Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:28 pm ar 15 Mai 2019.
Buaswn yn falch o gyfarfod â'r Aelod yn y gwaith y mae'n ei gynrychioli. Gofynnais gwestiynau i Tata ddydd Gwener ynglŷn â phob un o'r safleoedd, a dywedwyd wrthyf fod gwerthiant gwaith Orb yn parhau. Mae'n sefyllfa wahanol i Drostre—nid yw'r broses o waredu'r safle penodol hwnnw'n digwydd os nad yw'r uno'n mynd yn ei flaen. Ond byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am bob un o'r safleoedd pan gaf y wybodaeth gan fy swyddogion a chan Tata, a phryd bynnag sy'n bosibl, byddaf hefyd yn ymdrechu i ymweld â gweithfeydd dur yn etholaethau unrhyw un ohonoch.