyn yn 2013 i wneud yr union beth hynny, ond mi wrthodwyd hynny gan y Llywodraeth Lafur, ac mi bleidleision nhw yn erbyn y gwelliannau hynny, fel y gwnaethon nhw, gyda llaw, pan wnaethon ni osod gwelliannau i'r un Bil yn galw am arolygiaeth gynllunio annibynnol i Gymru. Wythnos diwethaf, roeddwn yn croesawu'n fawr eich datganiad ysgrifenedig chi fod Llywodraeth Cymru wedi gwneud tro pedol ar y mater yna a bellach yn cefnogi polisi Plaid Cymru ar ôl i ni fod yn galw am hynny ers blynyddoedd mawr. A wnewch chi wneud tro pedol arall, felly, a chefnogi'r hyn roeddem ni'n galw eto amdano fe yn 2013, sef i roi hawl i gymunedau i apelio ceisiadau cynllunio a fyddai wedyn, wrth gwrs, fel rydym ni i gyd yn dymuno, yn rhoi llais llawer cryfach i'n cymunedau ni o fewn y gyfundrefn honno?
Wel, rwy'n falch fod yr Aelod yn falch gyda'r cyhoeddiad—os nad yw hynny'n ormod o eiriau cadarnhaol—ac yn croesawu'r cyhoeddiad diweddar ein bod yn ystyried dichonoldeb gwahanu Arolygiaeth Gynllunio Cymru. Ac rydym yn gwneud hynny am nifer o resymau, y bydd yn gyfarwydd â hwy, ond yn bennaf am fod y sefyllfa'n newid yn gyflym o ran y gwahaniaeth yn y gyfraith fel y'i cymhwysir. Rwyf wedi ymrwymo i edrych ar bob agwedd ar y broses gynllunio i weld a allwn wella llais y gymuned, yn enwedig yn y broses reoli datblygu, felly yn y broses benodol o wneud cais. Yn bersonol, nid wyf wedi fy argyhoeddi ynghylch yr angen am apêl trydydd parti neu apêl bellach, ond credaf fod mesurau cryfhau y gellir eu rhoi ar waith, yn enwedig o ran archwiliadau safle ac yn y blaen, er mwyn gallu clywed llais y gymuned. Credaf y gall y broses bresennol ymddangos yn un gyfrin iawn o'r tu allan. Felly, rydym yn edrych i weld pa newidiadau eraill y gallwn eu gwneud i'r broses reoli datblygu, a chyn bo hir byddwn yn ymgynghori ar fframwaith datblygu cenedlaethol i roi'r cynllun trosfwaol ar waith hefyd. Felly, rwy'n obeithiol iawn y byddwn yn gweld datblygiad llawn y broses gynllunio yng Nghymru gyda holl lefelau strategol y cynllun ar waith, a chyda llais y dinesydd yn cael ei glywed ar y cam cynllunio ar gyfer pob un o'r rheini, ond nid wyf wedi fy argyhoeddi eto y dylai apêl trydydd parti fod yn rhan o'r broses honno.