Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:43 pm ar 15 Mai 2019.
Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei hymateb. Nawr, bydd y Gweinidog yn ymwybodol o bryderon yn Sir Benfro mewn perthynas â pholisi cynllunio Llywodraeth Cymru o ran datblygiadau Un Blaned, gan ei bod wedi derbyn gohebiaeth oddi wrthyf, ac yn wir, oddi wrth etholwyr ar y mater hwn. Mae rhai o fy etholwyr, ac yn wir, Cyngor Sir Penfro, wedi mynegi pryderon ynghylch sawl agwedd, ond maent yn ymwneud yn bennaf â monitro'r cynlluniau busnes a'r pwysau y mae hyn yn ei roi ar awdurdodau cynllunio lleol i sicrhau bod adeiladau'n cael eu datblygu mewn ffordd briodol. Yng ngoleuni'r baich enfawr ar awdurdodau cynllunio lleol, a'r pryderon gan fy etholwyr yn wir, a fyddai'r Gweinidog yn cytuno ei bod yn bryd adolygu polisi datblygu Un Blaned?