Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 3:03 pm ar 15 Mai 2019.
Yn sicr. Caiff gwasanaethau llywodraeth leol eu hariannu drwy'r grant cynnal refeniw, ardrethi annomestig, y dreth gyngor, grantiau penodol gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ac incwm yr awdurdodau eu hunain, gan gynnwys ffioedd a thaliadau. Yn 2019-20, mae'r setliad llywodraeth leol yn darparu £4.2 biliwn o gyllid cyffredinol, gyda £900 miliwn arall mewn grantiau penodol.