Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:09 pm ar 15 Mai 2019.
A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn a'i sicrhau fy mod wedi siarad gyda Tata Steel a chyda chynrychiolwyr undebau llafur, ynghyd â'r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol? Mae'n rhy gynnar ar hyn o bryd i ddweud beth y gallai hyn ei olygu i Tata Steel yng Nghymru, ond wrth gwrs, Lywydd, mae Llywodraeth Cymru yn barod i sicrhau dyfodol cynaliadwy ar gyfer cynhyrchu haearn a dur yng Nghymru sy'n diogelu cyflogaeth a chymunedau dur.