Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 15 Mai 2019.
Weinidog, rwyf wedi fy syfrdanu nad ydych yn barod i gondemnio'r arfer hwn. Rydym wedi gweld yn gynharach yr wythnos hon fod Juha Kaakinen, un o'r bobl sy'n ymwneud â chynllun tai yn gyntaf Helsinki, wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o ddiffyg gweledigaeth a diffyg ffocws mewn perthynas â rhoi diwedd ar ddigartrefedd. Mae dros flwyddyn ers i'ch Llywodraeth ddweud ei bod yn adolygu angen blaenoriaethol, a hynny er gwaethaf y ffaith bod pob sefydliad sy'n gweithio yn y sector, a Phapur Gwyn eich Llywodraeth yn 2012, yn dweud bod angen i chi ddiddymu angen blaenoriaethol. Mae bron i flwyddyn wedi bod ers i Crisis gyhoeddi'r cynllun mwyaf manwl ar roi diwedd ar ddigartrefedd, gydag argymhellion ar gyfer pob Llywodraeth, ond nid ydym wedi gweld unrhyw ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i roi'r argymhellion hynny ar waith, er y byddech yn arbed arian drwy wneud hynny. Pa bryd y gwelwn weithredu go iawn ar fynd i'r afael â digartrefedd a gweithredu'r cynllun hwnnw?