Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:38 pm ar 15 Mai 2019.
Nid wyf yn siŵr fy mod yn gwybod llawer am y fenter benodol honno, ond rydym wedi gweld cynlluniau da a chadarnhaol ar draws ein cysylltiadau â'r lluoedd arfog. Cyfarfu'r Prif Weinidog a minnau â brigadydd Cymru yn ddiweddar iawn i drafod ein perthynas barhaus â'r lluoedd arfog yma yng Nghymru a'r hyn y gallwn ei wneud i gynorthwyo ein gilydd i gael y gorau o'r berthynas honno.
Mae gennym draddodiad hir a balch o ddarparu pobl i'r lluoedd arfog. Rwy'n falch iawn o ddweud fy mod wedi mynychu gorymdaith y gwarchodlu Cymreig drwy Abertawe yn ddiweddar, ac roeddwn yn falch iawn o allu mynychu. Felly, mae arnaf ofn nad wyf yn ymwybodol o fanylion yr hyn y soniodd amdano. Buaswn yn falch iawn o gael gwybod mwy amdano. Mae'n swnio'n wych ac rwy'n fwy na pharod i gymryd mwy o ran yn hynny, os hoffai roi'r manylion i mi.