Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 15 Mai 2019.
Pythefnos? Weinidog, dro ar ôl tro, rydym yn gweld eich Llywodraeth yn oedi ac yn llusgo'i thraed ar faterion cyfiawnder cymdeithasol sylfaenol hyd yn oed, boed yn ddigartrefedd, llygredd aer neu wahardd ffioedd annheg gan asiantaethau gosod tai. Nid ydym ond yn gweld camau gweithredu sawl blwyddyn wedi i'r mater ddod i'ch sylw—grwpiau gorchwyl a gorffen diddiwedd, nad ydynt yn gorffen unrhyw beth yn y pen draw, adolygiadau sy'n dweud wrthym yr hyn a wyddom eisoes, a chanfod 'cydbwysedd' sy'n rhaid ei daro rhwng hawliau unigolion agored i niwed a sefydliadau mawr, nad ydynt yn hoffi'r ffaith bod pobl sy'n cysgu allan yn difetha eu profiad manwerthu. Ai dyma yw ystyr sosialaeth yn yr unfed ganrif ar hugain?