Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 15 Mai 2019.
Yn amlwg, mae cryn wahaniaeth mewn tai gwledig a'r cyflenwad o dai gwledig, sy'n aml yn mynd yn groes i rai o'r nodau cynaliadwyedd, megis gwasanaethau bysiau, er enghraifft, sydd wedi cael eu torri, yn anffodus, dros y blynyddoedd diwethaf, a gallwn gael dadl a thrafodaeth ynglŷn â hynny. Ond yn aml iawn, pan fydd pobl yn cyflwyno ceisiadau am dai newydd mewn ardaloedd gwledig, maent yn methu'r prawf cynaliadwyedd, yn aml iawn oherwydd bod angen car er mwyn cael mynediad at wasanaethau ac ati. Dyna yw ei natur. A ydych yn derbyn y ddadl honno, Weinidog, ac a ydych yn credu bod yna achos dros edrych ar rai o'r rheolau a'r rheoliadau oherwydd amgylchiadau unigryw yr amgylchedd gwledig fel y gellir cael mwy o ddatblygiadau gwledig er mwyn sicrhau bod mwy o stoc dai ar gael?