Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:34 pm ar 15 Mai 2019.
Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn a'r cyfle i roi mwy o eglurhad ar y mater. Mae Rhun ap Iorwerth yn iawn: roedd hwn yn beth hanesyddol a wnaethom ar 6 Ebrill yn rhan o'r gwaith o osod ein cyfraddau treth ein hunain, ac mae'n bwysig fod pobl yn gallu ymddiried yn llwyr yn y system sy'n sail i hynny. Credaf y byddai'n ddefnyddiol pe bawn yn nodi'r hyn a ddigwyddodd, er mwyn egluro'r sefyllfa bresennol.
Felly, mae CThEM yn dyrannu'r codau treth cywir i holl drethdalwyr y DU drwy'r ymarfer codio blynyddol. Yna, mae CThEM yn cyhoeddi ffurflen P9 i gyflogwyr, sy'n cadarnhau'r codau treth i'w dyrannu i bob un o'u cyflogeion. Yna, cyfrifoldeb y cyflogwr yw defnyddio'r cod treth yn gywir gan ddefnyddio pa feddalwedd neu broses bynnag a fabwysiadwyd ganddynt. Ac roedd rhai darparwyr gwasanaethau'r gyflogres, yn yr achos hwn, wedi gosod y cod S yn anghywir i drethdalwyr Cymru. Rydym yn aros am ragor o fanylion ynglŷn â sut y digwyddodd hyn, ond mewn rhai achosion ymddengys nad yw darparwyr gwasanaethau'r gyflogres wedi diweddaru eu meddalwedd i'w galluogi i osod y cod C.
Mae hynny'n arbennig o siomedig gan fod CThEM wedi gwneud gwaith helaeth gyda chyflogwyr a darparwyr meddalwedd y gyflogres drwy gydol y paratoadau ar gyfer cyflwyno cyfraddau treth incwm i Gymru, gan ddefnyddio eu sianeli cyfathrebu sefydledig a chyflwyniadau pwrpasol, yn ogystal â darparu manylebau technegol a data profion i sicrhau bod cyflogwyr a darparwyr meddalwedd y gyflogres wedi cael yr holl wybodaeth angenrheidiol. Felly, nid oes tystiolaeth ar hyn o bryd fod CThEM wedi gwneud unrhyw gamgymeriadau wrth ddyrannu'r codau i unigolion. Fel y dywedaf, mae'n siomedig fod y camgymeriad wedi digwydd, ond y tu hwnt i hynny, credaf y gallwn ddweud yn eithaf hyderus fod popeth arall wedi mynd yn esmwyth, felly credaf fod hynny'n sicr yn gadarnhaol.
O ran y camau gweithredu: un o'r pethau a nodwyd gennym yn gynnar, cyn i Gyfraddau Treth Incwm Cymru ddod i rym, oedd y byddai profion yn cael eu cynnal ar y system. Bydd un prawf yn cael ei gynnal ym mis Mehefin a dyna'r dyddiad cynharaf y bydd y data perthnasol ar gael i bob cyflogwr oherwydd y dyddiadau cau i gyflogwyr gyflwyno eu gwybodaeth am y gyflogres i CThEM. Felly, ar ôl i CThEM gynnal y gwiriadau hyn, byddwn yn gallu nodi unrhyw anghysonderau a nodi'r cyflogwyr y bydd angen iddynt ddiweddaru sefyllfa dreth eu gweithwyr.
Mae Rhun ap Iorwerth yn iawn i ddweud nad ydym yn sôn am symiau ariannol mawr. Felly, yn nodweddiadol, lle mae trethdalwyr heb dalu digon o dreth, neu lle maent wedi talu gormod, ni fyddent fwy na £2 yn brin neu lle byddent wedi gordalu, ni fyddai'n fwy na £10. Ac mewn rhai achosion, er bod trethdalwyr wedi cael y cod anghywir, byddent wedi talu'r swm cywir o dreth.
Bydd CThEM yn datrys pob camgymeriad, felly nid oes angen i drethdalwyr roi unrhyw gamau ar waith, ac yn amlwg rwy'n awyddus iawn i sicrhau bod fy nghyd-Aelodau yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw ddatblygiadau pellach, ac yn sicr pan fyddwn wedi cael canlyniadau'r profion, a gaiff eu cynnal ym mis Mehefin.