Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:59 pm ar 15 Mai 2019.
Diolch, Weinidog, ac rwy'n ymwybodol iawn o'r gwaith da a wneir gan sefydliadau fel y ganolfan cyngor ar bopeth yn fy etholaeth. Fodd bynnag, mae llawer o wasanaethau hanfodol yn cael eu diddymu'n gyson yn rhai o gymunedau'r Cymoedd, a bydd llawer ohonom wedi gweld hynny. Gan weithio gyda fy nghydweithiwr Gerald Jones AS, rydym wedi ymgyrchu i achub rhai o'r gwasanaethau bancio masnachol mewn trefi fel Rhymni, ac ar hyn o bryd, rydym yn ceisio cadw mynediad at rwydwaith o beiriannau codi arian parod am ddim, yn ogystal â chefnogi gwaith yr undebau credyd lleol. Ym mha ffyrdd eraill y gall Llywodraeth Cymru ddarparu cymorth i sicrhau cynhwysiant ariannol yn y cymunedau hyn?