Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:33 pm ar 15 Mai 2019.
—ac yn y blaen. Ond mae'r math yma o beth, dwi'n meddwl, yn mynd i danseilio hyder, er ei bod hi'n deg gofyn ar bwy mae'r bai: ar y cyflogwr am fethu â defnyddio'r cod iawn, ynteu ar y system, yn cynnwys Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi, am beidio â sylweddoli ar y pryd fod y codau anghywir yn cael eu gweithredu, ac yn y blaen?
Felly, eisiau gofyn am ragor o sicrwydd ydw i ynglŷn â'r camau gweithredu penodol fydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd rŵan, yn benodol er mwyn adfer hyder trethdalwyr Cymru yn y broses yma. A pha waith pellach fydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud efo Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi er mwyn sicrhau bod yna, os liciwch chi, beth fyddech chi'n ei alw yn Saesneg yn early warning system a'r math yna o beth, lle mae'r codau anghywir yn cael eu defnyddio?
Yn digwydd bod, nid oes symiau ariannol mawr yn y fantol yn fan hyn. Dwi'n meddwl bod pobl wedi'u gordalu, neu wedi talu rhy ychydig, rhywle rhwng £2 a £10. Felly, nid ydyn nhw'n symiau mawr o arian, ond hyder ydy'r mater yn fan hyn, ac mi fyddwn yn gofyn am air neu ddau o sicrwydd ynglŷn â'r camau a fydd yn cael eu cymryd gan y Llywodraeth o hyn ymlaen.