Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:46 pm ar 15 Mai 2019.
Mae diffyg tai fforddiadwy, wrth gwrs, yn broblem arbennig o ddwys mewn ardaloedd gwledig, ond lle mae yna dai fforddiadwy yn cael eu codi—gallaf i ddangos enghreifftiau i chi yn fy rhanbarth i yng Ngogledd Cymru—mae hyd yn oed y rheini, er eu bod yn cael eu codi â phob bwriad da, yn aros yn wag, a hynny am nifer o resymau, yn cynnwys, wrth gwrs, yr angen am flaendal sydd yn rhy fawr yn aml iawn i bobl leol ei fforddio. Felly, fel un cam ymarferol i drio cynnig help i gymunedau cefn gwlad yn y cyd-destun yma, a gaf i ofyn i’r Gweinidog a fyddech chi’n barod i ystyried creu cronfa cyfalaf benodol ar gyfer ardaloedd gwledig er mwyn helpu pobl leol, ac yn enwedig pobl ifanc, i allu fforddio prynu neu rentu tai yn yr ardaloedd gwledig hynny?