Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:29 pm ar 15 Mai 2019.
Mae'r Llywydd wedi nodi bod yn rhaid i mi fod yn fyr, ac mae nifer o gwestiynau wedi'u gofyn ynglŷn ag ynni y prynhawn yma, ond ynglŷn â'r modd y gall Llywodraeth Cymru helpu a chefnogi'r diwydiant o ran ardrethi busnes a chymorth gydag ardrethi busnes, buaswn yn ddiolchgar am unrhyw ddiweddariad ar hynny. Hefyd, a oes gennych unrhyw syniad sut y gallai'r cyhoeddiad hwn effeithio ar y buddsoddiad masnachol i sicrhau dyfodol hirdymor i safle Trostre hefyd?